- Hafan
- Ôl-raddedig
- Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
- Employability
Employability
Wrthi'n eich paratoi ar gyfer bywyd ar ôl Abertawe
Gwobr Gyflogadwyedd Abertawe (SEA)
Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn gweithio mewn partneriaeth â staff academaidd i ddarparu'r SEA ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.
Mae Gwobr Gyflogadwyedd Abertawe'n eich helpu i archwilio pwy ydych chi ac yna mae'n eich helpu i ennill profiad a datblygu sgiliau. Os cwblhewch yr SEA, caiff ei chofnodi ar eich trawsgrifiad gradd.
Mae dau brif fodiwl i'r SEA yn dilyn cofrestru - mae'r modiwl cyntaf am ganfod mwy amdanoch chi; beth yr ydych yn ei brisio mewn bywyd, eich math o bersonoliaeth, dulliau dysgu, pa swyddi a allai'ch siwtio chi, ac yna marchnata eich hun drwy greu CV a llythyr eglurhaol. Mae'r modiwl yn gorffen gyda chyfweliad â Chynghorydd Gyrfaoedd. Mae'r ail fodiwl yn ymwneud ag ennill profiadau. Gall y profiadau hyn ddilyn ymlaen o'r modiwl cyntaf neu gallant fod yn brofiadau cyffredinol neu'n brofiadau gwaith, gwirfoddoli a rolau cyfrifoldeb i enwi ond ychydig. Ar ôl i chi gwblhau'r profiadau hyn cewch ffug-gyfweliad swydd.
Ar gyfer pob elfen o'r ddau fodiwl bydd angen i chi gofnodi'ch profiadau a'ch meddyliau mewn perthynas â'ch gyrfa.
Cliciwch yma i gymryd rhan yng Ngwobr Gyflogadwyedd Abertawe
Hefyd efallai yr hoffech ddarllen astudiaethau achos gan fyfyrwyr sydd wedi cwblhau'r SEA yn llwyddiannus.
