Rhai syniadau defnyddiol

Mae ymchwil yn cael ei ddefnyddio'n gynyddol wrth raddio prifysgolion, felly mae'n bwysig ei hyrwyddo. Mae nifer dyfyniadau yn un o'r mesurau a ddefnyddir wrth raddio ymchwil. Nid yw'n berffaith ond mae'n cyfrif am 30% o'r sgôr ar gyfer Tabl Prifysgolion y Byd The Times ac 20% o'r sgôr ar gyfer Tabl Prifysgolion y Byd QS.

Y flaenoriaeth, wrth gwrs, yw cynhyrchu ymchwil da ac nid oes gwarant y bydd unrhyw un o'r syniadau isod yn cynyddu diddordeb yn eich gwaith. Serch hynny, maent yn effeithiol ar gyfer rhai pobl, felly dewiswch y rhai sy'n debygol o weithio i chi a rhowch gynnig ar wneud eich ymchwil yn fwy gweladwy.

Cydweithio

  • Mae papurau â sawl awdur yn tueddu i gael eu dyfynnu'n amlach, yn enwedig os gallwch ddefnyddio cydweithwyr rhyngwladol cryf neu bobl adnabyddus yn eich maes. Mae cydweithio ar draws disgyblaethau yn denu nifer mawr o ddyfyniadau'n aml hefyd. Mae awgrymiadau ar gydweithio yn yr erthygl hon yn Science.

Awgrymiadau Ysgrifennu

  • Dewiswch deitl da. Ymddengys fod teitlau ar ffurf cwestiwn yn denu llai o ddyfyniadau na mathau eraill o deitl. Mae'r erthygl hon ar Impact Blog yr LSE yn cynnig syniadau.
  • Ailadroddwch ymadroddion allweddol yn eich crynodeb oherwydd y bydd hyn yn helpu peiriannau chwilio i ddod o hyd i'ch erthygl. Ond cofiwch eich bod yn ysgrifennu ar gyfer pobl a bydd angen i'r crynodeb ddenu pobl i ddarllen rhagor.
  • Mae erthyglau â llawer o gyfeiriadau'n tueddu i ddenu nifer mawr o ddyfyniadau. Mae'n dderbyniol dyfynnu eich gwaith eich hun fel rheol ar yr amod ei fod yn berthnasol.

Dewis y cyfnodolyn iawn

  • Mewn llawer o bynciau, mae'n bwysig dewis cyfnodolyn ag effaith uchel. Bydd ein tanysgrifiad i Journal Citation Reports yn caniatáu i chi asesu hyn ar gyfer y cyfnodolion rydych yn eu hystyried a chymharu cyfnodolion yn eich maes. Mae Scopus yn cynnig gwasanaeth tebyg hefyd.
  • Ein canllaw i asesu ffactorau effaith
  • Gallwch hefyd ystyried nodau'r cyfnodolyn, ei gwmpas, pa mor adnabyddus yw'r bwrdd golygu ac a yw'n cael ei fynegeio yn y cronfeydd data mawr ar gyfer eich pwnc. Fel arfer, bydd manylion nod, cwmpas a golygyddion cyfnodolyn i’w cael ar wefan y cyfnodolyn.
  • Un ffordd o weld pa mor eang mae cyfnodolyn yn cael ei ddefnyddio yw drwy edrych pa brifysgolion sy’n tanysgrifio iddo. Mae sawl prifysgol yn rhan o’r catalog undeb SUNCAT, sy’n gallu darparu’r wybodaeth hon.

Optimeiddio eich ymchwil ar gyfer peiriannau chwilio

  • Dewiswch allweddeiriau da pan gewch gyfle i wneud hyn, naill ai o fewn eich erthygl neu mewn unrhyw storfa y byddwch yn ei chyflwyno iddi. Defnyddiwch y termau poblogaidd cyfredol os ydynt yn briodol a meddyliwch sut gallai pobl chwilio am eich erthygl.
  • Gall y cyngor hwn gan Elsevier fod yn ddefnyddiol.

