Grant newydd i helpu astudiaethau’r Hen Aifft

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn grant Ymddiriedolaeth Leverhulme gwerth £158k i ariannu ‘Prosiect Demonaeth yr Hen Aifft: yr Ail Fileniwm CC’ dan gyfarwyddiad Dr Kasia Szpakowska o’r Adran Hanes a’r Clasuron.

Bydd y prosiect hwn yn archwilio byd y cythreuliaid yn yr Hen Aifft yn yr ail fileniwm CC (2000-1000 CC) ac un o’i brif amcanion yw helpu datblygu criteria i fapio neu gynhyrchu  encyclopedia, (neu ddemonoleg), gan nad oes adnodd o’r fath yn bodoli ar hyn o bryd.

Yn y byd modern a’r hen fyd fel ei gilydd, mae cythreuliaid gelyniaethus yn cael eu beio am amrywiaeth o brofedigaethau ffisegol a seicolegol, tra gelwir ar endidau cynorthwyol i gynorthwyo’r dioddefwr. Ond er y gwyddys lawer am grefyddau temlau a duwiau’r Hen Aifft, mae ochr dywyllach crefydd Eifftaidd yn parhau i fod yn ddirgelwch. Ond yn ffodus, mae nifer o hudion wedi goroesi sy’n enwi cythreuliaid ac mae delweddau a gwrthrychau’n parhau i fodoli a ddefnyddiwyd i’w hymladd - mae’r adnoddau hyn yn hanfodol ar gyfer y prosiect.                                                                             

Burning cobra demon

Un o agweddau nodedig y prosiect hwn yw y bydd yn dal i fod yn ddefnyddiol y tu hwnt i’r Aifft yn y mileniwm 1af CC. Bydd y gronfa ddata, neu’r ddemonoleg, ar gael i gydweithwyr sy’n gweithio ar endidau goruwchnaturiol o gyfnodau a diwylliannau eraill, a bydd hyn yn taflu goleuni ar endidau demonaidd drwy amser.

Bydd y gronfa ddata hon hefyd yn adnodd parhaol i’r cyhoedd a fydd yn eu galluogi i chwilio am wybodaeth ar gythreuliaid yr hen fyd a bydd cyfleuster delweddau arloesol ar y we yn rhoi golwg iddynt ar yr agwedd hon o fywyd yr Hen Aifft a fu, tan yn awr, yn ddirgelwch.

Ar lefel ymarferol, caiff y gwrthrychau sydd wedi’u cynnwys yn yr ymchwil eu dosbarthu gan roi mynediad i’r cyhoedd, ac i ymchwilwyr, at sawl gwrthrych na fyddant wedi’u hadnabod o’r blaen yn y casgliadau.

Bydd y prosiect a ariannwyd gan Leverhulme yn para am dair blynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd Dr Szpakowska, a’i thîm yn gweithio yn Abertawe ac yn mynychu cynadleddau yn yr Aifft ac yng Ngogledd America.

Ynghlwm i’r prosiect y mae dwy ysgoloriaeth ymchwil PhD a ariannir yn llawn gan Ymddiriedolaeth Leverhulme a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â’r Adran Hanes a’r Clasuron o 2013 ymlaen dan oruchwyliaeth Dr Szpakowska.

Meddai Dr Szpakowska, “Rydw i wrth fy modd yn llwyr o gael y cyfle hwn i daflu goleuni ar fyd y cythreuliaid. Tra bod duwiau megis Osis neu Iris yn gyfarwydd, mae ochr dywyllach crefydd ac endidau bygythiol megis “Sehaqeq”, “Anadl Tân”, neu’r “Ysydd Calonnau” wedi byw yn y cysgodau. Bydd technoleg ddigidol newydd yn galluogi ein tîm i archwilio’u byd a’i wneud yn hygyrch. Rwy’n gobeithio na fydd ots gan y cythreuliaid ddod allan o’r tywyllwch a’u bod yn bihafio’u hunain.”

Meddai Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Dr Elaine Canning: “Rhaid llongyfarch Dr Szpakowska am ennill y wobr hynod freintiedig hon a fydd yn hwyluso’r gwaith o ddatblygu mewnwelediadau anhygoel i fyd demonaeth yr Hen Aifft ond hefyd yn gosod y Dyniaethau Digidol yn Abertawe ar y map.”