Shintaro Kono: Cymrawd Rhyngwladol Canolfan Richard Burton 2015-16

Shintaro

Bywgraffiad 

Mae Shintaro Kono yn athro cysylltiol ym Mhrifysgol Hitotsubashi, a bu'n Gymrawd Canolfan Richard ym Mhrifysgol Abertawe (2015-16). Mae wedi bod yn astudio Moderniaeth Brydeinig, Llenyddiaeth Saesneg Cymru a beirniadaeth a damcaniaeth ddiwylliannol yn yr 20fed ganrif (gan gynnwys, yn anad dim, Raymond Williams); mae hefyd yn cynnal ymchwiliadau beirniadol i ddiwylliannau neo-ryddfrydiaeth a globaleiddio. Mae ei waith yn cynnwys The Genealogy of the Country and the City (yn Japanaeg, Minerva Shobo, 2013), a Critical Keywords: Reading Culture and Society (yn Japanaeg, wedi'i olygu ar y cyd â Yasuo Kawabata a Takashi Onuki, Kenkyusha, 2013) a chyfieithodd draethodau Raymond Williams sydd wedi'u cynnwys yn Towards Common Culture: Cultural Studies, cyf. 1, argraffiad Japanaeg o draethodau Williams (golygwyd gan Yasuo Kawabata, Musuzu Shobo, 2013; cyf. 2 i'w chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2015), a Thinking the Twentieth Century (Misuzu Shobo, 2015) gan Tony Judt ymysg llawer o lyfrau eraill.

Adroddiad

Mae fy mlwyddyn fel un o Gymrodorion Canolfan Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn gynhyrchiol iawn, diolch i Archif Richard Burton ynghyd â chymorth diflino ei staff ac i staff a myfyrwyr CREW. Fy nau brif amcan yn Abertawe oedd ymchwilio i archif Raymond Williams sy'n rhan o Archif Richard Burton, ac yn fwy cyffredinol, datblygu fy ngwybodaeth am lenyddiaeth Saesneg Cymru. Yn benodol, fy nod oedd ymchwilio'n fanwl i broses llunio llyfr enwog Raymond Williams, Culture and Society (1958). Roedd gennyf ddiddordeb yn ffuglen Raymond Williams hefyd, a chanfûm fod gan yr archif gasgliad enfawr o ffuglen heb ei chyhoeddi neu heb ei gorffen. Teimlaf nad oedd blwyddyn yn ddigon, o bell ffordd, i archwilio casgliad mor enfawr o ddeunyddiau ac, er i mi wneud sawl darganfyddiad a symud fy ymchwil ymlaen yn yr archif, mae gennyf reswm da dros ddychwelyd i Abertawe.

Roeddwn wrth fy modd bod yn rhan o'r gymuned ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe hefyd. Mae gwneud cwrs MA mewn Llenyddiaeth Saesneg Cymru wedi ehangu fy nealltwriaeth o'r pwnc, a chafodd fy mhrosiect ar Lewis Jones (y gorffennais i bennod llyfr amdano yn ystod fy amser yn Abertawe, i'w chyhoeddi'r flwyddyn nesaf, gobeithio), ei ysbrydoli gan hynny i raddau helaeth. Ar ben hynny, ces i gyfle gwych drwy'r Gr┼Áp Darllen Raymond Williams, a drefnwyd gan yr Athro Daniel G. Williams, i ddysgu sut gellir darllen gwaith Raymond Williams mewn nifer o ffyrdd cynhyrchiol yng Nghymru heddiw, ac i ddod i adnabod ysgolheigion Raymond Williams a gyflwynodd bapurau yn y cyfarfodydd.

Ar wahân i'r cyflawniadau ysgolheigaidd hyn, neu ar y cyd â nhw, roedd cael profiad personol o ddiwylliant a bywyd Cymru o fudd amhrisiadwy i mi. Yn gymdeithasol ac yn wleidyddol, rhaid cyfaddef bod y flwyddyn a dreuliais yng Nghymru yn flwyddyn o gynnwrf, er enghraifft, helyntion gwaith dur Tata ym Mhort Talbot, canlyniadau etholiad Cynulliad Cymru ac, yn anad dim, refferendwm yr UE. Ond mae'r profiadau hyn wedi fy helpu i ddeall ym mha gyd-destun yr oedd ysgrifenwyr Cymraeg yn ysgrifennu ac ym mha gyd-destun maent yn ysgrifennu nawr. Wedi'r cwbl, fel ysgolhaig astudiaethau llenyddol, mae 'profiad' (ni waeth pa mor bell y gall ymddangos) yn hanfodol. Yn ogystal, roeddwn i'n wirioneddol ddiolchgar am yr ysbryd croesawgar y des i a'm teulu ar ei draws yn Abertawe. Hwn oedd y tro cyntaf i mi a'm teulu geisio ymgartrefu mewn man estron; ond roedd pawb, nid yn unig pobl yn y Brifysgol, ond ein cymdogion ac athrawon a ffrindiau ysgol fy mhlant, bob amser yn barod i'n helpu ac roeddem yn gallu mwynhau ein cyfnod yma i'r eithaf o ganlyniad. Yn olaf, hoffwn fynegi fy niolch i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Byddai wedi bod yn fraint dod i'w hadnabod, hyd yn oed am gyfnod byr, ond cafodd y fraint honno ei dyblu oherwydd y teimlais fy mod i'n wirioneddol rhan o'r gymuned ddysgu hon. Gobeithio y bydd ein cyfnewid academaidd yn parhau. Rwy'n gwybod y bydd ein cyfeillgarwch yn parhau.