Aelodau'r Ganolfan

Pwyllgor Gwaith

Bwrdd Rheoli

Aelodaeth o Brifysgol Abertawe

Cymdeithion Ôl-raddedig ac Ôl-ddoethurol

  • Rhiannydd Biebrach (Hanes) 
  • Jed Chandler (Saesneg) 
  • Liz Cox (Saesneg) 
  • Anna Dunthorne (Hanes) 
  • Chloë Guy (Hanes) 
  • Scot Jenkins (Hanes) 
  • Simon John (Hanes) 
  • Kathryn Loveridge (Saesneg) 
  • Jaäo Melo (Hanes) 
  • Pamela Morgan (Saesneg) 
  • Hannah Roberts (Hanes) 
  • John Polson-Jenkins (Hanes)

Cymdeithion Ymchwil Anrhydeddus

Michael Neill

Mae Michael Neill yn Athro Emeritws yn Saesneg ym Mhrifysgol Auckland, Seland Newydd, ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Seland Newydd ac Academi'r Dyniaethau Seland Newydd. Mae wedi dal nifer o gymrodoriaethau yn Llyfrgell Shakespeare Folger, Washington DC ac yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Mae ei gyhoeddiadau niferus yn cynnwys The Renegado (Arden Early Modern Drama, 2010), The Changeling (Llundain, 2006) ac Othello (Shakespeare Rhydychen, 2006), a nifer o fonograffau, gan gynnwys Putting History to the Question: Power, Politics and Society in English Renaissance Drama (Efrog Newydd, 2000), ac Issues of Death: Mortality and Identity in English Renaissance Tragedy (Rhydychen: 1997). Ar hyn o bryd, mae'r Athro Neill yn gweithio ar gyhoeddiad o The Spanish Tragedy ar gyfer 'Norton Critical Editions'. 

Tony Taylor

Roedd Tony Taylor gynt yn Ddeon y Dyniaethau yn Sefydliad Abertawe, gyda'i ymchwil yn canolbwyntio ar lenyddiaeth y Dadeni. Fe yw golygydd Ovid Shakespeare (Caergrawnt, 2000) ac mae'n gydawdur 'Shakespeare and the Classics' (Caergrawnt, 2005). Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar astudiaeth, o hyd llyfr, o "A Midsummer Night’s Dream".