Swansea University - News Archive


News & Events Archive for 2011

Items are listed in chronological order by publication date.



    Prosiect sy’n helpu disgyblion ysgol gynradd yng Nghymru i wella’u llythrennedd drwy Ladin

    Bydd prosiect i helpu gwella llythrennedd disgyblion ysgol gynradd yng Nghymru drwy ddysgu Lladin iddynt am y tro cyntaf yn cael ei lansio ym Mhrifysgol Abertawe ar ddydd Iau, Ionawr 26.


    Mae’r prosiect yn fenter ar y cyd rhwng yr Adran Hanes a’r Clasuron yn y Brifysgol a’r elusen addysg The Iris Project o Rydychen, sy’n rhedeg prosiectau tebyg yn llwyddiannus mewn nifer o ysgolion cynradd yn Lloegr yn barod.

    Meddai Dr Lorna Robinson, sylfaenydd The Iris Project: “Mae Lladin ar ei ffordd yn ôl yn y DU. Mae prosiectau eisoes ar waith yn Lloegr sy’n dangos bod dealltwriaeth sylfaenol o Ladin yn gallu helpu pobl ifanc gyda’i sgiliau ieithyddol a llenyddol yn Saesneg yn ogystal ag unrhyw iaith fodern arall y maent yn ei hastudio.

    “Er bod Lladin wedi’i hystyried gan sawl un yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf fel iaith farw a diwerth, mae’n dechrau dod yn glir bellach bod iddi le pwysig yn addysg ein plant.”

    Bydd myfyrwyr Lladin o’r Adran Hanes a’r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe, fel gwirfoddolwyr, yn dysgu Lladin i blant blwyddyn pump a blwyddyn chwech yn Ysgol Gynradd Brynmill am awr yr wythnos yn ystod tymhorau’r Gwanwyn a’r Haf yn 2012.

    Meddai Dr Evelien Bracke, Cydlynydd y Prosiect ym Mhrifysgol Abertawe: “Bydd y disgyblion yn mynd i’r afael â Lladin mewn modd difyr a hwyl, drwy adrodd storïau, chwarae gemau a thrwy ryngweithio, a chyda sylw penodol i’w sgiliau ieithyddol Saesneg.

    “Yn ystod y flwyddyn ysgol nesaf, bydd y prosiect yn ehangu i ysgolion eraill yn ardal De-orllewin Cymru.”

    Fel rhan o’r dathliadau ar gyfer lansiad y prosiect ar ddydd Iau, Ionawr 26, bydd myfyrwyr o Ysgol Gynradd Brynmill yn ymweld â’r Brifysgol i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl, Rhufeinig eu natur, megis gwneud mosaigau a bod yn bennaeth ar fyddin Rufeinig.

    Bydd John Morgan, Athro yn y Clasuron yn cyflwyno sgwrs ar ‘Lladin a fy Mywyd’ a bydd Graham Kirby o The Iris Project, yn trafod ‘Lladin mewn addysg fodern’.

    Bydd Dr Evelien Bracke hefyd yn trafod manylion y prosiect gydag athrawon o ysgolion cynradd eraill yn Ne-orllewin Cymru, sydd wedi’u gwahodd i’r digwyddiad lansio.

    “Mae’r prosiect hwn yn dynodi cam enfawr mewn diddordeb newydd mewn Lladin yn ardal De-orllewin Cymru,” ychwanegodd Dr Bracke. 

    “Dylai athrawon sy’n awyddus i’w hysgolion gymryd rhan yn y prosiect y flwyddyn nesaf gysylltu â mi ar 01792 295745, neu drwy e-bostio: e.bracke@abertawe.ac.uk.”

    Am ragor o wybodaeth am yr Adran Hanes a’r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe ewch i'r wefan hwn, ac i ganfod mwy am The Iris Project ewch i www.irisproject.org.uk.

News

What's Happening

Research