Cynhadledd Ewropeaidd ar Epidemioleg Clefyd y Siwgr yn dod i Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn sgil adroddiadau bod cymhlethdodau clefyd y siwgr yn costio 80% o gyllideb flynyddol y GIG, mae Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe yn cynnal cynhadledd ryngwladol am dri diwrnod yn cychwyn yfory (Sadwrn, 12 Mai), yn trafod yr ymchwil diweddaraf o ran atal y clefyd ac o ran gofalu am gleifion.

Cynhelir y Gynhadledd Ewropeaidd ar Epidemioleg Diabetes (ar ran y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Astudio Diabetes) yng Ngwesty'r Village, Abertawe rhwng dydd Sadwrn 12 Mai a dydd Llun, 14 Mai.

Rhoddir cyflwyniadau ar ymchwil rhyngwladol, megis rhai gan gynrychiolwyr o Pittsburgh, UDA ac o'r Eidal ar Ddiabetes Math 1, a rhai'n delio ag ymchwil yn y DU, megis cynrychiolwyr o Gaergrawnt yn siarad ar Ddiabetes Math 2.

Mae'r pynciau'n cynnwys; beichiogrwydd a diabetes, effaith genau a ffordd o fyw o ran achosi diabetes, rhagweld diabetes, ac atal cymhlethdodau tymor hir y clefyd.

Hefyd, lansir yr 'Adroddiad Plant' yn ystod y gynhadledd.  Mae hyn yn grynodeb o ganfyddiadau arolwg iechyd plant yn Ne Cymru, a ysgrifennwyd gan y plant eu hunain.

Mae canfyddiadau'r adroddiad yn cynnwys: mae plant ysgol yn fwy gweithgar os yw eu rhieni'n chwarae gyda nhw tra eu bod yn fabanod; agweddau tuag at blant yn eu harddegau yw'r prif rwystr i weithgarwch corfforol (nid oes neb eisiau grwpiau o laslanciau'n chwarae pêl droed neu'n sgrialu).

Mae argymhellion y plant wedi arwain at grant a ariennir gan Gymdeithas Feddygol Prydain (y BMA) fydd yn galluogi plant i ddatblygu gweithgarwch corfforol yn yr ardal leol.

Bydd y plant cyntaf i brofi'r Talebau Gweithgarwch yn dod i'r gynhadledd ar ddydd Sadwrn, 12 Mai, i drafod eu canfyddiadau a'u hargymhellion i wella gweithgarwch.

Hefyd, mae Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe wedi rhoi bwrsariaeth i Brittni Frederiksen o'r UDA am astudiaeth ar "Infant exposures and development of type 1 diabetes", sy'n dangos sut mae diddyfnu cynnar yn ffactor pwysig o ran plant sy'n datblygu diabetes Math 1.

Am ragor o wybodaeth am y gynhadledd, cysylltwch â Dr Sinead Brophy, ffôn: 01792 602058, e-bost: s.brophy@abertawe.ac.uk, neu ewch i http://edeg.intelliopen.hu/EDEG-2012/8/.