Sarah Hall

Image of Sarah Hall

Sarah Hall yw awdur pum nofel -  Haweswater, The Electric Michelangelo, The Carhullan Army, How To Paint A Dead Man a The Wolf Border  – yn ogystal â'r casgliad o straeon byrion, The Beautiful Indifference, ac enillodd Wobr Portico ar gyfer Ffuglen a Gwobr Edge Hill ar gyfer stori fer.   Mae ei nofelau wedi cyrraedd rhestrau byr nifer o wobrau o fri, gan gynnwys Gwobr Man Booker, Prix Femina Etranger a Gwobr Arthur C. Clark ar gyfer ffuglen wyddonol. Cafodd The Carhullan Army ei gynnwys ar restr The Times o 100 llyfr gorau'r degawd.  

A hithau'n gymrawd anrhydeddus Prifysgol Aberystwyth ac yn gymrawd Sefydliad Civtella Ranieri, mae Sarah yn diwtor ar gyfer y Faber Academy, The Guardian a Sefydliad Arfon.

Phyllida Lloyd

Image of Phyllida Lloyd

Mae Phyllida Lloyd CBE yn gyfarwyddwr Prydeinig i'r llwyfan a'r sgrin.  Ymhlith ei gwaith arobryn i'r sgrin y mae Mamma Mia! a The Iron Lady.  

Mae ei gwaith theatraidd yn cynnwys: Josephine and I (Bush/Public Theater Efrog Newydd); Henry IV, Julius Caesar (Donmar Warehouse/St Ann’s Warehouse, Efrog Newydd); The Rime of The Ancient Mariner gyda Fiona Shaw, Mary Stuart (Donmar Warehouse, Apollo, a Broadway - Enwebiad Tony);  Mamma Mia! (Llundain, Broadway, Byd-eang); The Prime of Miss Jean Brodie, The Duchess of Malfi, The Way of The World, Pericles (Y Theatr Genedlaethol Frenhinol). Mae ei gwaith opera'n cynnwys: La Bohème, Medea, Carmen, Gloriana, Peter Grimes (Opera North); Macbeth (Paris/Y Tŷ Opera Brenhinol); The Handmaid's Tale, The Carmelites, Verdi Requiem, Rheingold, Valkyrie, Siegfried, Twilight of The Gods (ENO). Phyllida oedd Athro Drama Cameron Mackintosh 2006 yng Ngholeg St Catherine, Rhydychen. 

Owen Sheers

Image of Owen Sheers

Mae Owen Sheers yn nofelydd, yn fardd ac yn ddramodydd, ac ef yw Athro Creadigrwydd Prifysgol Abertawe. Mae'n awdur dau gasgliad o farddoniaeth, The Blue Book a Skirrid Hill a'r ddrama fydr arobryn, Pink Mist. Mae ei waith ffeithiol yn cynnwys The Dust Diaries a Calon: A Journey to the Heart of Welsh Rugby. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru ddwywaith ac mae wedi ysgrifennu nifer o ddramâu, gan gynnwys The Passion, Mametz a The Two Worlds of Charlie F. Dyfarnwyd Gwobr Rhyddid i Lefaru Amnest Rhyngwladol iddo. Bu'n Gymrawd Cullman Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, Artist Preswyl Undeb Rygbi Cymru ac mae'n gymrawd oes anrhydeddus y Sefydliad Materion Cymreig. Mae ei nofel ddiweddaraf, I Saw a Man (Faber, 2015), wedi cael ei chyhoeddi ar draws Ewrop a Gogledd America  ac roedd ar restr fer y Prix Femina Etranger.

Kurt Heinzelman

Image of Kurt Heinzelman

Mae Kurt Heinzelman yn fardd, yn gyfieithydd ac yn ysgolhaig.  

Ei lyfr diweddaraf yw Intimacies & Other Devices ac mae wedi cyfieithu Demarcations, casgliad o gerddi gan Jean Follain. 

Bu'n Guradur Gweithredol Canolfan Harry Ransom ac yn Gyfarwyddwr Addysg Amgueddfa Gelf Blanton.  Yn Athro Barddoniaeth a Barddoneg ym Mhrifysgol Texas-Austin, ef yw Prif Olygydd Texas Studies in Literature and Language (TSLL) a chyd-sylfaenydd a Golygydd Ymgynghorol Bat City Review.

  

 

Kamila Shamsie

Image of Kamila Shamsie

Mae Kamila Shamsie wedi ysgrifennu chwe nofel sydd wedi'u cyfieithu i fwy na 25 o ieithoedd, gan gynnwys A God in Every Stone (rhestr fer Gwobr Bailey am Ffuglen gan Fenywod) a Burnt Shadows (rhestr fer Gwobr Ffuglen Orange). 

Mae'n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth ac yn un o 'Nofelwyr Gorau Prydain’ yn ôl Granta. Cafodd ei magu yn Karachi a bellach mae'n  byw yn Llundain. 

 

 

 

 

Dai Smith

Image of Dai Smith

Mae Dai Smith yn hanesydd ac yn awdur o fri ym maes celf a llenyddiaeth Cymru.

Bu'n Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Morgannwg rhwng 2001 a 2005 ac, ar hyn o bryd, ef yw Athro Raymond Williams Hanes Diwylliannol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.

Bu’n Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru o 2006 i 2016 ac ef yw Golygydd cyfres Llyfrgell Cymru (prosiect Llywodraeth Cymru) o lenyddiaeth glasurol. Yn 2013, cyhoeddwyd ei nofel, Dream On, ac yn 2014, golygydd ddetholiadau o Straeon Byrion gorau o Gymru, Stori I & II ar gyfer Llyfrgell Cymru.

Yr Athro Smith yw Cadeirydd y Panel Beirniadu.