MSc drwy Ymchwil mewn Peirianneg Fecanyddol

  1. Amrywiadau Cwrs
    Nomenclature Duration Mode Of Attendance
    MSc by Research 1Bl LlA
    MSc by Research 2Fl RhA
  2. Cynnig arferol:
    DU 2.1

Trosolwg Cwrs

MSc drwy Ymchwil mewn Peirianneg Fecanyddol

Drwy ein rhyngweithio agos gyda chwmnïau mawr fel Ford a chwmni dur Tata, yn ogystal â busnesau bach a chanolig, mae Prifysgol Abertawe yn cynnig sylfaen ardderchog ar gyfer eich ymchwil fel myfyriwr MSc drwy Ymchwil mewn Peirianneg Deunyddiau.

Nodweddion Allweddol

Ledled y Deyrnas Unedig a thramor, mae gwaith yn digwydd neu wedi digwydd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe gyda chwmnïau fel:

Astra-Zeneca
British Aerospace
Qinetiq
GKN
Rolls-Royce
SKF
Freeport
One Steel
Barrick Gold

Mae ymchwil ym maes Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn amlddisgyblaethol ei natur, yn ymgorffori ein cryfderau mewn meysydd ymchwil ledled y disgyblaethau Peirianneg.

Mecaneg gyfrifiadurol yw sylfaen mwyafrif y prosiectau MSc drwy Ymchwil yn y disgyblaethau peirianneg hyn.

Caiff y rhaglen hon ei chynnal yng Nghampws y Bae, Prifysgol Abertawe o fis Medi 2015.

Disgrifiad

Dysgwch ragor am rai o’n staff academaidd sy’n goruchwylio traethodau ymchwil yn y meysydd hyn www.swansea.ac.uk/engineering/staff

Gofynion Mynediad

Gofyniad mynediad y MSc drwy Ymchwil mewn Peirianneg Fecanyddol yw gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn Peirianneg neu mewn disgyblaeth berthnasol debyg.

Rydym yn croesawu ceisiadau oddi wrth ddarpar fyfyrwyr ledled y byd, ac yn chwilio am dystiolaeth gyfwerth â'r gofynion mynediad a nodwyd uchod. Mae'r Swyddfa Derbyn Ôl-raddedig yn hapus i’ch cynghori ynghylch a yw'ch cymwysterau’n addas ar gyfer mynediad i’r cwrs yr hoffech ei astudio. Anfonwch e-bost at admissions@abertawe.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, bydd angen i chi fod wedi pasio’n ddigonol mewn cymhwyster Iaith Saesneg derbyniol i wneud yn sicr y cewch y budd mwyaf o astudio yn Abertawe. Rydym yn ystyried ystod eang o gymwysterau, yn cynnwys Prawf Saesneg Prifysgol Abertawe Prawf IELTS y Cyngor Prydeinig (gyda sgôr isaf o 6.5 a 5.5. yn y ddau ran). Ceir rhestr lawn o brofion Saesneg derbyniol yma: www.swansea.ac.uk/international/students/requirements/english-requirements

Sut i Wneud Cais

Unwaith y byddwch wedi dewis pwnc yr hoffech weithio arno, byddem yn argymell y dylech gyflwyno cynnig ymchwil a thrafod hyn gyda Thiwtor Derbyn (Professor Sondipon Adhikari) ar gyfer y maes pwnc cyn i chi wneud cais. Gallwch anfon e-bost at peirianneg@abertawe.ac.uk i ddatgan diddordeb mewn gwneud MSc drwy Ymchwil. 

Gwnewch gais ar-lein a dilynwch statws eich cais ar gyfer MSc drwy Ymchwil www.swansea.ac.uk/applyonline

Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol, dysgwch fwy am wneud cais am y MSc drwy Ymchwil www.swan.ac.uk/international/students/apply

Ffioedd Dysgu

Y ffioedd dysgu blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2017/18 fydd:

D.U./U.E. Rhyngwladol
MSc by Research Llawn-amser £4,200 £18,450
MSc by Research Rhan-amser £2,100 £9,250

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Noder: Ffigur dangosol yw ffi'r Deyrnas Unedig/yr Undeb Ewropeaidd, sy'n amodol ar gadarnhad gan RCUK.

