Caffi Gwyddoniaeth Mis Hydref - Anturiaethau gydag ocsigen: safbwynt "radical"

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Caffe Gwyddoniaeth Abertawe'n gyfle i bawb ddod i gael gwybod mwy am feysydd newydd, cyffrous, a chyfredol yn y byd gwyddoniaeth. Wedi'i ddylunio i fod yn anffurfiol ac yn hwyl, mae'r caffi fel arfer yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher olaf bob mis yng Nghanolfan Dylan Thomas.

Teitl: Anturiaethau gydag ocsigen; safbwynt "radical"

Siaradwr: Yr Athro Damian Bailey o Brifysgol Morgannwg

Dyddiad: Dydd Mercher 24ain Hydref 

Amser: 7.30pm

Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim, croeso i bawb

Yn ystod y ddarlith hon bydd yr Athro Bailey'n archwilio ocsigen moleciwlaidd  (O2) y gellir ei ystyried yn gleddyf deufin, sy'n gallu cynnal bywyd ar y naill law ond sy'n angheuol ar y llaw arall os oes gormod neu ddim digon ohono.  Mae ganddo natur amwys oherwydd er ei fod yn cael ei ystyried yn "elicsir bywyd" mae hefyd yn bodoli yn yr aer fel radical rhydd.

Bydd y ddarlith hon yn edrych ar sut yr ydym yn darparu'r hyn a ystyrir yr "organ" bwysicaf yn y corff - yr ymennydd â'r "moleciwl" pwysicaf yn y byd - ocsigen!

Mae datblygiadau diweddar wedi’u gwneud drwy gymhwyso technegau mesur o'r radd flaenaf ar gyfer datgelu a nodweddu radicaliaid rhydd ar draws y cylchrediad ymenyddol ynghyd â delweddu cyseinedd magnetig a phwysir drwy ymlediad.

Bydd y cyflwyniad hwn hefyd yn trafod anturiaethau teithiau ar uchder a sut y mae salwch pen mynydd difrifol ac edema ymenyddol ar uchderau mawr yn digwydd.

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i noddi ar y cyd gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Gwybodaeth Bellach: Manylion cyswllt:

http://www.swansea.ac.uk/science/swanseasciencecafe/,

neu  e-bostiwch: c.allton@abertawe.ac.uk / e.c.pope@ abertawe.ac.uk

Nodiadau i'r golygyddion:

Ynglŷn â Chaffi Gwyddoniaeth Cymru:

Bob mis, bydd arbenigwr blaenllaw yn ei faes/maes yn rhoi sgwrs ragarweiniol fer wedi'i dilyn gan sgwrs anffurfiol gyfeillgar. Gallwch gymryd sedd, ymlacio â diod a gwrando neu gymryd rhan yn y drafodaeth a'r ddadl. Mae trefnwyr y Caffi Gwyddoniaeth yn ymrwymedig i hyrwyddo'r gwaith o gysylltu'r cyhoedd â gwyddoniaeth a gwneud gwyddoniaeth yn atebol.

Cynhelir cyfarfodydd Caffi Gwyddoniaeth Cymru mewn gosodiadau hamddenol yng Nghaerdydd, Abertawe a Bangor. Maen nhw fel arfer yn anffurfiol ac yn hygyrch ac mae mynediad yn rhad ac am ddim. Maen nhw fel arfer yn cychwyn â sgwrs fer gan y siaradwr, sy'n wyddonydd neu'n awdur fel arfer, gydag egwyl gyflym ar ôl hynny ac yna rhyw awr o drafod.

Mae pynciau blaenorol wedi cynnwys mater tywyll, yr annwyd cyffredin, Dr Who, y Glec Fawr a therapïau amgen.

Cynhaliwyd y Cafes Scientifiques cyntaf yn y DU yn Leeds yn 1998. O hynny allan tyfodd y caffis yn raddol gan ymledu ar draws y wlad.

Ar hyn o bryd, mae rhyw 40 o gaffis yn cwrdd yn rheolaidd i glywed gwyddonwyr neu awduron gwyddoniaeth yn siarad am eu gwaith ac yn ei drafod â chynulleidfaoedd amrywiol.