Yr Athro E G Bowen

Professor E G Bowen

Mae gan ffiseg yn Abertawe enw da nodedig am ddenu myfyrwyr dawnus, o Athro Ffiseg cyntaf yr adran, Evan Jenkin Evans, a fu'n astudio o dan Ernest Rutherford ym Manceinion, hyd at arweinwyr byd heddiw ym meysydd gwrthfater, cromoddeinameg cwantwm, a Damcaniaeth Llinynnau. Bu'r Adran hefyd yn gartref i fyfyrwyr niferus a aeth ymlaen i lwyddo ar lefel ryngwladol, yn cynnwys E G Bowen FRS (1911-91), a raddiodd o Abertawe ym 1930.

Bu Bowen yn ymchwilio i belydrau-X a strwythur aloeon ar gyfer ei MSc, ac wedi hynny derbyniodd radd PhD o Goleg y Brenin, Llundain. Treuliodd lawer o'r 1930au cynnar yng gweithio ar belydryn cathod canfod cyfeiriad – ymchwil a fyddai'n rhan bwysig o ddatblygiad radar. Roedd Bowen yn rhan o'r tîm cyntaf i ddefnyddio radar yn fodd i ganfod awyrennau, ac aeth
ymlaen i ddatblygu systemau radar yn yr awyr a allai ganfod llongau a llongau tanfor, yn ogystal ag awyrennau. Roedd ei waith yn hollbwysig i amddiffyn Prydain rhag ymosodiadau o'r awyr a'r môr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a chafodd effaith uniongyrchol ar ganlyniad Brwydr yr Atlantig.

Yn ystod 1940 a 1941, treuliodd Bowen amser yn yr Unol Daleithiau fel rhan o Daih Dechnegol a Gwyddonol Prydain, neu'r "Tizard Mission”. Nod y fenter hon oedd cryfhau cysylltiadau â gwyddonwyr America er mwyn datblygu a gwneud yn fawr o
adnoddau a thechnolegau newydd a allai fod o gymorth adeg y rhyfel. Bu Bowen yn cydweithio'n agos â'i gymheiriaid yn
America i'w helpu i ddatblygu system radar awyr gyntaf yr UD; bu ei gydweithrediad o gymorth i sefydlu ymrwymiad hirsefydlog o'r ddeutu i drosglwyddo technoleg a fyddai o fudd i'r ddwy genedl am ddegawdau.

Ar ôl y rhyfel, ymunodd Bowen â Labordy Radioffiseg CSIRO yn Awstralia, lle bu'n helpu i sefydlu disgyblaeth wyddonol newydd: radioseryddiaeth. Wedi hynny sicrhaodd arian i sefydlu Telesgop Radio 210tr Parkes, y bu hefyd yn rhan o'i ddylunio. O ganlyniad newidiodd gwaith ymchwil Bowen o ddefnyddio radar i dracio awyrennau, i dracio teithiau gofod Apollo â thelesgop radio. Mae'n dal i gael ei ystyried yn un o gewri ffiseg yr 20fed ganrif; dyfarnwyd OBE iddo ym 1941, Medal
Rhyddid America ym 1947, CBE ym 1962, ac etholwyd ef yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ym 1975.

“…mae dod o hyd i’r gwirionedd yn un o amcanion mwyaf aruchel dynolryw a does dim sy’n ychwanegu at ogoniant yr hil ddynol nac yn rhoi’r fath urddas iddo â’r ysfa i ddod a chymhlethdod eang y Bydysawd o fewn ystod dealltwriaeth ddynol.”


EG Bowen, adeg dechrau defnyddio Telesgop Parkes ym 196111.
www.parkes.atnf.csiro.au/people/sar049/social/40th_anniversary


Gyda diolch i'r Athro Mike Charlton, yr Athro David Olive, a Dr Colin Evans.