Trosolwg Cwrs

Dyluniwyd y radd Meistr (MSc) mewn Cyllid i raddedigion sy’n ceisio rhaglen arbenigol er mwyn galluogi dechrau’n gynt ar yrfa ym maes cyllid. Mae’r rhaglen yn cyfuno theori academaidd cyllid â phersbectif ymarferol cadarn sy’n cysylltu’n agos â byd cyllid. Ymhlith y modylau arbenigol mae: cyllid corfforaethol, econometreg gyllidol, marchnadoedd ariannol rhyngwladol, deilliadau a rheoli risg, materion cyfoes ym maes cyllid a chyllid empirig. Dyluniwyd y rhaglen hon ar gyfer graddedigion sy’n ceisio llwybr cyflym at yrfa ym maes cyllid. Mae manylion llawn ar gael isod.

Nodweddion Allweddol

  • Rhaglen arbenigol uwch y gellid ei chwblhau mewn un flwyddyn.
  • Addysgir ein holl fodylau gan ein cyfadran o’r radd flaenaf sydd ag amrediad o wybodaeth ddiwydiannol ac academaidd.
  • Ystod eang o achrediadau proffesiynol er mwyn cyflymu’ch gyrfa gan ddibynnu ar y modylau dewisol a ddewiswch.
  • 93% o fyfyrwyr Abertawe wedi’u cyflogi chwe mis ar ôl graddio.
  • Mynediad at ystafell efelychu buddsoddiad a masnachu’r Ysgol Reolaeth er mwyn cefnogi dealltwriaeth ddofn o gyllid ar waith.
  • Amser cyswllt uchel – mae pob modiwl yn cynnwys darlith (mewn dosbarthiadau o 150 o fyfyrwyr ar y mwyaf) a seminar/tiwtorial (mewn dosbarthiadau o 30 o fyfyrwyr ar y mwyaf) pob wythnos.
  • Cyfleusterau wedi’u hadnewyddu’n llwyr – rydym wedi buddsoddi hanner miliwn o bunnoedd mewn adnewyddu cyfleusterau’r myfyrwyr yn ddiweddar.
  • Mae ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr rhagorol – cliciwch yma am ragor o fanylion. 

Modiwlau

Ymwadiad: Gall opsiynau dethol modiwlau yn newid.

Blwyddyn 1 (Lefel 7 PGT)

FHEQ 7 Taught Masters / PGDip / PGCert

Mae myfyrwyr yn dewis 180 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r Modiwl
MN-D002Semester 3 (Summer Taught)60Independent Project
MN-M006Semester 1 (Sep-Jan Taught)15Corporate Finance
MN-M007Semester 1 (Sep-Jan Taught)15Financial Econometrics
MN-M008Semester 1 (Sep-Jan Taught)15International Financial Markets and Institutions
MN-M009Semester 1 (Sep-Jan Taught)15Financial Reporting and Statement Analysis
MN-M505Semester 2 (Jan - Jun Taught)15Derivatives and Risk Management
MN-M511Semester 2 (Jan - Jun Taught)15Empirical Finance
MN-M516Semester 2 (Jan - Jun Taught)15Financial Market Efficiency & Behavioural Finance
Modiwlau Opsiynol

Disgrifiad

Mae amlinelliad o’r rhaglen lawn ar gael i’w lawr lwytho yma.  Rydym yn diweddaru ac yn gwella’n catalog o raglenni’n barhaus, felly bydd yr union fodylau a fydd ar gael yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. 

Gofynion Mynediad

Rhaid i fyfyrwyr ennill 2:2 (neu gymhwyster tramor cyfwerth) mewn gradd israddedig sydd wedi cynnwys ystod o fodylau mewn cyfrifeg/cyllid neu ddulliau meintiol/ystadegol.  Nid oes rhaid i hyn o reidrwydd fod yn radd gyda chyfrifeg neu gyllid yn y teitl.

Rydym yn ystyried pob cais yn unol â’i deilyngdod ac yn edrych ar bob cais unigol cyn cyflwyno cynnig, felly dylai myfyrwyr sydd ychydig yn brin ar y meini prawf uchod barhau i ymgeisio i’r Ysgol Reolaeth.

Rhaid i siaradwyr Saesneg ail iaith gyflawni sgôr gyffredinol IELTS o 6.0 heb unrhyw gydran yn is na 5.5. Rhoddir rhestr o brofion cyfwerth yma. Os ydych wedi astudio gradd israddedig trwy gyfrwng y Saesneg efallai byddwch wedi’ch neilltuo o’r gofyniad hwn – cliciwch yma am wybodaeth bellach.

Rydym yn cynnig ystod o raglenni hyfforddi Cyn Gradd Meistr i fyfyrwyr sy’n methu’r gofyniad iaith Saesneg yn unig y gallwch ymgymryd â nhw cyn dechrau’ch Gradd Meistr. Mae manylion pellach ar gael yma.

Sut i Wneud Cais

I ymgeisio ar gyfer y rhaglen hon, dilynwch y ddolen isod a chewch eich tywys i system ymgeisio ganolog y Brifysgol:

Gwneud Cais

Nodwch fod rhaid i fyfyrwyr o Pakistan neu Nigeria ymgeisio trwy ein rheolwyr yn y wlad yn unig. Ewch i adrannau ‘sut i ymgeisio’ ar dudalennau’r wlad am fanylion cyswllt: Affrica neu Pakistan. 

Ffioedd Dysgu

Y ffioedd dysgu blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19 fydd:

D.U./U.E. Rhyngwladol
MSc Llawn-amser £10,000 £17,000

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr presennol: Mae gwybodaeth bellach am eich costau ffioedd ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Costau Ychwanegol

Nid yw'r ffioedd dysgu yn talu am brynu llyfrau nac offer swyddfa, argraffu, rhwymo traethodau na chostau llungopïo.

Ni phennwyd costau ychwanegol gorfodol ar gyfer y cwrs hwn.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae gan y Coleg Busnes, Economeg a’r Gyfraith raglen cyflogadwyedd bwrpasol sy’n helpu ein myfyrwyr i wneud y mwyaf o’u cyflogadwyedd a’u rhagolygon. Mae gennym hanes gwych o osod ein graddedigion gyda chwmnïau rhyngwladol blaenllaw ac mae 81% o’n graddedigion mewn cyflogaeth.

Rydym yn cynnig cyfleoedd niferus i’n myfyrwyr gael profiad perthnasol, gan gynnwys:

  • Y cyfle i ymgymryd â phrosiectau sy’n gysylltiedig â chyflogwyr drwy gyfrwng y traethawd hir
  • Tudalennau Facebook a Twitter pwrpasol sy’n rhestru’r lleoliadau gwaith, yr interniaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael i raddedigion
  • Ar y cyd â’r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol, rydym yn cynnig nifer o Interniaethau yn India, gyda chwmnïau fel GE, Thomson Reuters, 3M, Private Equity a Kanvic Consulting
  • Lleoliadau gwaith neu gyfleoedd blas ar waith pwrpasol drwy ein partneriaid GOWales
  • Myfyrwyr mewn Menter Rydd (SIFE) – helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau drwy brosiectau cymunedol

Dewch i Gwrdd â Ni

Mae cynrychiolwyr o’r Ysgol Reolaeth ar gael i gwrdd â darpar fyfyrwyr mewn ystod o leoliadau cenedlaethol a rhyngwladol.

Rhestr o Ffeiriau Rhyngwladol 2013-14

Cysylltu

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â’n tîm recriwtio:

Ffôn: +44 (0)1792 295601 

E-bost: SoMpostgrad@swansea.ac.uk