Academyddion Abertawe’n cyhoeddi llyfr o bwys ar dechnoleg addasu pilenni

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae dau academydd o Brifysgol Abertawe wedi ysgrifennu llyfr o bwys ar dechnoleg addasu sy’n cael ei defnyddio mewn dihalwyno, trin dwr gwastraff ac wrth gynhyrchu dwr yfed.

 Membrane modification bookMae’r Athro Nidal Hilal, Cyfarwyddwr y Ganolfan Technolegau Dwr ac Ymchwil Amgylcheddol Uwch (CWATER) yn gydawdur ar y llyfr o’r enw Membrane Modification: Technology and Applications with gyda Dr Chris Wright o’r Ganolfan NanoIechyd.

Meddai’r Athro Hilal:  “Mae gwahanu pilenni yn hynod o bwysig o safbwynt dihalwyno, cynhyrchu dwr yfed a thrin dwr gwastraff. Mae technegau addasu pilenni wedi’u bwriadu i gynyddu effeithlonrwydd a pherfformiad y gwaith o wahanu pilenni sy’n eu gwneud yn ddeniadol ar gyfer gwahaniadau penodol.”

Mae’r llyfr hwn yn arbennig o amserol gan ei fod yn dilyn astudiaeth ddiwydiannol gan Freedonia Group sy’n adrodd bod galw byd-eang am bilenni yn debygol o godi gan 9% yn flynyddol i US$19.3 biliwn erbyn 2015, tra rhagfynegir y bydd y galw am gynnyrch a gwasanaethau dihalwyno dwr yn cynyddu gan 9.3% yn flynyddol i US$13.4 biliwn erbyn 2015.

Mae gwahanu pilenni’n dechnoleg sy’n gwahanu defnyddiau yn ddewisol (ffracsiynu) drwy fandyllau a/neu gapiau bach iawn yn nhrefniant moleciwlaidd strwythurau parhaus. Dosbarthir gwahaniadau pilenni yn ôl maint y mandwll a’r grym sy’n gyrru’r gwahanu. Mae’r dosbarthiadau hyn yn cynnwys  Microhidlo (MF), Uwch-hidlo (UF), Nanohidlo (NF), Cyfnewid Ïonau (IE) ac Osmosis Cildroadwy (RO).

Mae llyfr yr Athro Hilal a Dr Wright yn cyflwyno adolygiad cynhwysfawr o’r datblygiadau presennol ym maes prosesau gwahanu pilenni gyda chanolbwynt ar optimeiddio prosesau drwy reoli priodweddau arwynebol pilenni ar gyfer cymwysiadau diwydiannol allweddol. Yn ôl y llyfr, mae gan brosesau pilenni cymhwysiad arall heblaw dihalwyno.

Meddai Dr Wright: “Yn ogystal â’u defnydd mewn trin dwr a dihalwyno, caiff prosesau pilenni eu defnyddio mewn diwydiannau fferyllol i wahanu cynnyrch meddygol gwerthfawr gan eu bod yn gallu gwahanu defnyddiau solid megis powdrau mewn amrediad maint rhwng nanometr a 10 micron.”

Er enghraifft, mae gan bilenni microhidlo [MF] fandyllau rhwng 0.1 micron a 10 micron, mae gan bilenni uwch-hidlo [UF] fandyllau rhwng pum nanometr a 0.1 micron, ac mae gan bilenni nanohidlo [NF] fandyllau rhwng un nanometr a phum nanometr.

Daw i’r casgliad: “Yn hyn o beth, gall pwysigrwydd ac amrywiaeth systemau pilenni amrywio o ddiwydiannau megis trin dwr a dihalwyno i gelloedd tanwydd i gynnyrch fferyllol a thechnolegau meddygol sy’n datblygu megis peirianneg meinweoedd.”

Mae’r llyfr yn cyflwyno ystod lawn o dechnegau addasu pilenni sy’n cael eu defnyddio i gynyddu effeithlonrwydd prosesau pilenni. Mae addasu gwahanol ddefnyddiau a geometregau gan gynnwys pilenni llen gwastad, ffibr gwag a nano-ffibr, osmosis cildroadwy (RO), distyllu pilenni (MD), gwahanu nwyon (GS), anweddu pilenni (PV), a chelloedd tanwydd pilenni (MFC), yn hynod o bwysig i weithwyr proffesiynol megis gwyddonwyr dadansoddol, peirianwyr defnyddiau, a chemegwyr amgylcheddol, yn ogystal â pheirianwyr cemegol ac amgylcheddol.

Ychwanegodd yr Athro Hilal: “Bydd gan dechnegau addasu pilenni effaith sylweddol ar y byd diwydiant oherwydd byddant yn arwain at well effeithlonrwydd o safbwynt prosesau pilenni sy’n cynnig mwy o gynnyrch ar gost sy’n is. Yn fwy penodol, bydd y diwydiant trin dwr yn elwa o weithredu pilenni sy’n gallu gwrthsefyll baeddu yn well mewn gweithfeydd dihalwyno RO gan fydd hyn yn lleihau problemau baeddu gweithredol ac yn lleihau’r gost yn hyn o beth.”