Peirianneg Fecanyddol

Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Abertawe

Mae peirianneg fecanyddol yn broffesiwn arloesol sy’n troi syniadau yn ddyfeisiau.

Mae ein staff Peirianneg Fecanyddol yn gweithio’n agos gydag ystod o ddiwydiannau, sy’n sail ar gyfer y problemau ymarferol a ddefnyddir yn ein gwaith addysgu.

Rydym yn rhyngweithio’n agos â chwmnïau mawr fel Ford a chwmni dur Tata, yn ogystal â busnesau bach a chanolig. Ledled y Deyrnas Unedig a thramor, mae gwaith yn digwydd neu wedi digwydd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe gyda chwmnïau fel:

Astra-Zeneca - British Aerospace - Qinetiq -GKN - Rolls-Royce - SKF - Freeport - One Steel - Barrick Gold‌

David Winfield, ymchwilydd EngD, MEng Peirianneg Fecanyddol

David Winfield

“Penderfynais i astudio yn y Coleg Peirianneg gan fod ganddo enw da y mae wedi’i ennill dros y blynyddoedd drwy brosiectau ymchwil a chydweithredol amrywiol gyda diwydiant.

Fy hoff atgofion o’r cwrs yw pa mor gyfeillgar oedd y tiwtoriaid, cynnwys cyffrous y cyrsiau, a’r cyfle i gystadlu yn y Formula Student – yn dylunio ac yn adeiladu ceir rasio un sedd.

Ar hyn o bryd rydw i’n astudio ar gyfer doethuriaeth peirianneg yn yr adran deunyddiau, ar y cyd â chwmni dur TATA Ewrop. Ar hyn o bryd rydw i’n gwneud gwaith ymchwil yn edrych ar ddynameg hylif gyfrifiadurol y gwaith glanhau ffwrneisi nwy chwyth – yn benodol ar wahanu llwch mewn seiclon nwyeiddio.

Mae gan y Brifysgol enw rhagorol am addysgu ac ymchwil ym maes peirianneg. Mae’r posibiliadau yn ddi-ben-draw dim ond i chi weithio’n galed a chymryd pob cyfle mae’r Coleg Peirianneg yn ei gynnig.”