MSc Cyfrifeg a Chyllid

Trosolwg Cwrs

Dyluniwyd y rhaglen hon yn benodol er mwyn atgyfnerthu posibiliadau cyflogaeth trwy gynnig cyfle i fyfyrwyr dderbyn dealltwriaeth uwch a dofn o bynciau cyfrifeg a chyllid allweddol (heb unrhyw ofyniad o fod wedi astudio cyfrifeg a chyllid yn flaenorol). Mae’r rhaglen hon yn elwa ar sawl achrediad ACCA, gan eithrio myfyrwyr rhag arholiadau proffesiynol allweddol. Mae manylion llawn ar gael isod.

Nodweddion Allweddol

  • Rhaglen drosi lawn y gellid ei chwblhau mewn un flwyddyn.
  • Nid oes angen cyflawni cymhwyster cyfrifeg, cyllid neu unrhyw astudiaeth feintiol ar lefel israddedig yn gyntaf.
  • Mae amser addysgu cynyddol yn y ddau semester cyntaf a phrosiect terfynol llai’n galluogi myfyrwyr i gwblhau’r rhaglen ym mis Gorffennaf (deufis yn gynharach na sefydliadau eraill)
  • Addysgir ein holl fodylau gan ein cyfadran o’r radd flaenaf sydd ag amrediad o wybodaeth ddiwydiannol ac academaidd.
  • Ystod eang o achrediadau proffesiynol gan ACCA er mwyn cyflymu’ch gyrfa.
  • Mynediad at ystafell efelychu buddsoddiad a masnachu’r Ysgol Reolaeth er mwyn cefnogi dealltwriaeth ddofn o gyllid ar waith.
  • 93% o fyfyrwyr Abertawe wedi’u cyflogi chwe mis ar ôl graddio.
  • Amser cyswllt uchel – mae pob modiwl yn cynnwys darlith (mewn dosbarthiadau o 150 o fyfyrwyr ar y mwyaf) a seminar/tiwtorial (mewn dosbarthiadau o 30 o fyfyrwyr ar y mwyaf) pob wythnos.
  • Cyfleusterau wedi’u hadnewyddu’n llwyr – rydym wedi buddsoddi hanner miliwn o bunnoedd mewn adnewyddu cyfleusterau’r myfyrwyr yn ddiweddar.
  • Mae ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr rhagorol – cliciwch yma am ragor o fanylion. 

Modiwlau

Ymwadiad: Gall opsiynau dethol modiwlau yn newid.

Blwyddyn 1 (Lefel 7 PGT)

FHEQ 7 Taught Masters / PGDip / PGCert

Mae myfyrwyr yn dewis 180 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r Modiwl
MN-D015Semester 3 (Summer Taught)60Independent Project
MN-M002Semester 1 (Sep-Jan Taught)15Principles of Finance
MN-M003Semester 1 (Sep-Jan Taught)15International Financial Markets
MN-M004Semester 1 (Sep-Jan Taught)15Financial Statement Preparation and Analysis
MN-M051Semester 1 (Sep-Jan Taught)15Quantitative Research Method
Modiwlau Opsiynol
Choice of Compulsory Modules 

Dewiswch Isafswm o 30 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

NODER :Students are required to choose one or both of the following compulsory modules:

Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r ModiwlCanllawiau
MN-M503Semester 2 (Jan - Jun Taught)30Financial Accounting
MN-M504Semester 2 (Jan - Jun Taught)30Management Accounting
AND
Optional Modules 

Dewiswch Uchafswm o 30 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

NODER :If students choose to pursue only one of the compulsory modules listed above, they will need to choose an additional 30 credits of optional modules from the list below:

Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r ModiwlCanllawiau
MN-M503Semester 2 (Jan - Jun Taught)30Financial Accounting
MN-M504Semester 2 (Jan - Jun Taught)30Management Accounting
MN-M505Semester 2 (Jan - Jun Taught)15Risk Management
MN-M507Semester 2 (Jan - Jun Taught)15Corporate Governance & Ethics
MN-M508Semester 2 (Jan - Jun Taught)15Asset Management
MN-M511Semester 2 (Jan - Jun Taught)15Empirical Finance
MN-M516Semester 2 (Jan - Jun Taught)15Behavioural Finance
MN-M547Semester 2 (Jan - Jun Taught)15International Banking and Regulation
MN-M584Semester 2 (Jan - Jun Taught)15Big Data in Finance
MN-M585Semester 2 (Jan - Jun Taught)15Applied Data Analytics

Disgrifiad

Mae amlinelliad o’r rhaglen lawn ar gael i’w lawr lwytho yma.  Rydym yn diweddaru ac yn gwella’n catalog o raglenni’n barhaus, felly bydd yr union fodylau a fydd ar gael yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. 

