Dymuniadau Gorau i Dewi ar Ddechrau Blwyddyn Newydd yng Nghaeredin

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Dewi Griffiths, myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe wedi’i ddewis i gynrychioli Prydain Fawr yn Ras Traws Gwlad Bupa yng Nghaeredin ddydd Sadwrn 5 Ionawr 2013.

DewiGriffiths

Cafodd yr athletwr profiadol a chyn ddisgybl Ysgol Tregib ei ddewis wedi perfformiad gwefreiddiol ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad Ewrop yn Szentendre, Budapest ddechrau’r mis.

Cynhelir y ras ym Mharc Holyrood, Caeredin a bydd Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, Unol Daleithiau America ac Ewrop yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Y nod fydd dod i’r brig ym mhob ras unigol a’r tîm fydd â’r perfformiadau gorau ar gyfartaledd fydd yn cipio’r brif wobr.

Yn ôl Gwyneth Diment, Pennaeth Chwaraeon a Hamdden Prifysgol Abertawe: ‘‘Roedd 2012 yn flwyddyn fythgofiadwy i Dewi a chafodd ei enwebu yn Athletwr Gorau Ewrop fis Hydref o ganlyniad. Hyderwn y bydd 2013 yr un mor llwyddiannus a gobeithiwn y bydd yn cael y dechrau gorau posib i’r flwyddyn newydd gyda pherfformiad i’w gofio yng Nghaeredin.’’