Peirianneg Gyfrifiadurol

Effaith ymchwil

Peirianneg Gyfrifiadurol

Caiff ein gwaith o arloesi’r Dull Elfen Gyfyngedig ei gydnabod fel un o’r 100 darganfyddiad a datblygiad mwyaf a wnaed mewn prifysgolion yn y Deyrnas Unedig sydd wedi newid y byd.

Mae’r Dull Elfen Gyfyngedig a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Abertawe gan yr Athro Olek Zienkiewicz ym 1967 wedi ein galluogi i arwain mewn technegau modelu cyfrifiadurol sy’n caniatáu i beirianwyr ddylunio strwythurau a phrosesau cynyddol heriol, gyda’r defnydd lleiaf posibl o brofion arbrofol drud.