Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MSc Peirianneg Gyfrifiadol gyda Diwydiant ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sy'n barod i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu dulliau cyfrifiadol a’u rhoi ar waith at ddiben efelychu’n rhithwir amrywiaeth eang o broblemau ffisegol, gan gynnwys mecaneg solet, deinameg hylifau, symudiad tonnau ac aml-ffiseg.
Mae ymgeiswyr i’r cwrs MSc hwn fel arfer yn fyfyrwyr sydd â chefndir mewn disgyblaeth peirianneg (fecanyddol, awyrofod, sifil neu drydanol) neu wyddoniaeth (mathemateg, ffiseg). Rhaglen amlddisgyblaethol yw hon, gyda modiwlau sy'n addas i'r rhai sydd am ddatblygu sgiliau peirianneg gyfrifiadol er mwyn gwella eu gyrfaoedd ym maes peirianneg a gwyddoniaeth.
Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau rhaglennu cadarn a byddant yn gallu teilwra eu gradd drwy ddewis un o'r tair arbenigaeth sydd ar gael:
Offer meddalwedd: Bydd myfyrwyr yn arbenigo mewn datblygu meddalwedd gyfrifiadol yn ogystal â defnyddio meddalwedd fasnachol i ddatrys problemau peirianneg a gwyddonol go iawn.
Dulliau a ysgogir gan ddata: Bydd myfyrwyr yn arbenigo mewn integreiddio dulliau rhifiadol a thechnegau dysgu peirianyddol gyda data mawr i ddatrys problemau peirianneg a gwyddonol go iawn.
Technegau rhifiadol: Bydd myfyrwyr yn arbenigo mewn datblygu a dadansoddi dulliau cyfrifiadol modern gyda phwyslais arbennig ar ymchwil.
Yn ystod ail flwyddyn y cwrs MSc hwn, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â naill ai lleoliad diwydiannol neu brosiect sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant i weithio ar her ymarferol mewn cydweithrediad ag un o nifer o bartneriaid diwydiannol.
Pam peirianneg gyfrifiadol ym Mhrifysgol Abertawe?
Yn ystod yr ail flwyddyn, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â naill ai lleoliad diwydiannol neu brosiect sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant i weithio ar her ymarferol mewn cydweithrediad ag un o nifer o bartneriaid diwydiannol.
Mae'r rhaglen yn helpu myfyrwyr i wella eu sgiliau technegol a rhyngbersonol ac ychwanegu profiad gwaith sylweddol at eu CV sy'n chwarae rôl hanfodol ar gyfer cyfleoedd i raddedigion.
Rhoddir llawer o gefnogaeth i fyfyrwyr i sicrhau lleoliad allanol a chyfleoedd amgen ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau ymchwil.
Caiff y cwrs MSc Peirianneg Gyfrifiadol gyda Diwydiant ei gynghori gan Bwyllgor Llywio Diwydiannol sydd ag arbenigwyr diwydiannol ym maes peirianneg gyfrifiadol. Mae'r Pwyllgor Llywio Diwydiannol yn cynnwys:
- Hexagon
- Rolls-Royce
- Rockfield
- Peritus International
- Pebble Engineering
Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad sy'n arwain y byd o ran Peirianneg Gyfrifiadol ers y 1960au, pan ymunodd yr Athro Zienkiewicz â Phrifysgol Abertawe. Mae'r Athro Zienkiewicz yn adnabyddus yn fyd-eang fel "Tad y Dull Elfen Feidraidd" a sefydlodd yr International Journal of Numerical Methods in Engineering a Chymdeithas y DU ar gyfer Mecaneg Gyfrifiadol. Ers hynny, mae Prifysgol Abertawe wedi cynnal safle rhyngwladol breintiedig ym maes Peirianneg Gyfrifiadol.
Addysgir y cwrs MSc Peirianneg Gyfrifiadol gan academyddion sydd gyda'r goreuon yn y byd o Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gan yr academyddion hyn brofiad eang o greu dulliau rhifiadol newydd a darparu offer cyfrifiadol sydd wedi'u mabwysiadu gan fyd diwydiant, gan gynnwys Airbus, BAE Systems, Chevron, NASA, SEAT, Siemens, Volkswagen.
