Cydweithrediad Prifysgol Abertawe’n helpu timoedd hwylio Olympaidd/Paralympaidd i adael eu gwrthwynebwyr wrth y lan

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae timoedd hwylio Olympaidd a Pharalympaidd y Swistir ac Israel wedi gallu cael y gorau ar eu gwrthwynebwyr gyda chymorth thesis MSc myfyriwr.

Cafodd y thesis ar “Batrymau tywydd ar gyfer hwylio ym Mae Weymouth a harbwr Portland: Dadansoddiad ar Gemau Olympaidd 2012” ei ysgrifennu gan Louisa Ververs pan roedd hi’n fyfyriwr yn ETH Zurich mewn cydweithrediad agos â Phrifysgol Abertawe.

Cafodd Louisa ei dewis a’i goruchwylio gan Dr Natascha Kljun, Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gan Dr Kljun gysylltiadau cryf ag ETH Zurich lle y mae Meteoroleg a Gwyddorau Hinsawdd yn cael eu dysgu ac mae’n cael ei gwahodd bob blwyddyn i ddysgu seminar mewn meteoroleg gymhwysol i hwylwyr a gofynnodd Prif Swyddog Gweithredol tîm hwylio Olympaidd y Swistir, iddi ddod o hyd i fyfyriwr addas i ymgymryd â’r thesis.

Sailing-weather-thesis jpg

Yn y byd hwylio, y gred gyffredinol yw bod gan gystadleuwr cartref fantais gan eu bod yn gyfarwydd â’r patrymau tywydd lleol. Mae cystadleuwyr o dramor yn aml yn dibynnu ar feteorolegwyr i ragfynegi amodau tywydd y dyfodol. Roedd thesis Louisa yn edrych ar batrymau tywydd lleol yn Weymouth, a fu’n gartref i gystadlaethau hwylio’r Gemau Olympaidd, gan ddefnyddio data tywydd hanesyddol gan y Swyddfa Dywydd a model cyfrifiadur cymhleth.

 

 

Yn ystod ei hymchwil roedd Louisa mewn cyswllt yn rheolaidd gyda hyfforddwr tîm hwylio’r Swistir a’r arbenigwr tywydd lleol a benodir felly pan symudodd i’r DU ar ôl gorffen y thesis nid oedd angen llawer o berswâd arnynt i’w phenodi fel cynorthwyydd ar gyfer y Gemau Olympaidd.  

Sailing-weather-thesis2 jpg    

Gyda’i hysbienddrychau, ei chwmpawd, ei chamera, ei llyfr nodiadau a’i fflagiau treuliodd Louisa y Gemau Olympaidd yn eistedd ar y morlin yn edrych ar gymylau ac yn cymryd lluniau a nodiadau o batrymau gwynt diddorol ac ar ddiwedd y dydd, byddai’n rhoi gwybod i’r prif feteorolegwr am eu canfyddiadau fel bod modd i’r hwylwyr ragweld newidiadau gwynt a phatrymau tywydd lleol.

 

Dywedodd Louisa ei fod wedi bod yn brofiad gwych, nid dim ond i fod yn rhan o’r Gemau Olympaidd ond hefyd i weld rhywbeth y bu’n astudio ar sgrin gyfrifiadur milltiroedd i ffwrdd am y 6 mis diwethaf a gweld bod ei gwaith ymchwil yn cael ei ddefnyddio at ddiben da. 

Yn dilyn y Gemau Olympaidd roedd hi’n bryd am y Gemau Paralympaidd a gofynnodd tîm hwylio sonar Israel i Louisa rannu eu canfyddiadau â nhw. Gyda gwybodaeth gyhoeddus brin ar batrymau tywydd lleol ac ymddygiad gwynt oedd yn amrywio, cafodd yr hwylwyr a’r meteorolegwyr regata heriol tu hwnt. 

Graddiodd Louisa y gwanwyn hwn gyda marc cyfwerth ag anrhydedd dosbarth cyntaf am ei thesis ac mae hi wedi dweud droeon mor anhygoel oedd y profiad iddi a bod y cydweithio rhwng ETH Zurich a Phrifysgol Abertawe’n cynnig cyfleoedd gwych iddi hi ac ar gyfer gyrfaoedd myfyrwyr eraill yn y dyfodol.