Beth arall sydd yn yr Archifau?

Dyma rai o’r dogfennau gwych, ac weithiau rhyfedd, a geir yn yr Archifau. O gŵn perfformio i lythyrau caru wedi’u hysgrifennu mewn cod, o farwolaeth ac afiechyd i derfysgoedd a meddyginiaethau. Pwy a ŵyr beth y byddech yn ei ganfod!

Dogfennau diddorol yn yr Archifau

Terfysgoedd Beca

Dechreuodd Terfysgoedd Beca yn 1839 ond daethant yn ôl i Orllewin Cymru yn 1845 a’r tro hwn roeddent yn fwy treisgar. Roedd y terfysgoedd yn ffordd i bobl wledig Gorllewin Cymru fynegi eu hanfodlonrwydd dwys a’u casineb tuag at y newidiadau cymdeithasol yr oeddent yn eu profi. Roeddent yn teimlo bod strwythur traddodiadol cymdeithas a’u ffordd o fyw yn cael eu chwalu oherwydd pwysau ychwanegol ar dir ac economi, cau tiroedd, rhenti uchel a thollfeydd yn ychwanegu at gost byw. Wedi cyfres o gynaeafau gwael a dirwasgiad diwydiannol, erbyn 1842, roedd llawer o bobl yng Ngorllewin Cymru’n profi tlodi difrifol a’r gobaith olaf iddynt oedd y tloty. Ymatebodd 'Beca’ gydag ymosodiadau treisgar ar symbolau’r gymdeithas newydd hon megis y tollbyrth, porthorion, ynadon amhoblogaidd a thlotai. Roedd yr ymosodwyr wedi’u gwisgo fel menywod ac roeddent yn eu galw eu hunain yn 'Beca a’i merched’.

Mae’r darn a ddangosir yma yn rhan o adroddiad gan Lewis Llewelyn Dillwyn o’i gyfarfod a Therfysgwyr Beca wrth Dollborth Pontarddulais. Roedd torf o 100-150, ar gefn ceffylau ac wedi’u gwisgo fel menywod. Yn dilyn gwrthdrawiad treisgar sy’n cael ei ddisgrifio’n glir yn y darnau, cafodd saith o garcharorion eu dal, gan gynnwys John Hughes a oedd yn 24 oed ac yn fab i ffermwr. Parodd ei dreial am saith wythnos a chafodd ei ddedfrydu i 20 mlynedd o alltudiaeth. Dychwelodd dilynwyr Beca i’r tollborth ar ôl y digwyddiad cyntaf a bu farw’r tollwr, a oedd yn fenyw 75 oed, ar ôl cael ei saethu pan oedd hi’n dychwelyd i’r tolldy i gasglu’i heiddo.

Cariad yn yr Archifau

Daethpwyd o hyd i’r llythyr hwn sydd wedi’i ysgrifennu â llaw ac mewn cod, yn llyfr cofnodion Porthordy Bryn Diogel, 1879-1890. Ni wyddys yn union pa mor hen yw’r llythyr nac ychwaith pam cafodd ei ysgrifennu yn llyfr cofnodion Porthordy Bryn Diogel, ond heb os, darganfyddiad hynod ydyw.

Llyfr cofnodion cymdeithas ddirwest ydyw, ac mae’n cynnwys cofnodion a cherddi. Roedd cymdeithasau dirwest yn hyrwyddo ymatal rhag alcohol, a byddai’r aelodau’n addo llwyrymwrthod. Cynhaliodd y gymdeithas hon ei chyfarfodydd yng Nghapel Rhiwlas, Sir Gaernarfon.

William Weightman oedd awdur y llythyr at ei ‘annwyl’ Fanny ac mae’n datgan ei gariad oesol a’i ymroddiad iddi, yn ogystal â'i fwriad i chwipio Bill Robirson, chystadleuwr posib am ei serch.

