MSc Peirianneg Gemegol

Trosolwg Cwrs

MSc Peirianneg Gemegol

Adeiladir y cwrs hwn ar y rhychwant eang o ymchwil peirianneg gemegol ym Mhrifysgol Abertawe. Os byddwch yn astudio'r cwrs MSc Peirianneg Gemegol, byddwch yn ehangu'ch gwybodaeth dechnegol, a gall hynny arwain at ymchwil pellach neu at yrfa mewn peirianneg gemegol.

Nodweddion Allweddol

Adeiladir y cwrs hwn ar y rhychwant eang o ymchwil peirianneg gemegol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hyn yn cynnwys nanotechnoleg, biopeirianneg, peirianneg fiomeddygol, peirianneg celloedd a meinwe, peirianneg gemegol, gwyddor a pheirianneg coloid, dihalwyno, peirianneg fferyllol, peirianneg polymer, rheoleg, prosesau gwahanu, prosesau cludo, a pheirianneg dŵr a dŵr gwastraff.

Mae'r prosiect ymchwil MSc yn gyfle i weithio gydag aelod o'r staff academaidd mewn un o'r meysydd ymchwil uchod, neu mewn maes perthynol. Gall y prosiect olygu cydweithio gyda diwydiant, hefyd.

Mae'r elfen o'r MSc a addysgir yn trafod meysydd penodol o beirianneg gemegol uwch yn ogystal â'r rheoliadau cymhleth a geir yn y gweithle peirianneg. Mae hefyd yn gyfle i ddatblygu sgiliau personol a throsglwyddadwy megis cynllunio prosiectau, sgiliau cyfathrebu, ac entrepreneuriaeth. 

Modiwlau

Ymwadiad: Gall opsiynau dethol modiwlau yn newid.

Disgrifiad

Mae'r modiwlau ar y cwrs yn amrywio bob blwyddyn, ond gallwch ddisgwyl astudio:

Hylifau a Llifoedd Cymhleth
Moeseg, Diogelwch a Rheoleiddio
Entrepreneuriaeth i Beirianwyr
Gwyddor Coloid a Rhyngwynebol
Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Peirianwyr Ymchwil
Peirianneg Dŵr a Dŵr Gwastraff
Technoleg Pilenni
Dadansoddi a Deddfwriaeth Amgylcheddol
Optimeiddio
Dihalwyno
Serameg
Polymerau: Priodweddau a Dylunio
Ymarfer Ymchwil MSc
Traethawd Hir Ymchwil MSc 

Gofynion Mynediad

Gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth mewn Peirianneg Gemegol neu Beirianneg Fiocemegol, neu mewn disgyblaeth berthynol megis cemeg, biocemeg, ffiseg, neu ddisgyblaeth peirianneg arall.

Rydym yn croesawu ceisiadau oddi wrth ddarpar fyfyrwyr ledled y byd, ac yn chwilio am dystiolaeth gyfwerth â'r gofynion mynediad a nodwyd uchod. Mae'r Swyddfa Derbyn Ôl-raddedig yn hapus i’ch cynghori ynghylch a yw'ch cymwysterau’n addas ar gyfer mynediad i’r cwrs yr hoffech ei astudio. Anfonwch e-bost at admissions@abertawe.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf bydd angen canlyniad derbyniol mewn cymhwyster Iaith Saesneg cymeradwy i wneud yn siŵr y byddwch yn gallu manteisio’n llawn o astudio yn Abertawe. Rydym yn ystyried ystod eang o gymwysterau, gan gynnwys Prawf Saesneg Prifysgol Abertawe, a phrawf IELTS y Cyngor Prydeinig (gydag isafswm o 6.5, a 5.5 ym mhob cydran). Ceir rhestr lawn o brofion derbyniol Iaith Saesneg yn: www.swansea.ac.uk/international/students/requirements/english-requirements

Sut i Wneud Cais

Gallwch gyflwyno cais ar-lein a dilyn statws eich cais yn www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/gwneud-cais/sut-i-wneud-cais/applyonline
 
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, dewch o hyd i ragor o wybodaeth am wneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn www.swansea.ac.uk/international/students/apply

Ffioedd Dysgu

Y ffioedd dysgu blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2017/18 fydd:

D.U./U.E. Rhyngwladol
MSc Llawn-amser £6,150 £18,950

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr presennol: Mae gwybodaeth bellach am eich costau ffioedd ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Costau Ychwanegol

Nid yw ffioedd dysgu'r radd cynnwys costau personol y myfyriwr megis prynu llyfrau a deunydd ysgrifennu, argraffu a llungopïo.

