Gwneud cais

Ar y tudalennau hyn cewch wybodaeth am wneud cais am raglen ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys yr hyn sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais, pan fyddwch wedi cael cynnig, sut i dderbyn eich cynnig ac sut i gwrdd ag amodau eich cynnig.

Gwneud cais ar-lein yw’r ffordd gyflymaf i wneud cais a chael penderfyniad ar eich cais. Gallwch lwytho eich dogfennau drwy gyfrwng y system ar-lein a fydd yn ein galluogi i wneud penderfyniad ar eich cais yn gyflymach.

Ceir gofynion mynediad penodol ar gyfer graddau ôl-raddedig ar dudalennau rhaglenni’r Colegau unigol.