- Hafan
- Ôl-raddedig
- Cyrsiau a addysgir
Cyrsiau a addysgir
-
Graddau Meistr a Addysgir yn Abertawe
-
Graddau Meistr a Addysgir
Gyda dros 150 o raglenni ôl-raddedig a addysgir ac amgylchedd astudiaeth a seilir ar ein hymchwil o safon byd, byddwch yn dod o hyd i wledd o gyfleoedd yn Abertawe.
Fel un o Brifysgolion blaenllaw'r DU ar gyfer ymchwil ar y cyd â diwydiant, fe ddewch o hyd i raglenni ôl-raddedig sy’n berthnasol yn alwedigaethol a fydd yn eich arfogi â'r wybodaeth a'r sgiliau i lwyddo yn bersonol ac yn broffesiynol.
- Byddwch yn cael eich dysgu gan academyddion blaenllaw yn eich maes - mae 90% o'n staff yn weithredol ym maes ymchwil.
- Manteisiwch ar ein cyllid ôl-raddedig - Roedd £ 2.45 miliwn ar gael y llynedd
- Byddwch yn rhan o'n cymuned ffyniannus ôl-raddedig o dros 2,000 o fyfyrwyr
- Mwynhewch brofiad myfyrwyr arobryn - Cawsom sgôr o 84% yn yr Arolwg Boddhad Myfyrwyr Cenedlaethol diweddar.
-
Dod o hyd i Gwrs Meistr
-
Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
Chwiliwch am ysgoloriaethau a bwrsariaethau sydd ar gael ar gyfer rhaglenni Meistr a addysgir
-
Proffil Myfyriwr Ôl-raddedig
Eleanor Smith, MSc Bioleg Amgylcheddol
"Ar gyfer fy nhraethawd hir Cwrs Meistr rwyf yn ymchwilio i draul egni afancod , ac fel rhan o'r prosiect hwn rwy’n cael gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a'r Gwlypdiroedd ar ailgyflwyno'r anifail hwn i'r DU. Mae gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a'r Gwlypdiroedd wedi bod yn fuddiol dros ben- Rwyf wedi dysgu llawer am y strategaethau rheoli sy’n cael eu gweithredu i ofalu am fywyd gwyllt brodorol ac estron, ac rwyf wedi creu cysylltiadau gwych ar gyfer y dyfodol."
-
Cwrs dan Sylw
MA Ymfudo Byd-eang
Mae’r symudiad byd-eang o bobl sy'n chwilio am loches, cyflogaeth ac aduniad gyda’u teuluoedd o fath nas gwelwyd o'r blaen yn golygu bod materion yn ymwneud ag ymfudo erioed wedi bod mor uchel ar yr agenda gwleidyddol nac ar yr agenda polisi.
Wedi ei gynllunio ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â, neu sy'n ystyried gwaith gwirfoddol neu broffesiynol gydag ymfudwyr, ffoaduriaid neu leiafrifoedd ethnig, mae’r cwrs rhyngddisgyblaethol hwn yn archwilio ymfudo byd-eang a'i oblygiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac o ran polisi.