Os bydd eich cwrs yn cychwyn ym mis Ionawr, Ebrill neu Orffennaf 2017, gweler costau ffioedd 2016/17 ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr rhyngwladol ac astudiaethau rhan-amser: Os ydych angen fisa myfyriwr Haen 4 mae’n rhaid i chi fod yn astudio’n llawn-amser. Os ydych yn y Deyrnas Unedig dan gategori fisa gwahanol, gallai fod yn bosibl i chi astudio’n rhan-amser. Gweler ein tudalen astudiaethau rhan-amser a fisâu am ragor o wybodaeth.

Myfyrwyr presennol: Mae gwybodaeth bellach am eich costau ffioedd ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Costau Ychwanegol

Nid yw'r ffioedd dysgu yn talu am brynu llyfrau nac offer swyddfa, argraffu, rhwymo traethodau na chostau llungopïo.

Ni phennwyd costau ychwanegol gorfodol ar gyfer y cwrs hwn.

Strwythur y cwrs

Fel arfer cwrs blwyddyn llawn-amser, dwy neu dair blynedd yn rhan amser. Prosiect ymchwil unigol yw hwn, wedi’i ysgrifennu mewn traethawd hir o 30,000 gair.

Asesu

Cyflwynir traethawd hir nad yw’n hwy na 30,000 o eiriau, sy’n dangos ymchwil gwreiddiol sy’ cyfrannu’n sylweddol i’r pwnc. Yna, asesir hyn drwy arholiad viva voce gan arholwr mewnol ac allanol.

Cysylltiadau â diwydiant

Mae Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn rhyngweithio’n agos â chwmnïau mawr fel Ford a chwmni dur Tata, yn ogystal â busnesau bach a chanolig. Ledled y Deyrnas Unedig a thramor, mae gwaith yn digwydd neu wedi digwydd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe gyda chwmnïau fel:

Astra-Zeneca
British Aerospace
Qinetiq
GKN
Rolls-Royce
SKF
Freeport
One Steel
Barrick Gold

Cyfleusterau

Yn y labordai mecanyddol mae dau rig troelli mawr. Caiff un ei ddefnyddio i astudio dynameg peirianwaith cyflymder uchel, a’r llall ar gyfer dadansoddi trosglwyddo gwres mewn llafnau tyrbin.

Mae Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe wedi defnyddio dyfarniad o £3M gan y Gronfa Seilwaith Ymchwil Wyddonol (SRIF) i ddarparu cyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf.

Mae’r caledwedd yn cynnwys Clwstwr 450 cpu, gweithfannau graffeg drudfawr a chysylltiadau rhwydwaith cyflym iawn. Mae pecynnau meddalwedd helaeth yn cynnwys rhaglenni a ddatblygwyd yn fewnol a rhaglenni masnachol ‘oddi ar y silff’.

Ymchwil

Rhoddodd Ymarferiad Asesu Ymchwil 2008 Beirianneg yn Abertawe yn yr 8fed lle yn y DU ar sail y sgôr cyfunol ar gyfer ymchwil ar draws disgyblaethau Peirianneg.

Ymchwil Gorau’r Byd

Yn ôl yr Ymarferiad Asesu Ymchwil, mae 73% o'r ymchwil a gynhyrchir gan staff academaidd ar flaen y gad yn fyd-eang (4*) neu'n ardderchog (3*) yn rhyngwladol.

Mae ymchwil arloesol y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn adeiladu ar arbenigedd y staff academaidd yn yr adran. Mae'r ymchwil amlddisgyblaethol arloesol hwn yn goleuo ein haddysgu o safon fyd-eang, ac mae sawl aelod o'r staff ar flaen y gad yn eu meysydd.