Trosolwg o'r Cwrs
Nod Gwobr Ymarfer Arbenigol MSc Astudiaethau Iechyd Cymunedol mewn Nyrsio Dosbarth yw paratoi nyrsys ardal i weithio'n annibynnol mewn amgylchedd cymhleth sy'n newid yn gyflym; ein nod yw eich helpu chi i ddod yn arweinwyr ysbrydoledig y dyfodol, gan drawsnewid arfer, gan gyfrannu at yr agenda gofal iechyd ehangach.
O ganlyniad i’r Radd Meistr byddwch yn medru:
- Gweithio fel rhan o Dîm Gofal Iechyd Sylfaenol i ddarparu gofal nyrsio medrus i gleifion mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol.
- Cymryd cyfrifoldeb am reoli'r llwyth achosion a'r tîm.
- Gweithredu fel eiriolwr y claf i hwyluso dewisiadau'r claf ei hun o ran gofal nyrsio, hyrwyddo annibyniaeth a hunanofal, fel sy'n briodol.
- Monitro, cynnal a datblygu arloesedd gwasanaeth / ymarfer yn weithredol trwy oruchwyliaeth, myfyrio, arweinyddiaeth broffesiynol fedrus ac integreiddio â gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
- Dilyn fframwaith cymhleth o ddeddfwriaeth, polisi a safonau ar gyfer rheoli meddyginiaeth yn effeithiol ac ymarfer rhagnodi.
- Cynnal prosiect yn seiliedig ar bractis er mwyn ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth ar gyfer practis nyrsio ardal.
- Ceisio cyfle i wneud cais am swydd Arweinydd Tîm band 7.