Peirianneg Feddygol yn Abertawe
Peirianneg Feddygol yw cymhwyso egwyddorion peirianneg i’r corff dynol ac i ystod eang o offeryniaeth a ddefnyddir mewn meddygaeth fodern.
Mae’r cyrsiau ym Mhrifysgol Abertawe yn tynnu ar yr ymchwil meddygol cyffrous sy’n digwydd yn y Coleg Peirianneg a’r Coleg Meddygaeth. Arweiniodd y llwyddiant ymchwil yn y ddau goleg at greu’r Ganolfan NanoIechyd (CNH), cyfleuster unigryw sy’n cysylltu peirianneg a meddygaeth.
Mae ein graddedigion Peirianneg Feddygol yn dysgu sgiliau peirianneg, ac yn cynnig profiad ychwanegol i gyflogwyr, yn ogystal â gwybodaeth o anatomi a ffisioleg a’r gallu i gyfathrebu â chlinigwyr.