Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Caiff y Ddarlith Gyhoeddus Olaf mewn Diwinyddiaeth ar gyfer tymor yr haf hwn ym Mhrifysgol Abertawe ei thraddodi gan y Parchedig Dr Ian Ker, sy'n Offeiriad Catholig ym Mhlwyf Burford, Cymrawd Ymchwil Hyn yn Neuadd St Benet Rhydychen ac yn Ddarlithydd mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.
Teitl: On Writing Biography
Siaradwr: Y Parchedig Dr Ian Ker
Dyddiad: Dydd Mawrth 29 Mai 2012
Amser: 7 pm
Lleoliad: Darlithfa Faraday 'A', Adeilad Faraday, Prifysgol Abertawe
Mynediad am ddim - croeso i bawb
Mae'r Tad Ian Ker, ysgolhaig Newman sy'n adnabyddus ar draws y byd, yn Gymrawd Ymchwil Hyn yn Neuadd St Benet, Rhydychen ac mae wedi dysgu llenyddiaeth Saesneg a diwinyddiaeth mewn prifysgolion ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau. Mae'n awdur ac yn olygydd ar dros ugain o lyfrau ar Gardinal Newman, gan gynnwys yr hyn y mae'r mwyafrif o ysgolheigion yn ei ystyried fel y bywgraffiad awdurdodol (1988).
Mae'r Tad Ker hefyd yn awdur ar The Catholic Revival in English Literature, 1845-1961 a llawer o gyhoeddiadau eraill hefyd, gan gynnwys ei lyfr diweddaraf, bywgraffiad diddorol tu hwnt ar G.K. Chesterton. Mae'r Tad Ker hefyd yn gwasanaethu fel Offeiriad Catholig ym Mhlwyf Burford.
Am ragor o wybodaeth: Cysylltwch â'r Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan, Prifysgol Abertawe. Ffôn: 01792 205678 est. 4442 neu e-bost: n.john@abertawe.ac.uk
- Dydd Mercher 9 Mai 2012 01.00 BST
- Dydd Mawrth 8 Mai 2012 15.05 BST
- Swansea University