Peirianneg Drydanol ac Electronig

Peirianneg Drydanol ac Electronig

Peirianneg Drydanol ac Electronig yn Abertawe

Mae Peirianneg Drydanol ac Electronig ymhlith y pynciau mwyaf cyffrous sydd ar gael i fyfyriwr prifysgol.

Mae ein hymchwil ag enw da rhyngwladol o ran electroneg pŵer, telathrebu, nanotechnoleg a biometreg yn bwydo’n ôl i’n cyrsiau er mwyn eu cadw’n gyfoes ac yn berthnasol i’r diwydiant.

Mae’r Ganolfan Dylunio Systemau Electronig (ESDC) yn adnabyddus am ei hymchwil arloesol i dechnoleg Pŵer Cylchedau Integredig, y dechnoleg allweddol ar gyfer electroneg fwy ynni effeithlon. Mae’r Ganolfan hefyd yn arweinydd y byd o ran modelu dyfeisiau lled-ddargludol, y dull elfen gyfyngedig a modelu cryno.