Cipolwg cyntaf ar yr iâ sy’n diflannu yn yr Ynys Las trwy gyfrwng y Gymraeg yn GwyddonLe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Brynhawn Gwener 8 Mehefin am 3 o’r gloch bydd dangosiad cyhoeddus cyntaf y ffilm Gymraeg ‘GLIMPSE: Yr iâ sy’n diflannu o’r Ynys Las’ ym mhabell GwyddonLe ar faes Eisteddfod yr Urdd 2012.

GreenlandIce2 Mae’r ffilm ddogfen yn dilyn tîm o rewlifwyr o Brifysgol Abertawe ar daith maes ymchwil i archwilio sut a pham y mae iâ'r Ynys Las yn newid. Mae’r ffilm wedi’i saethu, ei golygu a’i chynhyrchu gan ymchwilwyr Grwp Rhewlifeg Abertawe, mewn cydweithrediad â chwmni 196 Production.

Ymhlith uchafbwyntiau’r ffilm mae mynydd iâ enfawr yn hollti, storm wyllt ymysg y mynyddoedd iâ, cyfarfyddiad agos ag arth wen heb anghofio golygfeydd godidog o rewlifoedd syfrdanol yr Ynys Las.

Ar ddiwedd y ffilm, bydd cyfle i bawb holi'r gwyddonwyr sy'n serennu yn y ffilm er mwyn cael blas ar fywyd gwyddonwyr yn y maes. 

Mae’r gwaith maes yn ffurfio rhan o’r prosiect a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, Greenland Ice Margin Prediction, Stability and Evolution (GLIMPSE), a arweinir gan yr Athro Tavi Murray o Goleg Gwyddoniaeth y Brifysgol.

GreenlandIce3 Meddai’r Athro Murray: “Rydym yn falch iawn bod y ffilm ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ac rwy’n gobeithio y bydd ymwelwyr â maes yr Eisteddfod yn tyrru i’w gweld brynhawn Gwener. Mae’r Ynys Las yn lle ysbrydoledig i wneud gwaith gwyddonol ac mae’r ffilm hon yn ffordd unigryw i ddangos sut beth yn union yw hi i fyw ac i weithio yno, yn ogystal â sut y mae’r llen iâ yn newid. Ac wrth gwrs, mae’r newidiadau sy’n digwydd yn yr Ynys Las yn effeithio arnom i gyd.”

Mae’r ffilm wedi’i chefnogi gan fenter Llwybrau i Effaith y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), a thrwy Ddyfarniadau Ysgoloriaethau Ymchwil ar y Cyd mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg gan y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC).

Gwyliwch ‘GLIMPSE: Yr iâ sy’n diflannu o’r Ynys Las’ yma.