Bryn Tawe yn blasu bywyd y Brifysgol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ddydd Mercher, 16 Mai 2012 bydd disgyblion o Ysgol Gyfun Bryn Tawe, Abertawe yn cael bod yn fyfyrwyr am rai oriau, a hynny ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae deugain disgybl o flwyddyn 9, Ysgol Gyfun Bryn Tawe wedi’u gwahodd i gymryd rhan mewn sesiwn ‘Blas ar ieithoedd cyfrwng Cymraeg’ gan Adran Ieithoedd, Cyfieithu a’r Cyfryngau, Prifysgol Abertawe a chynllun Ymestyn yn Ehangach de orllewin Cymru.

Mae’r diwrnod wedi’i noddi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Abertawe ag Ymestyn yn Ehangach de orllewin Cymru, cynllun sy’n anelu at ehangu mynediad i addysg uwch ar draws de orllewin Cymru.

Nod y diwrnod fydd hybu cyfleoedd i astudio ieithoedd modern trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y disgyblion yn derbyn taith o amgylch y campws yn ogystal â sgwrs ynghylch bywyd prifysgol.

Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn gwahanol weithdai megis ‘Almaeneg i Bawb’, ‘Sbaeneg ar gyfer y gwyliau’ yn ogystal â sesiwn ‘Goroesi Cyfieithu Ffrangeg.’

Meddai Dr Geraldine Lublin o Adran Ieithoedd, Cyfieithu a’r Cyfryngau Prifysgol Abertawe: ‘Mae hi’n braf gweld bod cymaint o ddisgyblion Ysgol Gyfun Bryn Tawe yn awyddus i fod yn rhan o’r diwrnod. Rwy’n mawr obeithio y byddant yn mwynhau’r gweithdai ac yn gweld budd o astudio ieithoedd tramor trwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny ym Mhrifysgol Abertawe.’’