Dod o hyd i'ch cartref newydd yn Abertawe

Tri myfyriwr yn cerdded ar y campws

Croeso i Wasanaethau Preswyl

Rydym ni'n deall bod symud i wlad newydd yn gam mawr, a dyma pam rydym ni'n gwarantu llety i fyfyrwyr rhyngwladol yn ystod eich blwyddyn gyntaf o astudio, ar yr amod ein bod ni'n derbyn y cais erbyn y dyddiad cau blynyddol (israddedig a ôl-raddedig).

Gall ddod o hyd i'r llety cywir wneud gwahaniaeth mawr pan ddaw i ymgartrefu. Mae gennym sawl opsiwn llety ar gael, ac mae ein tîm ymroddedig wrth law i'ch helpu, bob cam o'r ffordd.

Pa opsiwn sydd orau i fi?

Mae dewis eich llety yn dibynnu ar sawl ffactor, megis y cwrs rydych chi'n ei astudio, y lleoliad yr hoffech chi fyw ynddo a'ch dewisiadau o ran trefniadau coginio a byw. Mae llety un rhyw a dim alcohol ar gael yn yr holl breswylfeydd, ac mae gennym sawl ystafell addasedig a hygyrch os bydd angen. Nodwch a hoffech chi fyw yn un o'r ardaloedd hyn ar eich ffurflen gais.

Os ydych chi'n byw dramor, efallai y bydd hi'n anodd dod i ymweld â phreswylfeydd yn bersonol, ond mae gennym deithiau rhithwir defnyddiol iawn. Rydym ni hefyd yn argymell i chi ddod i ddigwyddiadau Diwrnod Agored lle gallwch ofyn cwestiynau ac ymuno â sgyrsiau.

Cymerwch gipolwg ar ein preswylfeydd i gael rhagor o wybodaeth am y llety gwahanol sydd ar gael yn ystod eich blwyddyn astudio gyntaf.

 

Byw oddi ar y campws

Mae rhai myfyrwyr yn penderfynu y byddai'n well ganddynt fyw oddi ar y campws mewn tai a fflatiau'r sector preifat yn Abertawe. Os nad yw preswylfeydd myfyrwyr yn addas i chi, mae gennym opsiynau eraill ar eich cyfer. Mae ein cronfa ddata chwiliadwy ar-lein, Studentpad, yn eich galluogi i ddod o hyd i dai preifat sydd ar gael, yn agos at y ddau gampws, yn ogystal â chyfleusterau lleol fel siopau, bariau a bwytai. Dyma ffordd ddi-drafferth o chwilio am dŷ, ac mae’n llai o straen.

Mae’r Tîm Llety bob amser yn hapus i helpu ac maen nhw’n gallu eich cefnogi gyda phob cam o'r broses.

Angen rhagor o help wrth benderfynu beth sy'n iawn i chi?

Gwrandewch ar rai o'n myfyrwyr yn siarad am lety ar y campws ac oddi ar y campws.