Gofynion Mynediad

Rhaid i fyfyrwyr ennill 2:2 (neu gymhwyster tramor cyfwerth) mewn gradd israddedig. Bydd unrhyw bwnc gradd yn cael ei ystyried.

Rydym yn ystyried pob cais yn unol â’i deilyngdod ac yn edrych ar bob cais unigol cyn cyflwyno cynnig, felly dylai myfyrwyr sydd ychydig yn brin ar y meini prawf uchod barhau i ymgeisio i’r Ysgol Reolaeth.

Rhaid i siaradwyr Saesneg ail iaith gyflawni sgôr gyffredinol IELTS o 6.0 heb unrhyw gydran yn is na 5.5. Rhoddir rhestr o brofion cyfwerth yma. Os ydych wedi astudio gradd israddedig trwy gyfrwng y Saesneg efallai byddwch wedi’ch neilltuo o’r gofyniad hwn – cliciwch yma am wybodaeth bellach.

Rydym yn cynnig ystod o raglenni hyfforddi Cyn Gradd Meistr i fyfyrwyr sy’n methu’r gofyniad iaith Saesneg yn unig y gallwch ymgymryd â nhw cyn dechrau’ch Gradd Meistr. Mae manylion pellach ar gael yma.

Rydym yn cynnig rhaglen Cyn Gradd Meistr trwy Goleg Rhyngwladol Cymru Abertawe i fyfyrwyr sy’n methu’r gofyniad mynediad cyffredinol yn sylweddol, a fydd yn rhoi mynediad at ein rhaglenni ôl-raddedig. Cliciwch yma am ragor o fanylion.

Sut i Wneud Cais

I ymgeisio ar gyfer y rhaglen hon, dilynwch y ddolen isod a chewch eich tywys i system ymgeisio ganolog y Brifysgol:

Gwneud Cais

Nodwch fod rhaid i fyfyrwyr o Pakistan neu Nigeria ymgeisio trwy ein rheolwyr yn y wlad yn unig. Ewch i adrannau ‘sut i ymgeisio’ ar dudalennau’r wlad am fanylion cyswllt: Affrica neu Pakistan.

Ffioedd Dysgu

Y ffioedd dysgu blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19 fydd:

D.U./U.E. Rhyngwladol
MSc Llawn-amser £10,000 £17,000

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr presennol: Mae gwybodaeth bellach am eich costau ffioedd ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Costau Ychwanegol

Nid yw'r ffioedd dysgu yn talu am brynu llyfrau nac offer swyddfa, argraffu, rhwymo traethodau na chostau llungopïo.

Ni phennwyd costau ychwanegol gorfodol ar gyfer y cwrs hwn.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae gan y Coleg Busnes, Economeg a’r Gyfraith raglen cyflogadwyedd bwrpasol sy’n helpu ein myfyrwyr i wneud y mwyaf o’u cyflogadwyedd a’u rhagolygon. Mae gennym hanes gwych o osod ein graddedigion gyda chwmnïau rhyngwladol blaenllaw ac mae 81% o’n graddedigion mewn cyflogaeth.

Rydym yn cynnig cyfleoedd niferus i’n myfyrwyr gael profiad perthnasol, gan gynnwys:

  • Y cyfle i ymgymryd â phrosiectau sy’n gysylltiedig â chyflogwyr drwy gyfrwng y traethawd hir
  • Tudalennau Facebook a Twitter pwrpasol sy’n rhestru’r lleoliadau gwaith, yr interniaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael i raddedigion
  • Ar y cyd â’r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol, rydym yn cynnig nifer o Interniaethau yn India, gyda chwmnïau fel GE, Thomson Reuters, 3M, Private Equity a Kanvic Consulting
  • Lleoliadau gwaith neu gyfleoedd blas ar waith pwrpasol drwy ein partneriaid GOWales
  • Myfyrwyr mewn Menter Rydd (SIFE) – helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau drwy brosiectau cymunedol

Cysylltu

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â’n tîm recriwtio:

Ffôn: +44 (0)1792 295601 

E-bost: SoMpostgrad@swansea.ac.uk