Cofrestr MS y DU yn cael hwb yn MS Life

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Cofrestr Sglerosis Ymledol y DU Prifysgol Abertawe, un o fuddsoddiadau sylweddol y Gymdeithas MS a arweinir gan David Ford, Cyfarwyddwr Gwybodeg Iechyd yn y Coleg Meddygaeth, wedi derbyn hwb yn y digwyddiad MS Life ym Manceinion.

Mae'r Gofrestr yn casglu ac yn cyfuno data electronig mewn modd unigryw o dair ffynhonnell hanfodol: o ganolfannau diagnosteg a chanolfannau triniaeth mewn ysbytai; o sefydliadau gofal iechyd eraill; ac, yn arwyddocaol, yn uniongyrchol gan bobl sy’n byw gyda MS yn y DU a gofynnir i’r rhai hynny sy’n cofrestru i ateb ystod o gwestiynau pwysig yn ymwneud â’u cyflwr, eu triniaethau a sut y mae MS yn effeithio ar eu bywydau.

Meddai Rheolwr Prosiect MS y DU Rod Middleton: “Yn MS Life yng nghanol Manceinion, lansiwyd ail gyfnod y porth gyda holiaduron newydd a gwnaeth mwy na 250 o bobl newydd sy’n byw gyda MS ymuno â’r porth yn ystod y digwyddiad dau ddiwrnod ac atebwyd 861 o holiaduron dros y ddau ddiwrnod. Roedd hi wir yn llwyddiant ysgubol.”

Mae’r aelodau newydd hyn yn ychwanegu at dros 8,500 o aelodau Porth gweithredol ym 5 ardal beilot y prosiect ac mae’r wybodaeth y maent yn ei darparu bellach yn cael ei chysylltu â gwybodaeth o’u cofnodion ysbyty electronig i ddarparu golwg unigryw ar sut y mae MS a’r driniaeth ohono yn effeithio ar fywydau pobl.

Mae cynlluniau bellach yn cael eu datblygu i gyflwyno’r Gofrestr ar draws y DU, fel bod modd deall y darlun cenedlaethol llawn, a hynny am y tro cyntaf, gan greu llwyfan i gefnogi ystod eang o astudiaethau ymchwil newydd i helpu taflu golau ar y cyflwr cymhleth hwn a gamddeallir yn aml.

Meddai Ed Holloway, Pennaeth Ymchwil Gofal a Gwasanaethau yn y Gymdeithas MS: “Drwy’r diddordeb a ddangoswyd roedd hi’n glir bod pobl yn cysylltu â’r prosiect. Aeth llawer iawn o waith caled i mewn i’r cyfnod paratoi a’r digwyddiad ei hun, a gweithiodd y tîm y tu hwnt i’n disgwyliadau arferol ar gyfer deiliaid grantiau. Yn ogystal â’r nifer fawr o holiaduron a gwblhawyd dros y penwythnos, rydw i’n siwr y bydd pobl yn mynd yn ôl at eu canghennau a’u cysylltiadau i’w hannog i ymuno.”

 ms life

MS Life

rhes ol: Dr Jeffery Peng, Rod Middleton, Simon Ellwood-Thompson, Gareth Noble, Stephanie Lee 

rhes flaen David Ford, Hazel Lockhart and  Dr Kerina Jones.

 

 

 

Am ragor o wybodaeth ynglyn â Chofrestr MS y DU, cysylltwch â Rod Middleton, Rheolwr Prosiect Cofrestr MS y DU, ar r.m.middleton@abertawe.ac.uk neu ewch i www.ukmsregister.org