Arbenigwr Ieithyddiaeth o Brifysgol Abertawe’n ennill grant ariannu breintiedig

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae arbenigwr mewn ieithyddiaeth, athro ac ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill gwobr Cynllun Ysgoloriaeth Rhyngwladol breintiedig i astudio addysgu iaith Tsieinëeg.

Mae’r Uwch-ddarlithydd Dr Chris Chi-Chiang Shei wedi’i ddewis gan yr Academi Addysg Uwch i ymchwilio i arfer da mewn addysgu iaith Tsieinëeg ac i ddod â’i ganlyniadau uniongyrchol a’i ddeunydd addysgu yn ôl i’r DU.

Yn ystod ei dri mis i ffwrdd, mae Chris yn gobeithio ysgrifennu llyfr ar ieithyddiaeth Tsieinëeg, erthygl ar gyfer cylchgrawn a phapur ar gyfer cynhadledd. Bydd hefyd yn mynychu dosbarthiadau a seminarau a sesiynau addysgu ymarferol yn ystod ei gyfnod yn aros yn ei sefydliad dewisedig, sef Prifysgol Genedlaethol Kaohsiung Normal, Taiwan.

Mae gan Dr Chris Shei radd MA mewn ieithyddiaeth (Prifysgol Genedlaethol Chengchi), MPhil mewn Saesneg ac ieithyddiaeth gymhwysol (Prifysgol Caergrawnt), PhD mewn TESOL (Prifysgol Genedlaethol Normal Taiwan) ac ail PhD mewn gwybodeg (Prifysgol Caeredin). Bu’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ers 2003, fel darlithydd i ddechrau ac yna fel uwch-ddarlithydd o 2007. Mae’n dysgu ac yn goruchwylio ym maes astudiaethau ieithyddiaeth gymhwysol a chyfieithu.

Mae Chris yn fwyaf adnabyddus yng nghylchoedd ieithyddiaeth gymhwysol am y pum erthygl a gyhoeddodd gyda’r cylchgrawn the Journal of Computer Assisted Language Learning, yn enwedig am ei waith yn 2008 o’r enw “Discovering the hidden treasure on the Internet: using Google to uncover the veil of phraseology”, sydd wedi dod yn ddarn o waith a ddyfynnir yn helaeth ar gyfer ymchwil sy’n parhau ar y testun o ddefnyddio’r We fel cronfa ddata.

Mae Chris hefyd yn adnabyddus am gyfieithu llyfrau academaidd ac mae wedi cyfrannu at saith llyfr a gyfieithwyd o’r Saesneg i Tsieinëeg i’w defnyddio fel llyfrau testun ym maes Astudiaethau Addysgol yn Nhaiwan. Cyhoeddodd lyfr arloesol hefyd o’r enw “Cyfieithu a’r We: Theori, Ymarfer, a’r Norm” (cyfieithiad o’r teitl Tsieinëeg) ar ddiwedd 2010, y cyntaf o’r fath yn Nhaiwan. Mae Chris wrthi ar hyn o bryd yn gweithio ar lyfr ar ieithyddiaeth Tsieinëeg a fydd yn cael ei gyhoeddi gan gyhoeddwr Prydeinig i’r farchnad fyd-eang yn 2013.

Mae Chris yn ffurfio tîm ymchwil ar hyn o bryd gydag ysgolheigion yn Japan yn canolbwyntio ar ddefnyddio peiriannau cyfieithu ar y we (e.e. Google Translate) ac ysgrifennu ail iaith. Bydd y tîm yn edrych ar sut y mae myfyrwyr o Japan yn defnyddio Google Translate wrth ysgrifennu yn Saesneg a sut i wneud cyfieithu drwy beiriannau yn ddefnyddiol i ddysgwyr ail iaith. O ganlyniad i’w gefndir helaeth mewn theori ac ymarfer addysgu iaith, mae Chris, yn ogystal â bod yn athro iaith ac yn hyfforddwr athrawon iaith, hefyd yn ymchwilydd ar addysgu a dysgu ail iaith.

Mae rhaglen dyfarnu ariannu flynyddol yr Academi Addysg Uwch yn cefnogi datblygiad dysgu ac addysgu ar draws addysg uwch yn y DU.

Mae’r dyfarniadau yn adeiladu ar waith yr Academi yn un o’i saith maes thematig allweddol, sef: asesu; addysg ar gyfer datblygiad cynaliadwy; cyflogadwyedd; rhyngwladoli; dysgu hyblyg; dargadw a llwyddiant; a gwobrwyo a chydnabod addysgu. Bydd eu hamcanion yn helpu adeiladu ar gronfa o dystiolaeth ar gyfer dysgu ac addysgu yn y meysydd hyn.

Bydd enillwyr Cynllun Ysgoloriaeth Rhyngwladol 2012 yn ymgymryd ag archwiliadau penodol y tu allan i’r DU ac yn cyflwyno amcanion penodol i’w lledaenu ar draws sector y DU ar ddiwedd yr ysgoloriaeth.