MA drwy Ymchwil mewn Ffrangeg

  1. Amrywiadau Cwrs
    Nomenclature Duration Mode Of Attendance
    MA by Research 1Bl LlA
    MA by Research 2Fl RhA
  2. Cynnig arferol:
    DU 2.1

Trosolwg Cwrs

Mae gan Astudiaethau Ffrengig yn Abertawe gryfderau ymchwil mewn diwylliant ysgrifenedig, o'r Oesoedd Canol hyd heddiw. Mae'r staff yn canolbwyntio'n benodol ar: ganu telyneg yr oesoedd canol; dramâu yr Oes Oleuedig; barddoniaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg; ysgrifennu gan ferched a ffeministiaeth yr ugeinfed ganrif; teithio; ac atgofion o'r Ail Ryfel Byd sy'n gwrthdaro. Mae gan yr adran Ffrangeg amgylchedd ymchwil dynamig sydd eisoes wedi denu sylw a chyllid gan gyrff allanol fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Ymddiriedolaeth Wellcome a'r Undeb Ewropeaidd. Mae staff hefyd yn weithgar gyda'r Ganolfan ar gyfer Ymchwil i Ryw mewn Diwylliant a Chymdeithas (GENCAS). I gael rhagor o wybodaeth am arbenigedd ymchwil a diddordebau goruchwylio ein staff, ewch i: http://www.swansea.ac.uk/artsandhumanities/about-us/

Nodweddion Allweddol

Mae'r cwrs MA drwy Ymchwil mewn Ffrangeg yn rhoi cyfle i chi ddilyn prosiect ar rywbeth mae gennych ddiddordeb byw ynddo, a fydd yn arwain at gymhwyster a all agor drysau i yrfa academaidd neu roi hwb i'ch rhagolygon yn y byd gwaith y tu allan i'r byd academaidd (gan amlaf yn y sector preifat, y Gwasanaeth Sifil, neu addysg).

Bydd yn cynnig y rhyddid i chi ymchwilio i bwnc o'ch dewis a datblygu methodoleg o dan oruchwyliaeth fanwl dau academydd profiadol, heb orfod mynd i ddosbarthiadau rheolaidd fel sy'n ofynnol gan raglenni a addysgir.

Byddwch yn cael eich goruchwylio'n fanwl gan ddau academydd profiadol yn eich maes. Fel arfer, byddwch yn cwrdd â nhw bob pythefnos yn ystod y tymor cyntaf ac yn rheolaidd wedi hynny. Caiff y cyfarfodydd eu logio a bydd nodau'n cael eu cytuno bob tro.

Mae disgwyl i holl fyfyrwyr ymchwil yr adran Ffrangeg fynd ar gyrsiau sgiliau a hyfforddi yn y Coleg a gan y Sefydliad. Maent yn rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil eraill a staff mewn seminarau adrannol a'r symposiwm ôl-raddedig adrannol blynyddol ym mis Mehefin a chynhadledd Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym mis Hydref. Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd i fyfyrwyr ymchwil uwch roi tiwtorialau a seminarau i fyfyrwyr israddedig. Mae cyllideb (£200 y flwyddyn ar hyn o bryd) ar gael i chi fynd i gynadleddau y tu allan i Abertawe.

Mae graddau MA drwy Ymchwil fel arfer yn para am gyfnod o un flwyddyn (astudio'n llawn amser) neu ddwy flynedd (astudio'n rhan-amser).

Disgrifiad

Mae'r cwrs MA drwy Ymchwil mewn Ffrangeg yn ddelfrydol ar gyfer y rheini sy'n dymuno cael:

  • cymhwyster MA mewn meysydd arbenigol lle nad yw rhaglenni a addysgir yn cael eu cynnig;
  • profiad o gwrs gradd ymchwil heb orfod ymrwymo i gwrs PhD o'r cychwyn. 

Gwahoddir cynigion ymchwil ar unrhyw bwnc Ffrengig y gall staff ddarparu goruchwyliaeth ar ei gyfer. Dylech anfon e-bost at aelod o staff academaidd yn y maes priodol cyn gwneud cais (mae manylion ar dudalennau staff yr adran).

Am ymholiadau anffurfiol cysylltwch â:  Yr Athro Julian Preece (j.e.preece@abertawe.ac.uk).

Gofynion Mynediad

MA drwy Ymchwil - Dylai fod gennych radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) o leiaf, neu'n disgwyl cael hynny, neu gymhwyster cyfatebol, mewn pwnc perthnasol neu wedi gwneud profiad gwaith perthnasol. Os oes gennych gymhwyster gan sefydliad y tu allan i Brydain, dylech ddarllen ein gofynion mynediad academaidd ar gyfer cymwysterau Rhyngwladol (tu allan i'r Undeb Ewropeaidd) a chymwysterau'r Undeb Ewropeaidd (tu allan i Brydain).

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, bydd angen i chi basio cymhwyster Iaith Saesneg cymeradwy i lefel dderbyniol er mwyn sicrhau eich bod yn manteisio'n llawn ar astudio yn Abertawe. Rydym yn ystyried ystod eang o gymwysterau, gan gynnwys Prawf Saesneg Prifysgol Abertawe, prawf IELTS y Cyngor Prydeinig (gyda sgôr o 6.5 a 5.5 o leiaf ym mhob elfen). Ceir rhestr lawn o'r profion Iaith Saesneg derbyniol yma: www.abertawe.ac.uk/ol-raddedig/gwneud-cais/profioniaithsaesnegderbyniol

Sut i Wneud Cais

Gallwch gyflwyno cais a dilyn ei statws ar-lein yn www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/gwneud-cais/sut-i-wneud-cais/applyonline.

Cewch gofrestru ym mis Medi, mis Ionawr, mis Ebrill neu fis Gorffennaf.

Ffioedd Dysgu

Y ffioedd dysgu blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2016/17 fydd:

D.U./U.E. Rhyngwladol
MA by Research Llawn-amser £4,120 £13,300
MA by Research Rhan-amser £2,060 £6,650

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr rhyngwladol ac astudiaethau rhan-amser: Os ydych angen fisa myfyriwr Haen 4 mae’n rhaid i chi fod yn astudio’n llawn-amser. Os ydych yn y Deyrnas Unedig dan gategori fisa gwahanol, gallai fod yn bosibl i chi astudio’n rhan-amser. Gweler ein tudalen astudiaethau rhan-amser a fisâu am ragor o wybodaeth.

Myfyrwyr presennol: Mae gwybodaeth bellach am eich costau ffioedd ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Costau Ychwanegol

Nid yw'r ffioedd dysgu yn talu am brynu llyfrau nac offer swyddfa, argraffu, rhwymo traethodau na chostau llungopïo.

Ni phennwyd costau ychwanegol gorfodol ar gyfer y cwrs hwn.

Asesu

Bydd angen i chi gyflwyno traethawd ymchwil o hyd at 40,000 o eiriau sy'n dangos cyfraniad sylweddol i'r maes dan sylw. Yn dilyn hyn, bydd arholiad llafar am y traethawd ymchwil (viva) gan ddau arholwr. Nid eich goruchwylwyr fydd yr arholwyr a bydd un ohonynt yn arholwr allanol.