Yn ogystal â hynny, mae'r academyddion hyn wedi ysgrifennu llyfrau enwog ym maes Peirianneg Gyfrifiadol, ac mae ganddynt rolau pwysig mewn cymdeithasau cenedlaethol a rhyngwladol yn y maes.
Bydd myfyrwyr ar y cwrs MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol yn gallu dewis pwnc eu traethawd hir ymhlith ystod eang o themâu. Bydd gan fyfyrwyr fynediad am ddim at yr holl feddalwedd sydd ei hangen i ymgymryd â'u hastudiaethau, ar gyfrifiaduron y Brifysgol ac yn eu cartrefi. Ar gyfer eu traethawd hir bydd ganddynt hefyd fynediad at y cyfleusterau cyfrifiadura perfformiad uchel sydd ar gael yn Abertawe, gan gynnwys y Clwstwr Effaith a chyfleusterau Uwchgyfrifiadura Cymru yn Abertawe, sydd â chyfanswm o 4,920 o greiddiau a 47 Tb o gof RAM.
Pam astudio peirianneg gyfrifiadol?
Erbyn hyn mae modelu ac efelychu cyfrifiadurol yn ddull sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth mewn diwydiant, nid yn unig i ategu arbrofion a damcaniaethau, ond hefyd fel dull darganfod. Mae'r maes yn tyfu'n gyflym oherwydd cymhlethdod cynyddol y problemau a wynebir gan fyd diwydiant a’n cymdeithas. Mae'r problemau hyn yn cynnwys yr angen i liniaru'r newid yn yr hinsawdd, yr angen i ddyfeisio deunyddiau newydd ac optimeiddio cydrannau, systemau, a phrosesau, ac enwi ychydig yn unig.
Yr unig ffordd o fynd i'r afael â'r heriau hyn yw drwy ddefnyddio peirianneg gyfrifiadol i ategu gwaith arbrofol. Mae offer cyfrifiadol hefyd yn darparu llwybr unigryw i gwmnïau leihau amser-i'r-farchnad ac amser-i-weithgynhyrchu ar gyfer eu cynnyrch Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae defnyddio data mawr a dysgu peirianyddol i ddiweddaru'r modelau'n gyson hefyd wedi agor y drws i ddatblygu gefeilliaid digidol mewn sawl maes peirianneg a gwyddoniaeth.
Bydd yr MSc Peirianneg Gyfrifiadol yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu offer cyfrifiadol ar gyfer heriau'r 21ain ganrif.
Cyfleoedd Cyflogaeth
Mae ystod eang o gyfleoedd ar gael i raddedigion y cwrs MSc Peirianneg Gyfrifiadol. Bydd cyfle iddynt gael swyddi ym myd diwydiant neu yn y byd academaidd, gan ddibynnu ar eu diddordebau.
O ganlyniad i sgiliau unigryw peiriannydd cyfrifiadol, mae'r cyflog disgwyliedig fel arfer yn uwch na chyflog peiriannydd arferol. Er enghraifft, yn y DU, cyflog cyfartalog peiriannydd cyfrifiadol ym mis Tachwedd 2022 oedd £43,000, tra mai £38,000 oedd cyflog cyfartalog peiriannydd. Mae'n werth nodi bod cyflogwyr sy'n chwilio am raddedigion yn defnyddio naill ai "Peiriannydd Cyfrifiadol", "Peiriannydd Modelu" neu "Beiriannydd Efelychu" yn eu disgrifiadau.
Mae cwmnïau sy'n cynnig swyddi i Beirianwyr Cyfrifiadol yn cynnwys rhai o frandiau enwocaf y byd, sef Alphabet, Amazon, Apple, Boeing, Chevron, Coca-Cola, ExxonMobil, General Dynamics, HP, IBM, Intel, Meta, Microsoft, Nike, Pfizer, Tesla.
Wedi iddynt raddio, mae'n well gan rai myfyrwyr ddilyn PhD mewn Peirianneg Gyfrifiadol. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn graddau PhD yn llawer o brifysgolion blaenllaw’r byd, ac mae gan lawer o raddedigion Abertawe swyddi ymchwil neu academaidd mewn prifysgolion a chanolfannau ymchwil a datblygu uchel eu bri.