Discovery yn tyfu o nerth i nerth diolch i Desmond Tutu

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd pennaeth Discovery, elsuen wirfoddol wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe'r fraint o gyfarfod yr Archesgob Desmond Tutu yn ystod ei ymweliad â Chymru yr wythnos hon.

DesmondTutu

Cafodd Christine Watson, pennaeth yr elusen ers 1993, ei gwahodd i ginio arbennig yn Neuadd y Ddinas Caerdydd gan Sefydliad Mamau Affrica fel rhan o ‘Cynllun o Blaid Affrica’ Llywodraeth Cymru.

Mi wnaeth Cyfle Dysgu Rhyngwladol Llywodraeth Cymru alluogi Christine i wirfoddoli yn Zambia yn 2008 wnaeth ei hysbrydoli i ddatblygu Partneriaeth Abertawe Siavonga, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Abertawe, gan gynnwys Prifysgol Abertawe a rhai o Siavonga, de Zambia.

Mae’r bartneriaeth wedi tyfu o nerth i nerth ac mae nifer o fyfyrwyr y brifysgol wedi manteisio ar y cyfle i ymweld â Siavonga a chymryd rhan mewn amryfal weithgareddau, rhannu sgiliau a chael blas ar ffyrdd gwahanol o fyw.

Mae’r bartneriaeth yn canolbwyntio ar yr amgylchedd, maeth a thlodi yn ogystal ag ysgogi gwirfoddolwyr i barhau â’u gwaith wrth rannu eu profiadau â myfyrwyr eraill ac ysgolion lleol fel rhan o’r cynllun sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.

Mae Gareth Taylor, sy’n astudio Daearyddiaeth yn ei ail flwyddyn wedi elwa o’r bartneriaeth. Mae Gareth newydd ddychwelyd o Siavonga ar ôl gwirfoddoli yno gyda naw myfyriwr arall.

GarethTaylor

Cymerodd y myfyrwyr ran mewn amryfal weithgareddau, gan gynnwys dysgu plant mewn cartrefi amddifad, peintio’r ysbyty lleol a chynnal gweithdai ar gyllid a llythrennedd i fenywod oedd yn byw yn y pentref.

Meddai Gareth: ‘‘Roedd gwirfoddoli yn Siavonga yn brofiad gwirioneddol fythgofiadwy. Roedd cydweithio â’r gymuned leol a rhannu profiadau â’r trigolion yn bleser pur. Hoffwn ddiolch i dîm Discovery am y cyfle a buaswn yn annog myfyrwyr eraill i fanteisio ar y cynllun yn y dyfodol.’’

Ychwanegodd Christine: ‘Roedd cyfarfod Desmond Tutu a rhannu fy niddordeb yn Siavonga gydag ef yn anrhydedd. Mae gweld partneriaeth Abertawe-Siavonga yn datblygu dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyffrous iawn ac rwy’n gobeithio y bydd myfyrwyr yn dilyn ôl troed Gareth ac yn cymryd rhan yn y cynllun pan ddaw cyfle.’’