Awduron y rhestr fer

Mae gan y saith awdur sydd wedi cyrraedd rhestr fer eleni gymysgedd cyfoethog o ddylanwadau:  Cymru, Lloegr, Iwerddon, Jamaica, yr Unol Daleithiau, Rwsia a Seland Newydd.

Eleanor Catton

Image of Eleanor Catton

The Luminaries (Granta).

Ganwyd Eleanor Catton ym 1985 yng Nghanada, a magwyd hi yn Christchurch, Seland Newydd. Mae ganddi MFA o Weithdy Awduron Iowa ac mae'n addysgu ysgrifennu creadigol yn Sefydliad Technoleg Manukau yn Auckland ar hyn o bryd.

Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, The Rehearsal (2008), restr fer Gwobr Llyfr Gyntaf The Guardiana Gwobr Dylan Thomas, a rhestr hir Gwobr Orange. Enillodd ei hail nofel, The Luminaries, Wobr Man Booker 2013 a Gwobr Lenyddol y Llywodraethwr Cyffredinol 2013. (Llun gan R. Catto)

Joshua Ferris - Enillydd 2014

Image of Joshua Ferris

To Rise Again at a Decent Hour
(Viking).

Ganwyd Joshua Ferris yn Illinois ym 1974. Yn ogystal â To Rise Again At A Decent Hour, mae wedi ysgrifennu dwy nofel o'r blaen: Then We Came to the End, a enwebwyd ar gyfer y Wobr Lyfrau Genedlaethol, enillodd Wobr PEN/Hemingway a chyrhaeddodd rhestr hir Gwobr Llyfr Cyntaf The Guardian; a'r nofel fawr ei bri, The Unnamed.

Yn 2010 dewiswyd Joshua ar restr The New Yorker o'r ugain awdur ffuglen gorau dan 40 oed. Mae'n byw yn Efrog Newydd.

Eimear McBride

Image of Eimear McBride

A Girl is a Half-formed Thing (Faber a Faber).

Ganwyd Eimear McBride ym 1976 a magwyd hi yng ngorllewin Iwerddon. Ym 1994, yn ddwyflwydd ar bymtheg oed, aeth i Lundain a threuliodd y tair blynedd nesaf yn astudio actio yn y Ganolfan Ddrama. Treuliodd lawer o'i hugeiniau fel gweithiwr dros dro ac yn teithio.

Yn 27 oed ysgrifennodd A Girl is a Half-formed Thing. Enillodd Wobr Goldsmiths 2013, cyrhaeddodd restr fer Gwobr Folio 2014 ac enillodd Wobr Menywod Baileys ar gyfer Ffuglen yn 2014. Symudodd Eimear i Gorc yn 2006, yna Norwich yn 2011, lle mae'n byw o hyd gyda'i gŵr a'i merch.  Mae'n gweithio ar ei hail nofel ar hyn o bryd.

Kseniya Melnik

Image of Kseniya Melnik

Snow in May (Fourth Estate).

Ganwyd Kseniya Melnik yn Magadan yng ngogledd-ddwyrain Rwsia, yna mewnfudodd i Alaska ym 1998, pan oedd yn bymtheg oed. Meddai The New York Times, "Mae Snow in May yn mynd â ni yn ddwfn i ffabrig cymhleth Magadan, tref bysgota a glofaol anghysbell yng ngogledd Rwsia a fu unwaith yn ganolfan gludo ar gyfer carcharorion a anfonwyd i wersylloedd llafur Stalin."

Enillodd MFA o Brifysgol Efrog Newydd. Mae ei gwaith wedi ymddangos yn Brooklyn Rail, Epoch, Prospect, a Virginia Quarterly Review, a dewiswyd ar gyfer cyferes New Voices Granta.  Mae'n byw yn El Paso, Tecsas.

Kei Miller

Image of Kei Miller

The Cartographer Tries to Map a Way to Zion (Carcanet Press).

Ganwyd Kei Miller yn Jamaica ym 1978. Mae ei farddoniaeth wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau megis Gwobr Jonathan Llewelyn Rhys, Gwobr Dylan Thomas a Llyfr y Flwyddyn yr Alban.

Mae ei ffuglen wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Phyllis Wheatley, Gwobr Awduron y Gymanwlad ar gyfer y Llyfr Cyntaf Gorau, ac mae wedi ennill Gwobr Una Marson. Yn 2013 enwodd Ymddiriedolaeth Rhodos y Caribî ef yn Gymrawd Rex Nettleford mewn Astudiaethau Diwylliannol.  (Llun gan Christine Fourie)

Owen Sheers

Image of Owen Sheers

Mametz (Theatr Genedlaethol Cymru).

Mae Owen Sheers wedi ysgrifennu dau gasgliad o farddoniaeth, The Blue BookSkirrid Hill, a enillodd Wobr Somerset Maugham.

Enillodd ei ddrama fydr, Pink Mist, Lyfr y Flwyddyn Cymru a Medal Barddoniaeth Gŵyl y Gelli Gandryll. Mae ei waith ffeithiol yn cynnwys The Dust Diaries a Calon: A Journey to the Heart of Welsh Rugby. Mae ei nofel gyntaf, Resistance, wedi'i chyfieithu i fwy na deg iaith, a gwnaethpwyd ffilm ohoni yn 2011.  Mae ei ddramau'n cynnwys The PassionThe Two Worlds of Charlie FMametz. Ysgrifennodd a chyflwynodd Owen 'A Poet's Guide to Britain' ar BBC Four.  Caiff ei ail nofel, I Saw A Man, ei chyhoeddi gan Faber yn 2015.

Naomi Wood

image of Naomi Wood

Mrs Hemingway (Picador).

Ganwyd Naomi Wood ym 1983 ac mae'n byw yn Llundain.

Astudiodd yng Nghaergrawnt a Phrifysgol East Anglia ar gyfer ei MA Ysgrifennu Creadigol .

Yn wreiddiol o Efrog, mae byw yn Hong Kong, Paris a Washington DC.

Hi yw awdur The Godless Boys a Mrs. Hemingway.

Dewch i glywed yr awduron yn darllen eu gwaith