Trosolwg Cwrs
Rydym yn cynnig MSc Rheoli ar gyfer myfyrwyr o unrhyw gefndir a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Dyluniwyd y rhaglen yn benodol gyda ffocws clir ar reoli mewn cymuned fyd-eang gyd-gysylltiedig. Mae’r rhaglen hon yn ymdrin â chysyniadau craidd ym maes rheoli megis marchnata rhyngwladol, rheoli gweithrediadau, strategaeth fyd-eang, cyllid a rheoli adnoddau dynol rhyngwladol. Er mwyn eich helpu i gael y gorau o’ch astudiaethau, mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys modiwl ar sgiliau academaidd sy’n ymdrin â materion megis dulliau ymchwilio, sgiliau cyflwyno, dynameg grŵp a chefnogi cyflogadwyedd.
Dyluniwyd y MSc Rheoli (Dadansoddeg Fusnes) ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn deall elfennau data dynamig y byd busnes – o’r data’r tu ôl i’r rhyngrwyd i reoli logisteg cyflenwi byd-eang. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar baratoi graddedigion at waith mewn oes ‘data mawr’.