Mae’r llythyr caru’n llawn symbolau, rhifau a llythrennau; sy’n debyg i’r math o iaith a ddefnyddir mewn negeseuon testun yr oes fodern. Ymhlith eraill, defnyddiodd William luniau o lygaid i gynrychioli’r llythyren ‘I’, braslun o ffan wedi’i ddilyn gan y llythyren E ar gyfer ‘Fanny’, y llythyren W wedi’i dilyn gan lun o iâr i sefyll am ‘pryd’ a’r llythyren H wedi’i ddilyn gan y rhif 8 ar gyfer ‘casáu’.

Cyfieithiad bras o’r llythyr hwn yw:

Fy annwyl Fanny
Ysgrifennaf y llinellau hyn i ddweud wrthyt na allaf fyw ddim rhagor hebot ti. Credaf dy fod yn brydferth a’r ferch neisiaf a welais i erioed ac rwyf yn dwlu arnat ti. O  Fanny brydferth, paid â’m casáu am dy garu gymaint. Bydd fy nghalon yn torri os byddi di’n fy ngadael i.  Alli di gwrdd â mi nos Lun, a byddaf yn mynd â thi i Neuadd Gerddoriaeth y Seren.  Rwy’n casáu Bill Robirson, sy’n hiraethu amdanat ti ac rwy’n bwriadu ei chwipio pan fyddaf yn ei weld e. Byddaf wrth fy modd pe byddwn yn clywed gennyt ar unwaith. Gadewch i’n carwriaeth ffynnu. Ateba yn y post nesaf i
Dy gariad
William Weightman

Theatrau Cludadwy

Strwythur dan gaeadau pren oedd Theatr Ebley ac roedd ganddi do cynfas a chadeiriau plygu cludadwy. Byddai’r theatr yn cael ei chludo o dref i dref gan wagenni a cheffyl.  Gwnaeth Theatr Ebley ymweld â llawer o rannau o Gymru gan gynnwys  Dowlais (1883), Maesteg (1896) a Phen-y-bont ar Ogwr (1906), lle cafodd y theatr ei hadeiladu yn y farchnad, ac yn Wrecsam, y Gelli, Pontycymer, Senghennydd a Chaerffili. Byddai’r teulu cyfan yn cymryd rhan yn y perfformiadau a byddai’r gynulleidfa’n mwynhau 3 awr o adloniant am 3 cheiniog. Yn ogystal â pherfformio, roedd gan yr actorion a’r actoresau ddyletswyddau eraill. Roedd yn rhaid i’r dynion adeiladu’r theatr a’i thynnu i lawr, gan ddilyn rheolau llym ym mhob lleoliad, tra byddai’r menywod yn trwsio gwisgoedd a gorchuddion. Byddai’r theatr yn aros mewn tref am rhwng dau a chwe mis yn perfformio drama wahanol bob nos. Byddai’r rhai a oedd yn perfformio yn y sioe yn aros mewn llety lleol ond roedd llety Mr Ebley yn cynnwys fan cysgu a fan byw a fyddai’n teithio gyda fe. Roedd y faniau wedi’u haddurno gyda gwydr patrymog, pren caboledig a gwaith pres a chan fod y theatr â chyflenwad trydan, byddai generadur injan nwy hefyd yn cael ei halio. 

I berfformio mewn tref roedd angen trwydded gan yr ynadon lleol ar yr Ebleys ac er mwyn cael y drwydded hon, roedd angen tystlythyrau cefnogol arnynt ynghylch eu moesoldeb. Yn aml byddai’r capeli’n ystyried y Theatr Gludadwy yn ddylanwad drwg ac felly byddent yn bygwth esgymuno aelodau pe baent yn mynychu perfformiad. Fodd bynnag, gwrthododd (Edward) Ted Ebley, ddygymod ag ymddygiad drwg a chafwyd adroddiad iddo adael y llwyfan yn ystod un perfformiad i guro pennau dau ymladdwr yn erbyn ei gilydd ac yna gwrthododd ddychwelyd i’w ran yn y sioe!

