François Rabelais: Dyneiddiwr Meddygol

  • Ar hyn o bryd, mae Dr Alison Williams yn gweithio ar brosiect ymchwil ynglŷn â François Rabelais.
  • Gyda chymorth grant ymchwil o Ymddiriedolaeth Wellcome, mae'r prosiect hwn yn ystyried gwaith ffuglen François Rabelais a'i ohebiaeth breifat er mwyn dangos sut oedd ei wybodaeth feddygol broffesiynol yn goleuo ei agwedd tuag at ysgrifennu ffuglen, a'i uchelgais am yr effaith y byddai ei lyfrau'n ei chael ar eu darllenwyr. Y prif ddogfennau gaiff eu hystyried yw Pantagruel, Gargantua, Le Tiers Livre, Le Quart Livre, Le Cinquiesme Livre (er gwaetha'r dadleuon am bwy a'i ysgrifennodd), a gohebiaeth megis llythyrau Rabelais o'r Eidal. Mae'r prosiect hwn yn dadansoddi'r ffordd y cyflwynir gwahanol feysydd meddygol yn y dogfennau hyn, gan gymryd i ystyriaeth i ba raddau y mae Rabelais yn adlewyrchu meddwl y Dadeni, a pha anwireddau bwriadol a gyflwynir ganddo. Tynnir ar dystiolaeth o ffynonellau meddygol Clasurol, Arabaidd, a'r Dadeni i gefnogi’r dadansoddiad, yn ogystal â thystiolaeth o theorïau mwy modern am y corff, megis rhai Bakhtin, Kristeva, Laqueur a Green. Mae'r prosiect yn ystyried hyrwyddo iechyd hefyd, trwy ffarmacoleg, digrifwch, a llenyddiaeth yn ogystal â thrwy therapi. Yn llythyr cyflwyniadol Quart Livre, mae Rabelais yn dweud yn bendant bod yr awdur yn trin y darllenwr am ei salwch yn yr un modd ag y mae'r meddyg yn trin y claf, a bod creu celf yn meithrin iechyd. Bydd damcaniaethau am ddigrifwch, astudiaethau o'r berthynas rhwng y meddyg a'r claf, a gwerth therapiwtig y celfyddydau'n tanategu astudiaeth o'r ffordd y mae Rabelais yn defnyddio ei waith i hyrwyddo lles corfforol a meddyliol ei ddarllenwyr. 
  • Cewch ddod o hyd i gynnig y prosiect hwn i Gystadleuaeth Ymchwil fel Celf 2012 yma.
  • FIDEO: Alison Williams yn trafod ei phrosiect:

Colli Wyneb? Byw gydag Anffurfiad yn Ewrop y Canol Oesoedd

  • Ar hyn o bryd, mae'r Athro Patricia Skinner yn gwneud prosiect, a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome, ar Anffurfiad yn y Canol Oesoedd.
  • Mae'r prosiect yn astudio'r ymateb meddygol a'r ymateb cymdeithasol i anafiadau i'r wyneb yn y cyfnod rhwng 500 a 1400 OC. Mae'r ymchwil wedi'i ysbrydoli'n rhannol gan y ffordd y mae'r cyfryngau yn rhoi sylw i achosion o anaf bwriadol i'r wyneb a ddefnyddir yn gosb i fenywod yn Afghanistan, cosb a elwir yn 'ganoloesol' yn aml yn y wasg; a bydd yn ystyried pa mor gywir yw'r disgrifiad hwnnw trwy olrhain amlder anafiadau i'r wyneb a achoswyd yn fwriadol yn ôl ffynonellau'r Canol Oesoedd. 
  • Defnyddir amrywiaeth o ffynonellau canoloesol, gan gynnwys cyfreithiau, achosion llys, croniclau, bucheddau saint, a llawlyfrau llawfeddygaeth y Canol Oesoedd.
  • Y bwriad yw cyhoeddi'r erthygl gyntaf o'r prosiect yn y Journal of Women's History, cyfrol 26, dan yr enw: 'The gendered nose and its lack: "medieval" nose-cutting and its modern manifestations'. 
  • Ceir rhagor o wybodaeth ar hafan y prosiect ar wefan Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. 
  • Hefyd, caiff y blog WordPress ei ddiweddaru gyda newyddion a chynnydd. 
  • FIDEO: Patricia Skinner yn trafod 'Colli Wyneb? Anffurfiad yn Ewrop y Canol Oesoedd'

Amharu Gwybyddol yn y Canol Oesoedd

'Amharu Gwybyddol yn y Canol Oesoedd: Darganfod agweddau meddygol a diwylliannol ar anableddau deallusol yn ôl testunau normadol y Canol Oesoedd'

Prosiect dwy flynedd Dr Irina Metzler, a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome

Yn y byd sydd ohoni, rydym yn sôn am bobl sydd ag anabledd dysgu, deallusol, neu wybyddol, ac erbyn hyn rydym yn cydnabod y camwahaniaethu oedd yn gyffredin tan yn ddiweddar pan ddefnyddid geiriau fel 'spastig' a 'mongol'. Mae'r newid o ran geirfa'n adlewyrchu newid o ran agwedd. Ond a oedd geiriau tebyg yn cyfleu agwedd debyg yn y gorffennol? Yn y Canol Oesoedd, byddai galw rhywun yn ffŵl yn cyfeirio at ei alwedigaeth, nid at gyflwr honedig ei feddwl. I ddarganfod rhagor am sut oedd yr enwau a'r geiriau a ddefnyddid i ddisgrifio pobl yn dylanwadu ar y ffordd y'u triniwyd yn gymdeithasol, bydd y prosiect hwn yn ystyried beth oedd gan y bobl ganoloesol sy'n cyfateb i arbenigwyr gwyddonol a seiciatrig y byd modern i'w ddweud am anabledd meddyliol. Meddygon a llawfeddygon, cyfreithwyr, ac ysgolheigion egin-brifysgolion y Canol Oesoedd a ysgrifennodd y dogfennau lle cawn ddod o hyd i'w diffiniadau o allu deallusol a'i wrthwyneb, anabledd. Trwy astudio'r fath ddogfennau, sy'n rhan o'n treftadaeth wyddonol a diwylliannol cyfoes, gallwn ddeall yn well pa bobl y tybiwyd yr oeddent ag anabledd meddyliol yn y gorffennol, a sut oedd y ffordd yr oeddent yn cyfranogi i'r gymdeithas, ac yn rhan o'r gymdeithas honno, yn wahanol i sefyllfa heddiw.