Rush Rhees

Ganwyd Rush Rhees, mab Rush Rhees a Harriet Chapin Seelye, yn Rochester, Efrog Newydd, UDA ar 19 Mawrth 1905. Dechreuodd Rush Rhees astudio athroniaeth ym Mhrifysgol Rochester, lle'r oedd ei dad yn llywydd, ond cafodd ei ddiarddel gan yr Athro George M Forbes am ei ddull anghonfensiynol o gwestiynu pethau. Ym 1924 teithiodd i Gaeredin a graddiodd gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1928. Ar ôl bod yn gynorthwyydd i JL Stocks ym Manceinion, astudiodd Rhees gydag Alfred Kastil yn Innsbruck am flwyddyn ac yna daeth yn fyfyriwr ymchwil gyda GE Moore yng Nghaergrawnt. Yn ystod ei amser yng Nghaergrawnt, cwrddodd â Ludwig Wittgenstein. Daeth y ddau ohonynt yn ffrindiau agos, ac, ar y cyd â GEM Anscombe a GH von Wright, fe’i penodwyd yn weithredwr llenyddol Wittgenstein. Gwnaeth Rhees ymroi llawer o’i fywyd i gyhoeddi gweithiau anghyhoeddedig Wittgenstein. Er i Rhees gael ei benodi’n gynorthwyydd dros dro yng Ngholeg Prifysgol Abertawe ym 1940, ni chafodd y swydd ei gwneud yn barhaol tan 1946 a gweithiai fel darlithydd tan iddo ymddeol ym 1966. Yn ystod ei amser yn Abertawe, cyfnod mwyaf dylanwadol Rhees oedd y cyfnod gyda’i gydweithwyr JR Jones, RF Holland a Peter Winch. Ar ôl ymddeol, aeth Rhees i fyw yn Llundain am gyfnod byr a bu’n athro gwadd yng Ngholeg y Brenin. Wedi hynny, aeth i fyw yn Swydd Gaergrawnt ond dychwelodd i Abertawe lle daeth yn athro anrhydeddus ac yn un o gymrodyr y coleg. Priododd Rhees ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Jean Henderson; a’i ail wraig oedd Peg, Bovey gynt, gwraig weddw Yorick Smythies. Bu farw yn Abertawe ar 22 Mai 1989. Ni chafodd gwaith Rhees ei gyhoeddi tan ar ôl ei farwolaeth, pan olygodd DZ Phillips destun o’r casgliad o bapurau a ddaeth i feddiant y Brifysgol yn Abertawe.

Casgliad Rush Rhees

Mae’r casgliad yn cynnwys papurau personol Rush Rhees, ynghyd â nodiadau, trawsgrifiadau a gohebiaeth yn ymwneud â chyhoeddi gweithiau oedd yn perthyn i Ludwig Wittgenstein neu a ysgrifennwyd ganddo yn ogystal â gweithiau gan Rush Rhees. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys ffeiliau o ohebiaeth rhwng Rush Rhees ac eraill gan gynnwys Elizabeth Anscombe, Ivor Davies, Maurice O'Connor Drury, Brian McGuinness, Dewi Zephania Phillips a Franz Wurm. Yn ogystal, mae corff mawr o nodiadau ymchwil a darlithoedd yn ymwneud ag athronyddwyr ac agweddau arbennig ar athroniaeth – y celfyddydau a llenyddiaeth, hanes ac athroniaeth, addysg a gwybodaeth, moeseg, athroniaeth Roegaidd, iaith a phrofiad personol, rhesymeg a gwyddoniaeth, crefydd a Simone Weil.