Yn aml byddai perfformiadau’n cael eu rhoi er budd elusen a ddewiswyd gan noddwr lleol, a fyddai felly’n hyrwyddo perchennog y Theatr fel unigolyn hael. Byddai’r noddwr yn mynychu’r noson agoriadol a byddai hefyd yn derbyn rhaglen a wnaed allan o sidan bur am hysbysebu’r ddrama ddiweddaraf.

Yn yr un modd â llawer o theatrau, daeth y Theatr Deithiol i ben o ganlyniad i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Theatr Olympaidd Ebley yn Abercynffig pan gychwynnodd y rhyfel a gadawodd yr holl ddynion a oedd yn actio yn y theatr er mwyn ymuno â’r rhyfel. Gadawyd Edward (Ted) Ebley a’i fab i dynnu’r theatr i lawr ar eu pennau eu hunain. Yna haliwyd y Theatr i Gwmafon lle cafodd ei rhentu i Gwmni Colisëwm Caerau a’i hagor fel sinema. Yn 1916 fe’i caewyd cyn cael ei hailagor dan enw Ebley. Yn 1927 agorodd y Sinema Olympaidd yn Ffordd Depot lle dangosid ffilmiau mud ac yna newidiodd i ddangos ffilmiau sain yn 1932. Yn 1970 daeth yn Neuadd Fingo Olympaidd ac yn 1980 gwnaeth Edward (Ted) Ebley werthu’r adeilad. Gyda hynny daeth cysylltiad teuluol hudol â hen fath o adloniant i ben.

Meddyginiaethau’r 18fed Ganrif

Yn sgil terfysgoedd crefyddol yr ail ganrif ar bymtheg hwyr, gadawodd llawer o Grynwyr Brydain ac aethant i America. Un o’r rhai a adawodd am y Byd Newydd oedd William Dillwyn, a ymgartrefodd ym Mhensylfania. Roedd ei ŵyr, a oedd hefyd yn William Dillwyn, yn byw yn Burlington, Gorllewin Jersey, tan iddo ddychwelyd i Brydain yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America.


Mae Almanac Tref a Gwladwyr Pensylfania ar gyfer 1768 a gedwid gan William Dillwyn yn cynnwys llwyth o wybodaeth fanwl gan gynnwys ryseitiau, cyfrifon preifat, cyllid cyhoeddus, eiddo, rhestrau o’i ddodrefn, platiau, llyfrau, dogfennau teuluol a hanes. Yn ogystal â ryseitiau ar gyfer gwenwyn i ladd llygod mawr a phỳcs, mae William hefyd yn cofnodi meddyginiaeth ar gyfer annwyd trwm. Mae’r rysáit yn rhestru’r cynhwysion ynghyd â’r dull ar gyfer gwneud y ddiod yn ogystal â chyfarwyddiadau ynghylch y dogn.

Peidiwch â rhoi cynnig ar hyn gartref!

Mwy o ddogfennau diddorol yn yr Archifau

Llythyrau Adref

Rhoddwyd y llun hwn o Harry Dobson i fyny gan y Gweithwyr Combein Cambriaidd a’u cyfeillion fel arwydd o’u parch tuag ato am ei ‘Aberth Eithaf ar gyfer Democratiaeth’.  Roedd Harry Dobson ymhlith nifer o Gymry a ymunodd â’r Brigadau Rhyngwladol i ymladd yn erbyn ffasgiaeth yn Rhyfel Cartref Sbaen. Fe’i lladdwyd ym mrwydr Afon Ebro ym mis Gorffennaf 1938, ychydig dros flwyddyn ar ôl iddo gyrraedd yn Sbaen. 

Mae’r Archifau hefyd yn dal un o’i lythyrau a anfonodd o Sbaen yn 1937. Mae ei lythyr yn nodi nad yw’r gwasanaeth post yn ddibynadwy, ond y ‘gellir disgwyl hynny gan nad oes modd i bethau redeg yn esmwyth yn ystod rhyfel'. I ddechrau mae’n dweud nad oes angen anfon dim byd ato ond yna mae’n cytuno i becyn o wdbeins yn cael ei gynnwys yn y llythyr nesaf ato.

