Trosolwg o'r Cwrs
Mewn amgylchedd sy'n newid drwy'r amser, mae busnesau'n wynebu amrywiaeth o heriau, gan gynnwys cynnydd mewn gweithio o bell a newid yn arferion defnyddwyr. Mae hyn wedi arwain at angen mwy nag erioed i reoli technoleg er mwyn gallu cynllunio’n effeithlon ac yn effeithiol.
Ar y rhaglen Meistr hon, byddwch yn meithrin yr wybodaeth a'r sgiliau i wneud penderfyniadau allweddol am dechnoleg meddalwedd a'r effaith ar sefydliad. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o bob agwedd ar reoli cyn ehangu eich gwybodaeth am ddiogelwch rhwydweithiau a gwella eich sgiliau yn barod am y genhedlaeth nesaf o rwydweithiau datblygol.
Wrth gwblhau'r rhaglen hon, byddwch wedi datblygu priodweddau sy'n cynnwys galluoedd rheoli yn ogystal â gwybodaeth dechnegol.