Yr Athro Glanmor Williams

Yr Athro Syr Glanmor Williams

Professor Glanmor Williams

Addysgwyd Glanmor Williams, a ddeuai o Ddowlais ger Merthyr Tudful yn wreiddiol, yn Ysgol Cyfarthfa cyn cwblhau graddau mewn Hanes a Chymraeg yn Aberystwyth. Fe’i penodwyd i ddarlithyddiaeth gynorthwyol yn Abertawe ym 1945, ac i Uwch darlithyddiaeth ym 1952. Roedd yn Athro Hanes yn y Brifysgol o 1957 i 1982, ac roedd ei ddiddordebau ymchwil yn anolbwyntio ar y Diwygiad Protestannaidd a’i effaith ar fywyd a diwylliant Cymru. Ym 1962,cyhoeddwyd ei astudiaeth eithriadol o’r Eglwys yng Nghymru wedi 1282, The Welsh Church from Conquest to Reformation.

Mewn gwaith dilynol, fel Owen Glendower (1966), Recovery, Reorientation and Reformation (1987), ac Owain Glynd ^wr (1993),
dogfennodd Williams sut cryfhawyd darostyngiad y Saeson ar Gymru gan Ddeddfau Uno’r Tuduriaid, ac eto cynigiwyd cwmpas i dyfu a datblygu’r diwylliant Cymreig, tra disgrifiodd yn Religion, Language and Nationality in Wales (1979), darddiad cenedlaetholdeb diwylliannol a gwleidyddol Cymru.

Ysgrifennodd yr un mor rhwydd yn y Gymraeg, gyda’i waith mwyaf adnabyddus yn cynnwys: Dadeni, Diwygiad a Diwylliant Cymru (1964), Grym Tafodau Tân (1984) a Cymru a'r Gorffennol: côr o leisiau (2000). Roedd Glanmor Williams yn Is-ganghellor
y Brifysgol o 1975 i 1978 ac fe’i penodwyd hefyd i sawl pwyllgor yng Nghymru a Lloegr. Gwasanaethodd fel Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru,Llywodraethwr Cenedlaethol BBC Cymru a Chadeirydd Cyngor Darlledu Cymru (1965-71), ac ar fwrdd Llyfrgell Prydain a’i Gyngor Ymgynghorol. Daeth yn Gymrawd Cymdeithas y Celfyddydau ym 1979 a dyfarnwyd CBE iddo ym 1981.

Ar ôl iddo ymddeol o Abertawe, gwasanaethodd fel Cadeirydd Bwrdd Henebion (Cymru) o 1983 i 1995, Cadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (1986 i 90), ac Is-lywydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1986 i 1996). Daeth yn Gymrawd yr Academi Brydeinig ym 1986 ac fe’i hurddwyd yn farchog ym 1995.

Wrth siarad ar ôl marwolaeth yr Athro Williams yn Abertawe yn 2005, dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Richard B Davies: “mae ei ddylanwad ar yr astudiaeth o Gymru’n anfesuradwy.Roedd dim ond cyfarfod ag ef yn fraint.”