Mynediad Agored

  • Gall cyhoeddi'ch gwaith ar sail mynediad agored ei wneud yn fwy gweladwy a cheir peth dystiolaeth bod erthyglau mynediad agored yn cael eu dyfynnu'n amlach. Gallwch wneud eich gwaith yn fynediad agored drwy dalu tâl prosesu erthygl os oes cyllid gennych, neu gallwch ei gyflwyno i storfa. Mae ein tudalen ar fynediad agored yn cynnwys rhagor o wybodaeth am wneud hyn.
  • Os oes gennych ddata i gyd-fynd â'ch erthygl, ystyriwch wneud hyn ar gael yn gyhoeddus oherwydd y gallai hynny gynyddu dyfyniadau ar gyfer eich erthygl hefyd. Mae gwybodaeth am reoli data ar gael yn ar ein safle data ymchwil.

Hyrwyddo

  • Achubwch ar y cyfle i fynd i gynadleddau a siarad ynddynt. Un awgrym yw mynd â chopïau o'ch papur a'u gadael i bobl eu codi, a allai annog pobl i'w ddarllen a'i ddyfynnu.
  • Rhowch gynnig ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo'ch gwaith. Er nad yw pawb yn gyfforddus gyda hyn, ceir tystiolaeth bod defnyddio Twitter, blogiau, podlediadau ac offer megis Research Gate a Mendeley yn eich helpu i gael eich adnabod a ac yn cynyddu'r cyfleoedd y caiff eich gwaith ei ddefnyddio a'i ddyfynnu. Bydd ein canllawiau i'r cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithio cymdeithasol ar gyfer ymchwilwyr yn eich helpu i ddechrau.

Eich hunaniaeth

  • Defnyddiwch ddynodwr unigryw megis dynodwr ORCID i sicrhau bod pobl yn gallu gwahaniaethu rhyngoch chi a phobl ag enw tebyg. Mae opsiynau eraill ar gael megis Researcher ID ond ORCID yw'r un mwyaf adnabyddus erbyn hyn. Bydd ein canllaw i Ychwanegu'ch dynodwr ORCID at systemau’r brifysgol yn dangos i chi sut i nodi eich dynodwr ORCID yn system ABW y brifysgol.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio ffurf gyson ar eich enw mewn cyhoeddiadau a'ch bod yn defnyddio enw llawn y brifysgol oherwydd y gall hyn helpu i'ch adnabod.

Sut gallaf gael gwybod ble mae fy ngwaith yn cael ei ddyfynnu?

Hawlio'ch holl gyhoeddiadau

  • Nid yw'n anghyffredin i gronfeydd data wneud camgymeriadau a phriodoli erthyglau i'r person neu'r sefydliad anghywir. Mae'n werth cymryd amser i chwilio ar Web of Science, Scopus a Google Scholar i sicrhau bod eich holl bapurau'n gywir ac wedi'u priodoli i chi.
  • Bydd cadw rhestr gyfredol o gyhoeddiadau yn eich helpu i gadw llygad ar hyn. Os ydych yn defnyddio'r System Gwybodaeth Ymchwil/Cronfa i wneud hyn, bydd eich tudalen staff yn gyfredol yn awtomatig, ond os ydych yn cadw'ch rhestrau eich hun, cymerwch amser i sicrhau bod pobl yn gallu cael gwybod am eich gwaith diweddaraf.

Defnyddiwch gyfeiriad llawn y brifysgol

  • Mae'n bwysig y gellir olrhain eich gwaith yn ôl i Brifysgol Abertawe. Os ydych yn defnyddio cyfeiriad megis Ysbyty Singleton, neu grŵp ymchwil heb enw a chyfeiriad y brifysgol, mae'n bosib na chaiff eich gwaith ei briodoli i'r brifysgol wrth gyfrifo safleoedd yn y tablau.