Bod yn Ddynol: 'Lost and Found'

RIAH thin image bar

Bydd Prifysgol Abertawe unwaith eto’n amlwg fel yr unig hyb Cymreig ar gyfer Bod yn Ddynol gan rannu gyda Nottingham y nodwedd falch o gael ei henwi’n hyb ŵyl am dair blynedd yn olynol. Yr hybiau gŵyl eraill yw Queen’s Belfast, Dundee a Glasgow. 

Gyda thema 'Lost & Found', eleni bydd y dathliad o'r dyniaethau'n cael ei gynnal yn genedlaethol o 17-25 Tachwedd 2017.

Arweinir yr ŵyl gan Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig.

Mae ein hyb ‘Lleisiau, Wynebau a Lleoedd’, yn cynnwys gweithgareddau creadigol a rhyngweithiol ar ystod eang o bynciau.

Cyhoeddir y Rhaglen o ddigwyddiadau yn ddiweddarach ym mis Medi.