Y Rhyfel Byd Cyntaf a Chasgliad Priordy Dewi Sant

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Katherine Williams a Lisa Karlsson, dau fyfyriwr MA ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Roeddent yn cymryd rhan yng nghynllun lleoliadau sgiliau treftadaeth GO Wales rhwng 2 a 13 Mehefin 2014, dan arweiniad staff yr Archifau. Trwy'r lleoliad hwn, maent wedi dysgu am brosesau archifo a chadwraeth, ac wedi archwilio nifer o gasgliadau, gan gynnwys casgliad Priordy Dewi Sant. Trwy archwilio'r cofnodion hyn, dysgant am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar ddinasyddion cyffredin Abertawe. 

Kath and Lisa researching

Roedd y plant a'r athrawon fel ei gilydd yn ysgol Dewi Sant yn dioddef amrediad o afiechydon a heintiadau, megis tarwden, y dwymyn goch, difftheria, y frech goch, y frech Almaenig, a'r dwymyn doben. Un o'r heintiadau gwaethaf yn yr ysgol oedd y ffliw, a chwyddodd yn aruthrol yn Abertawe yn ystod gaeaf 1918. Gorfodwyd ysgol Dewi Sant i gau sawl tro, ac roedd y ffliw yn parhau'n gyffredin iawn ar ddechrau 1919. O ganlyniad, caewyd ysgol Dewi Sant eto ar 10 Mawrth 1919 am resymau iechydol, dan orchymyn y swyddog meddygol lleol. Er yr oedd y fath glefydau'n gyffredin cyn y rhyfel, mae'n debyg bod dirywiad yn yr amodau byw, diffyg maeth, a hylendid gwael wedi helpu'r clefydau i ymledu.

Diet a Maeth

Er yr oedd yr ymdrech rhyfel megis ar ei gychwyn yn haf 1914, roedd plant Abertawe'n teimlo ei effaith yn barod:

'Cafwyd bod angen bwydo'r plant tlawd yn ystod y gwyliau gan i rai o'r tadau a'r brodyr hŷn gael eu galw i'r flaengad. Hefyd, caewyd y dociau ar rai diwrnodau, fel nad oedd modd i bobl weithio.'
31 Awst 1914

Darparodd ysgol Dewi Sant ddau bryd o fwyd am ddim y diwrnod i'r disgyblion tlotaf - yn ystod y gwyliau i gychwyn, ond newidiwyd hyn wedyn i gynnwys amser tymor. Ehangwyd ar y cynllun, i gynnwys y penwythnosau, ac ar un adeg, roedd y pwyllgor hyd yn oed wedi awgrymu rhoi trydydd pryd gyda'r hwyr i'r plant tlotaf. Mae llyfrau cofnodion ysgol Dewi Sant yn dangos nad oedd profiad plant Abertawe yn wahanol iawn i brofiad plant tramor. Nodwyd hyn ar 18 Tachwedd 1919 pan ddychwelodd y Tad Fennell i'r ysgol, pan fu'n sôn am ei gyfnod yn gaplan gyda'r fyddin yn yr Almaen. Dywedodd fod plant yr Almaen yn wynebu caledi tebyg i blant Cymru, yn arbennig o ran prinder bwyd. Fel mae cofnodion Priordy Dewi Sant yn dangos, roedd prinder bwyd yn gyffredin. Tua diwedd y rhyfel, gofynnodd y Pwyllgor Rheoli Bwyd i gynulleidfa Dewi Sant gydymffurfio â rheoliadau dogni gwirfoddol yng ngwanwyn 1917.

Ymdrech Cymorth

Trefnodd cynulleidfa Dewi Sant ddigwyddiadau codi arian i gefnogi milwyr Catholig ar y flaengad. Ymddengys hefyd yr oedd lawer o gysylltiadau cryf rhwng Gwlad Belg ac Abertawe. Bu'r gynulleidfa'n codi arian yn ddiwyd, yn arbennig ar gyfer ffoaduriaid, amddifaid a milwyr o Wlad Belg, gan werthu baneri a ffotograffau. Mae'n bosibl yr oedd y cysylltiadau hyn yn ganlyniad i bresenoldeb gweithwyr metel o Wlad Belg yn yr ardal leol. Ar ben hynny, trefnodd lleiandy lleol sesiynau gwau i godi arian er mwyn anfon pecynnau gofal at filwyr.

Stained glass window

Bu i gynulleidfa Priordy Dewi Sant goffáu'r rhai a fu farw yn ystod y rhyfel. Cynhaliwyd offeren yn rheolaidd yn gweddïo am i aelodau'r gynulleidfa oedd ar y flaengad ddioddef yn ddiogel, a chanasant offeren dros y meirw ar gyfer y milwyr a'r llongwyr a fu farw:

'gweddïo dros ein milwyr a'n llongwyr bod Duw yn rhoi buddugoliaeth fuan a heddwch hir i ni.'
16 Rhagfyr 1917

Roedd y gynulleidfa hyd yn oed yn trefnu adeiladu dwy ffenest goffa am y rhai a gollodd eu bywydau. Coffawyd yn benodol y Parchedig Ganon Gwydir, un o reolwyr Ysgol Dewi Sant, ar ôl iddo foddi ar y llong ysbyty, Rohilla, ym 1914. Yn aelod annwyl o'r weinidogaeth, roedd yn nodweddiadol am ei anhunanoldeb a'i weithgareddau arwrol, a chodwyd cofeb er ei anrhydedd gan gynulleidfa Dewi Sant. Arweiniwyd y gwasanaeth coffa gan Archesgob Cymru ei hun, a chynhaliwyd offerennau er cof am ei ymddygiad dewr.

Llun o ffenest Calon Sanctaidd Crist gyda Sant Padrig a San Pedr, Priordy Dewi Sant, o Martin Crampin (gol.), Stained Glass in Wales Catalogue, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 2011.
http://stainedglass.llgc.org.uk/object/1478 (cyrchwyd 9 Mehefin 2014)