Strwythur y cwrs

Strwythur modiwlaidd sydd gan ein rhaglenni MSc. Rhaid i fyfyrwyr ennill 180 o gredydau i gymhwyso am y radd. Mae hyn yn cynnwys 120 o gredydau yn y rhan a addysgir (Rhan Un), a 60 credyd o brosiect (Rhan Dau) sy'n arwain at draethawd hir. Rhaid i fyfyrwyr lwyddo yn Rhan Un cyn y caniateir iddynt symud ymlaen i Ran Dau.

Enghraifft o amserlen

Isod mae enghraifft o amserlen.

Sylwch fod amserlenni yn ddarostyngol i newid.

MSc Chemical Engineering timetable Semester 1

Asesu

Seilir y MSc ar berfformiad boddhaol mewn arholiadau, asesu parhaus, a'r traethawd hir ymchwil. Cynhelir yr arholiadau ym mis Ionawr, ac ym Mai/Mehefin, ac, os byddant yn llwyddo yn yr arholiadau, mae myfyrwyr yn symud ymlaen i'r prosiect ymchwil llawn-amser yn ystod yr haf. Cyflwynir y traethawd hir ymchwil ym mis Medi, a chaiff ei arholi'n allanol.

Dyfynnu am y cwrs

"Mae gradd MSc Peirianneg Gemegol Prifysgol Abertawe, a achredir gan Sefydliad y Peirianwyr Cemegol, yn denu myfyrwyr o ledled y byd."

Dr Peter Douglas, Uwch-ddarlithydd, Y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe

Achrediad

Achredir y cwrs gan Sefydliad y Peirianwyr Cemegol.

Mae'r achrediad yn dweud bod y radd hon yn bodloni gofynion Dysgu Ymhellach Peiriannydd Siartredig yn achos ymgeiswyr sydd eisoes wedi derbyn gradd israddedig gyntaf achrededig CEng (Rhannol) BEng (Anrh) neu IEng (Llawn) BEng/BSc (Anrh).

Mae achrediad yn farc ansawdd i nodi bod y radd yn bodloni'r safonau a osodir gan y Cyngor Peirianneg yn y ddogfen Safonau'r DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol. O ganlyniad i ennill gradd achrededig, bydd gennych rai, neu'r cyfan, o'r wybodaeth, dealltwriaeth, a sgiliau sydd eu hangen i gofrestru'n Beiriannydd Corfforedig neu'n Beiriannydd Siartredig. Mae rhai cyflogwyr yn ffafrio'r rhai sydd â gradd achrededig wrth recriwtio, ac mae gradd achrededig yn debyg o gael ei chydnabod mewn gwledydd sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.

Cysylltiadau â diwydiant

Un o brif gryfderau Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe yw ein cysylltiad agos ac eang gyda chwmnïau peirianneg lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'r cwmnïau hyn yn cynnwys:

  • Acordis
  • Astra Zeneca
  • Avecia
  • BP Chemicals
  • Bulmers
  • Dow Corning
  • GlaxoSmithKline
  • Nestle
  • Murco
  • Phillips 66
  • Unilever
  • Valero

Mae gan staff Abertawe gysylltiadau ymchwil â chwmnïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae bwrdd diwydiannol ymgynghorol, yn cynnwys wyth diwydiannwr o ystod o gefndiroedd peirianneg gemegol, yn sicrhau bod ein cyrsiau'n parhau i fod yn berthnasol i ddiwydiant.

Gyrfaoedd

Mae'r galw am raddedigion Peirianneg Gemegol yn parhau i fod yn uchel, a'r cyflogau cychwynnol yw'r uchaf o holl ddisgyblaethau Peirianneg.
 
Mae peirianwyr cemegol yn dod o hyd i swyddi mewn amrywiaeth o ddiwydiannau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, gan roi egwyddorion peirianneg gemegol ar waith ym meysydd megis iechyd, ynni, bwyd, yr amgylchedd, meddygaeth, petrogemegau, a deunydd fferyllol. 

Cyfleusterau

Rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau a ddefnyddir gan fyfyrwyr Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe.

Ymchwil

Rhoddodd Ymarferiad Asesu Ymchwil 2008 Beirianneg yn Abertawe yn yr 8fed lle yn y DU ar sail y sgôr cyfunol ar gyfer ymchwil ar draws disgyblaethau Peirianneg.

Ymchwil Gorau’r Byd

Yn ôl yr Ymarferiad Asesu Ymchwil, mae 73% o'r ymchwil a gynhyrchir gan staff academaidd ar flaen y gad yn fyd-eang (4*) neu'n ardderchog (3*) yn rhyngwladol.

Mae ymchwil arloesol y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn adeiladu ar arbenigedd y staff academaidd yn yr adran. Mae'r ymchwil amlddisgyblaethol arloesol hwn yn goleuo ein haddysgu o safon fyd-eang, ac mae sawl aelod o'r staff ar flaen y gad yn eu meysydd.