Absenoldeb Rhiant

Cewch absenoldeb rhiant os oes angen i chi ofalu am eich plentyn, a gall y fath absenoldeb fod o gymorth wrth reoli'ch trefniadau gofal plant.

  • Mae absenoldeb rhiant yn absenoldeb di-dâl, ac mae ar gael am bob plentyn ar eich aelwyd.
  • I fod yn gymwys i gael absenoldeb rhiant:
           - rhaid i'r plentyn fod yn iau na 18 oed
           - rhaid eich bod wedi gweithio i Brifysgol Abertawe am gyfnod di-dor o flwyddyn neu fwy
           - rhaid bod eich enw chi ar dystysgrif eni neu dystysgrif fabwysiadu'r plentyn  
           - rhaid bod gennych chi gyfrifoldeb rhiant am y plentyn
  • Cewch hyd at 18 wythnos o absenoldeb heb dâl.
  • Fel arfer, cewch hyd at 4 wythnos mewn blwyddyn, a dylid cymryd yr absenoldeb hyn mewn blociau.
  • Os dymunwch gyflwyno cais am absenoldeb rhiant, cewch wneud hynny trwy Bennaeth eich Adran neu Ysgol gan roi 21 diwrnod o rybudd fan lleiaf, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig neu amgylchiadau brys, gan nodi dyddiad cychwyn a dyddiad gorffen yr absenoldeb.

Gwybodaeth bellach a dogfennau i'w lawrlwytho