MSc drwy Ymchwil mewn Nanotechnoleg

  1. Amrywiadau Cwrs
    Nomenclature Duration Mode Of Attendance
    MSc by Research 1Bl LlA
    MSc by Research 2Fl RhA
  2. Cynnig arferol:
    DU 2.1

Trosolwg Cwrs

MSc drwy Ymchwil mewn Nanotechnoleg

Mae ein Canolfan Peirianneg Proses a Systemau yn dwyn ynghyd arbenigedd academaidd sy’n bodoli ledled y Brifysgol, gan gynnwys cyfleusterau o’r radd flaenaf. Gydag enw da rhagorol am ymchwil ym maes Nanotechnoleg, mae Prifysgol Abertawe yn cynnig sylfaen ardderchog ar gyfer eich ymchwil fel myfyriwr MSc drwy Ymchwil ym maes Nanotechnoleg.

Nodweddion Allweddol

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae pwyslais ein hymchwil ym maes nanotechnoleg ar ddatblygu ymchwil i’w gymhwyso a throsglwyddo technoleg o’r labordy i’r gweithle neu’r ganolfan iechyd.

Mae rhyngweithio gyda diwydiant yn elfen allweddol o strategaeth y ganolfan. Fel un o arweinwyr y byd ym maes ymchwil electroneg pŵer, telathrebu, nanotechnoleg a biometreg a modelu dyfeisiau nanoelectronig.

Caiff y rhaglen hon ei chynnal yng Nghampws y Bae, Prifysgol Abertawe o fis Medi 2015.

Disgrifiad

Dysgwch ragor am rai o’n staff academaidd sy’n goruchwylio traethodau ymchwil yn y meysydd hyn:

Professor Huw Summers

Professor Paul Rees

Gofynion Mynediad

Gofynion mynediad y MSc drwy Ymchwil mewn Nanotechnoleg yw gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch ym maes Peirianneg neu mewn disgyblaeth berthnasol debyg yn y gwyddorau.

Rydym yn croesawu ceisiadau oddi wrth ddarpar fyfyrwyr ledled y byd, ac yn chwilio am dystiolaeth gyfwerth â'r gofynion mynediad a nodwyd uchod. Mae'r Swyddfa Derbyn Ôl-raddedig yn hapus i’ch cynghori ynghylch a yw'ch cymwysterau’n addas ar gyfer mynediad i’r cwrs yr hoffech ei astudio. Anfonwch e-bost at admissions@abertawe.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf bydd angen canlyniad derbyniol mewn cymhwyster Iaith Saesneg cymeradwy i wneud yn siŵr y byddwch yn gallu manteisio’n llawn o astudio yn Abertawe. Rydym yn ystyried ystod eang o gymwysterau, gan gynnwys Prawf Saesneg Prifysgol Abertawe, a phrawf IELTS y Cyngor Prydeinig (gydag isafswm o 6.5, a 5.5 ym mhob cydran). Ceir rhestr lawn o brofion derbyniol Iaith Saesneg yn: www.swansea.ac.uk/international/students/requirements/english-requirements

Sut i Wneud Cais

Unwaith y byddwch wedi dewis pwnc yr hoffech weithio arno, byddem yn argymell y dylech gyflwyno cynnig ymchwil a thrafod hyn gyda Thiwtor Derbyn ar gyfer y maes pwnc cyn i chi wneud cais. Gallwch anfon e-bost at peirianneg@abertawe.ac.uk i ddatgan diddordeb mewn gwneud MSc drwy Ymchwil. 

Gwnewch gais ar-lein a dilynwch statws eich cais ar gyfer MSc drwy Ymchwil www.swansea.ac.uk/applyonline

Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol, dysgwch fwy am wneud cais am y MSc drwy Ymchwil www.swan.ac.uk/international/students/apply

Ffioedd Dysgu

Y ffioedd dysgu blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2016/17 fydd:

D.U./U.E. Rhyngwladol
MSc by Research Llawn-amser £4,120 £16,950
MSc by Research Rhan-amser £2,060 £8,500

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr rhyngwladol ac astudiaethau rhan-amser: Os ydych angen fisa myfyriwr Haen 4 mae’n rhaid i chi fod yn astudio’n llawn-amser. Os ydych yn y Deyrnas Unedig dan gategori fisa gwahanol, gallai fod yn bosibl i chi astudio’n rhan-amser. Gweler ein tudalen astudiaethau rhan-amser a fisâu am ragor o wybodaeth.

Myfyrwyr presennol: Mae gwybodaeth bellach am eich costau ffioedd ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Costau Ychwanegol

Nid yw'r ffioedd dysgu yn talu am brynu llyfrau nac offer swyddfa, argraffu, rhwymo traethodau na chostau llungopïo.

Ni phennwyd costau ychwanegol gorfodol ar gyfer y cwrs hwn.

Strwythur y cwrs

Fel arfer cwrs blwyddyn llawn-amser, dwy neu dair blynedd yn rhan amser. Prosiect ymchwil unigol yw hwn, wedi’i ysgrifennu mewn traethawd hir o 30,000 gair.

Asesu

Cyflwynir traethawd hir nad yw’n hwy na 30,000 o eiriau, sy’n dangos ymchwil gwreiddiol sy’ cyfrannu’n sylweddol i’r pwnc. Yna, asesir hyn drwy arholiad viva voce gan arholwr mewnol ac allanol.

Cysylltiadau â diwydiant

Mae ymchwil nanotechnoleg ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu ymchwil i’w gymhwyso a throsglwyddo technoleg o’r labordy i’r gweithle neu’r ganolfan iechyd. O’r herwydd, mae rhyngweithio gyda diwydiant yn elfen allweddol o strategaeth y ganolfan, ac rydyn ni wedi cydweithio gyda chwmnïau amlwladol mawr fel Agilent, Boots a Sharp, yn ogystal â sawl cwmni llai o Gymru.

Cyfleusterau

Dysgwch ragor am y cyfleusterau a ddefnyddir gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Ymchwil

Rhoddodd Ymarferiad Asesu Ymchwil 2008 Beirianneg yn Abertawe yn yr 8fed lle yn y DU ar sail y sgôr cyfunol ar gyfer ymchwil ar draws disgyblaethau Peirianneg.

Ymchwil Gorau’r Byd

Yn ôl yr Ymarferiad Asesu Ymchwil, mae 73% o'r ymchwil a gynhyrchir gan staff academaidd ar flaen y gad yn fyd-eang (4*) neu'n ardderchog (3*) yn rhyngwladol.

Mae ymchwil arloesol y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn adeiladu ar arbenigedd y staff academaidd yn yr adran. Mae'r ymchwil amlddisgyblaethol arloesol hwn yn goleuo ein haddysgu o safon fyd-eang, ac mae sawl aelod o'r staff ar flaen y gad yn eu meysydd.