Ceir llawer o ddogfennau yn y casgliadau mewn perthynas â’r ymateb i Ryfel Cartref Sbaen, yn ogystal â chyfranogiad gweithredol pobl Cymru yn y Brigadau Rhyngwladol. Mae’r dogfennau’n amrywio o lythyrau a lluniau i gofiannau, dalenni,  cartwnau, a chofnodion amryw sefydliadau a’u hymateb i’r gwrthdaro.

Marwolaeth yn Abertawe

Ymhlith y Casgliadau Archif Lleol ceir y llyfr cyfrifon hwn ar gyfer John Walters o Abertawe, trefnwr angladdau. Mae’r cyfrifon yn ymdrin â’r cyfnod o 1865 hyd at 1872, sy’n cynnwys achosion o golera rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 1866. Y cyntaf i farw o golera oedd John Fox, a fu farw yn 40 mlwydd oed ym mis Gorffennaf; yr olaf oedd Ellen Cummins, a oedd yn 30 oed ac a oedd yn byw yn rhif 3 Stryd Ann. Cofnodir i dros 150 o bobl farw o golera mewn pedwar mis.

Yn ogystal â chofnodi’r gwaith beunyddiol o wneud eirch a’r costau cysylltiedig, mae’r llyfr cyfrifon yn darparu cyfoeth o wybodaeth am fywyd yn Abertawe yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gellir gweld manylion pobl o bob safle cymdeithasol, ac fel arfer mae’r nodion yn cofnodi enw, cyfeiriad ac oedran y bobl a fu farw ynghyd â gwybodaeth am y dyletswyddau a oedd ynghlwm wrth waith y trefnwr angladdau.  Er enghraifft, mae un o’r nodion ar gyfer mis Awst 1866 ar gyfer menyw ddienw, y tybiwyd ei bod yn ei hugeiniau, a ganfuwyd yn farw ar ôl iddi foddi a nodir costau’r trefnwr angladdau sy’n cynnwys y bedd a chludiant. Mae’r angladd syml hon mewn gwrthgyferbyniad llwyr â’r trefniadau a wnaed ar gyfer  Caroline Elizabeth Vivian, gwraig Henry Hussey Vivian, a fu farw ym mis Ionawr 1868. Mae’r cyfrifon yn llenwi dros dudalen a hanner, yn rhestru eitemau megis arch gyda matres dwy fodfedd a leinin sidan, yn ogystal â melfed sidan du ac arysgrif. Roedd gorymdaith yr angladd yn cynnwys hers gyda phedwar ceffyl a choetsis eraill, a chafodd Caroline Elizabeth Vivian ei chladdu mewn claddgell deuluol fawr yn Eglwys Sant Pawl Sgeti.

Siocled!

Roedd llawer o gynhyrchion ar werth yn Siop Cymdeithas Gydweithredol Doc Penfro ond yr hyn sy’n dal eich llygad yw’r poster am ei Chlwb Siocled.

Er bod cymdeithasau cydweithredol yn adnabyddus yn bennaf am dalu difidend rheolaidd i’w haelodau, roedd gan rai cymdeithasau gynlluniau cynilo llawer mwy creadigol, a threfnwyd clybiau a oedd yn canolbwyntio ar dymhorau neu gynhyrchion penodol, megis clwb y Nadolig ym Mhontycymer a chlwb siocled yn Nhoc Penfro.

Ymddengys mai’r llun hwn sy’n hysbysebu clwb siocled cymdeithas gydweithredol yw un o’r rhai prin a oroesodd, ond ceir dogfennau sy’n perthyn i glwb siocled Urdd y Merched yng Nghanolfan Hanes Lleol Walsall .

