Trosolwg Cwrs
Rydym yn cynnig MSc Rheoli ar gyfer myfyrwyr o unrhyw gefndir a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Dyluniwyd y rhaglen yn benodol gyda ffocws clir ar reoli mewn cymuned fyd-eang gyd-gysylltiedig. Mae’r rhaglen hon yn ymdrin â chysyniadau craidd ym maes rheoli megis marchnata rhyngwladol, rheoli gweithrediadau, strategaeth fyd-eang, cyllid a rheoli adnoddau dynol rhyngwladol. Er mwyn eich helpu i gael y gorau o’ch astudiaethau, mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys modiwl ar sgiliau academaidd sy’n ymdrin â materion megis dulliau ymchwilio, sgiliau cyflwyno, dynameg grŵp a chefnogi cyflogadwyedd.
Dyluniwyd yr MSc Rheoli (Rheoli Adnoddau Dynol) ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb yn yr elfen ddynol o ran rheoli busnes – o reoli adnoddau dynol clasurol i feysydd megis arwain a rheoli elfennau dynol busnes mewn cyd-destun byd-eang dynamig.