Swansea University - News Archive


News & Events Archive for 2011

Items are listed in chronological order by publication date.



    Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo’r Gaeaf yn dathlu llwyddiant myfyrwyr

    Caiff llwyddiannau dros 500 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig eu dathlu’n hwyrach yr wythnos hon yng Nghynulliadau Graddio a Gwobrwyo’r Gaeaf Prifysgol Abertawe ar ddydd Iau, Ionawr 26 a dydd Gwener, Ionawr 27.


    Bydd Cynulliadau’r Gaeaf, i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau’n llwyddiannus ers Gorffennaf 2011, yn cael eu cynnal yn Neuadd Brangwyn y ddinas, lle y bydd myfyrwyr yn ymuno â’u teuluoedd a’u ffrindiau, swyddogion y Brifysgol, staff academaidd, cynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr, swyddogion dinesig a phobl bwysig leol.

    Bydd y graddau a’r gwobrau’n cael eu dyfarnu i fyfyrwyr o Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, y Coleg Peirianneg, y Coleg Gwyddoniaeth, a’r Coleg Busnes, Economeg a’r Gyfraith ar ddydd Iau ac i fyfyrwyr o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a’r Adran Addysg Barhaus Oedolion ar ddydd Gwener.

    Meddai’r Athro Alan Speight, Dirprwy Is-ganghellor Profiad Myfyrwyr a Gwella Ansawdd Academaidd ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae myfyrwyr yn dod i Abertawe o ledled y byd, wedi’u denu gan sefydliad uchelgeisiol a arweinir gan ymchwil gydag enw da yn rhyngwladol am addysgu a dysgu o ansawdd uchel, ac mae ein profiad i fyfyrwyr ymhlith y gorau sydd ar gael.

    “Mae ein Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo’n rhoi cyfle i ni gydnabod yn gyhoeddus y lefel uchel o ymrwymiad a gwaith caled y mae ein myfyrwyr yn ei dangos, sydd wedi eu galluogi i ennill y cymwysterau a’r sgiliau lefel uchel sydd eu hangen i ddilyn gyrfa wobrwyol ac i gyrraedd eu huchelgeisiau personol.

    “Hoffwn longyfarch pob un o’n myfyrwyr sy’n derbyn gwobr yng Nghynulliadau’r Gaeaf eleni a dymuno pob llwyddiant iddynt wrth iddynt symud ymlaen yn eu maes dewisol.”

News

What's Happening

Research