Hwyl Myfyrwyr – Arddull 1930au

Dyma glawr Cylchgrawn Rag Prifysgol Abertawe, 1933. Mae’r cylchgrawn yn cynnwys detholiad eang o hysbysebion (rhai ar gyfer cwmnïau sy’n dal i fod yn masnachu yn Abertawe heddiw, megis Eddershaws sy’n cynnig 'Popeth i’r cartref’), ynghyd â chartwnau, rhyddiaith a barddoniaeth.

Mae’r Archifau’n dal cylchgronau myfyrwyr o ddechrau’r brifysgol yn y 1920au, ac maent yn ffordd wych o ddysgu mwy am fywyd myfyrwyr yn Abertawe.

Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls

Bu’r Archifau yn cydweithio yn ddiweddar â Dr Jonathan Dunnage o’r Adran Hanes a’r Clasuron i gyflwyno modiwl ôl-raddedig a oedd yn canolbwyntio ar archifau Rheilffordd Abertawe a’r Mwmbwls.  Yn ogystal ag adroddiad wedi’i ysgrifennu ar y cyd a chyflwyniadau unigol, fe wnaeth y myfyrwyr hefyd greu gwefan ‘i godi ymwybyddiaeth a rhoi gwybodaeth am gasgliad Rheilffordd Abertawe a’r Mwmbwls’.  Mae’r wefan yn edrych ar hanes y rheilffordd, y mathau o ddeunydd archifol y mae’r casgliad yn ei gynnwys a chwestiynau ymchwil posib.  Fel mae’r myfyrwyr yn ei ddweud ar y wefan, gobeithio y cewch eich annog ‘i edrych ar rywfaint o’r deunydd drosoch eich hunan’.  

Hanes Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Singleton Park Campus - Aerial View

Yn ddiweddar cynorthwyodd yr Archifau Dr Louise Miskell, Adran Hanes a’r Clasuron, wrth ddarparu modiwl prosiect ymchwil ar hanes Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

 

Gweithiodd y myfyrwyr ar gofnodion Undeb y Myfyrwyr yn yr Archifau, gan gynhyrchu pamffled, baner a gwefan.

 

Mae’r wefan yn rhoi adroddiad o ddegawd i ddegawd o weithgareddau undeb y myfyrwyr ers y 1920au hyd at heddiw. Mae’n werth cael cip ar yr hyn y maent wedi’i wneud a chofiwch adael nodyn.

Gwobr am Hanes Undeb y Myfyrwyr

Canfyddwch fwy am ymchwil Siôn Durham, fel rhan o’i ail flwyddyn ar gyfer cwrs newydd, ‘Ymchwilio ac Ail-ddweud y Gorffennol: Prosiect Hanes Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe’.

Yn y ffilm hon, mae Siôn yn disgrifio hanes unigryw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe a sut y bu modd iddo archwilio ei hanes drwy ffynonellau niferus a gedwir yn yr Archifau.

Siôn Durham – Ymchwilio Undeb y Myfyrwyr yn Archifau Richard Burton

Prosiect Rush Rhees yn ennill gwobr

Mae academydd yr oedd angen iddo ymweld ag Archifau Richard Burton yn rhan o’i ymchwil, wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol Archifau Cymru Tell us Your Story. Roedd angen i ymgeiswyr ddisgrifio eu profiad o ddefnyddio archifau, ac esbonio sut y gwnaeth hynny eu helpu gyda’u prosiect.

Ymwelodd Christian Erbacher o Brifysgol Bergen yn Norwy ag Archifau Richard Burton i ddefnyddio casgliad Rush Rhees. Roedd Rhees yn athronydd, a oedd yn adnabyddus yn bennaf fel myfyriwr, ffrind a gweithredwr llenyddol yr athronydd Wittgenstein. Bu Rhees yn addysgu athroniaeth ym Mhrifysgol Abertawe o 1940 tan 1966. Meddai Christian: "Rydw i wedi teithio mil o filltiroedd i gyrraedd Archifau Richard Burton, ac roedd hi'n werth yr ymdrech. Bob tro y bu i mi agor ffolder newydd roedd hi fel petawn i'n gosod troed ar dir newydd.”