Astudio pellach

Mae parhau â’ch addysg yn ddewis rhesymegol os ydych yn teimlo’n ddigon angerddol dros eich pwnc i fod yn meddwl dechrau ar radd Meistr ynddo.

Mae gradd ymchwil yn ymrwymiad mawr – tair neu bedair blynedd o astudio yn llawn amser. Bydd hefyd yn ddwys, ac yn gofyn am ymrwymiad llwyr i un pwnc dros y cyfnod cyfan. Mae PhD yn hanfodol, fodd bynnag, os ydych am ddilyn gyrfa academaidd. Mae hefyd yn fodd o fynd i yrfa ymchwilio. Meddyliwch am y manteision o ymgymryd â gradd ymchwil, yn ogystal â'r gwahanol fathau o raddau ymchwil sydd ar gael i chi.

Bydd cael cyllid ac ariannu eich astudiaethau pellach hefyd fod yn broblem wrth ystyried gradd ymchwil.

Mae bwrsariaethau a grantiau ar gael i fyfyrwyr ymchwil o ystod eang o ffynonellau. Gwnewch ychydig o waith ymchwil i weld pa gyllid sydd ar gael – mae ysgoloriaethau ymchwil, er enghraifft, ar gael fel swyddi wedi’u hariannu’n llawn sy’n aml yn golygu eich bod yn ymgymryd ag ymchwil ar brosiect a bennwyd ymlaen llaw. Mae Abertawe yn cynnig nifer o ysgoloriaethau ymchwil PhD bob blwyddyn – ewch i’n tudalennau ariannu ymchwil i gael syniad o’r hyn sydd ar gael.

Dewisiadau Gyrfa

Y Rhai Amlwg

O’r gyfraith a rheoli i newyddiaduraeth a gofal iechyd, os yw eich cwrs yn un galwedigaethol mae'n debyg eich bod eisoes wedi penderfynu ar eich llwybr gyrfa. Meddyliwch am eich profiad gwaith – ar ôl eich gradd Meistr, a fydd gennych ddigon i ddechrau gwneud cais am swyddi? Ystyriwch ymuno â chyrff proffesiynol perthnasol i ddysgu am gyfleoedd datblygu gyrfa a sut i ddatblygu ymhellach eich siawns o gyflogaeth.

Y Rhai nad ydynt mor Amlwg

Mae tua 50% o raddedigion gradd Meistr yn mynd i yrfa sy’n agored i raddedigion o unrhyw ddisgyblaeth ond gyrfaoedd sydd yn gofyn am amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a enillwyd yn ystod eich bywyd academaidd a’ch profiad gwaith. Mae rhai meysydd ‘unrhyw ddisgyblaeth’ yn cynnwys:

  • Rheoli cyffredinol
  • Gwasanaethau ariannol
  • Y Cyfryngau
  • TG
  • Hysbysebu a marchnata
  • Cysylltiadau cyhoeddus
  • Gorfodi’r gyfraith

Felly beth mae’r rhan fwyaf o raddedigion gradd Meistr yn ei wneud?

Mae graddedigion gradd Meistr yn ystadegol yn llawer llai tebygol o fod yn ddi-waith na graddedigion gradd gyntaf, ac maent yn mynd ymlaen i ystod hynod amrywiol o alwedigaethau a gyrfaoedd. Fel trosolwg cyffredinol iawn, mae’r swyddi mwyaf poblogaidd ar gyfer graddedigion Meistr yn dod i bedwar grwp:

Gweithwyr proffesiynol, a’r swyddi mwyaf cyffredin ym meysydd

  • Gwaith cymdeithasol
  • Cynllunio trefi
  • Ymchwil cyffredinol
  • Swyddogion yr Amgylchedd a Chadwraeth.

Rheolaeth, yn enwedig

  • Rheolwyr cynhyrchu (i’w canfod yn aml mewn peirianneg neu weithgynhyrchu),
  • Rheolwyr gwasanaeth iechyd
  • Rheolwyr marchnata
  • Rheolwyr personél

Addysg a dysgu, gan gynnwys addysgu uwchradd, sef y swydd unigol mwyaf cyffredin a wnaed gan raddedigion Meistr newydd, ond hefyd personél Addysg Uwch ac Addysg Bellach

Busnes a Chyllid, a’r swyddi mwyaf cyffredin yn cynnwys

  • Ymgynghoriaeth rheoli
  • Dadansoddi ariannol
  • Dadansoddi busnes

Gwahaniaethau Rhan-amser / Llawn-amser

Mae cyrchfannau gyrfa a chyflogaeth ar gyfer graddedigion gradd Meistr yn wahanol i’r rheiny sy’n astudio’n rhan-amser ac yn llawn-amser, sy'n awgrymu y gellir rhannu graddedigion gradd Meistr yn ddau grwp, un yn gyffredinol iau a llai profiadol sydd wedi astudio’n llawn amser, ac un sy’n gyffredinol ychydig yn hyn ac felly yn fwy profiadol ac wedi astudio’n rhan-amser – fel rheol o ran datblygu gyrfa a datblygu proffesiynol.

Mae graddedigion Meistr llawn-amser yn cyfrif am y rhan fwyaf o’r gweithwyr cymdeithasol, swyddogion cadwraeth a threftadaeth, ac ymchwilwyr.

Mae graddedigion Meistr rhan-amser yn cyfrif am y mwyafrif o’r rheiny sy’n mynd i’r rhan fwyaf o swyddi rheoli, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, marchnata a rheoli personél. Mae graddedigion Meistr rhan-amser hefyd yn llawer mwy tebygol o fynd i fyd dysgu neu iechyd na’u cymheiriaid llawn-amser.

Beth mae cyflogwyr ei eisiau gan raddedigion gradd Meistr?

Yn ogystal â gwybodaeth ac arbenigedd datblygedig sy’n benodol i bwnc, mae nifer o sgiliau trosglwyddadwy sy'n gwneud graddedigion gradd Meistr yn ddymunol i gyflogwyr, gan gynnwys:

  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
  • Sgiliau ymchwil
  • Sgiliau dadansoddi, meddwl yn feirniadol ac ysgrifennu adroddiadau
  • Sgiliau cyflwyno uwch
  • Profiad o reoli prosiect a datrys problemau
  • Rheoli amser a’r gallu i weithio’n annibynnol

Gall gwasanaeth gyrfaoedd Abertawe eich helpu i dargedu a dod o hyd i ddarpar gyflogwyr, yn ogystal â marchnata eich hun yn effeithiol. Ewch i wefan y Academi Cyflogadwyedd Abertawe i gael mwy o wybodaeth.