Sut i dalu eich ffioedd

Atebion i'ch Cwestiynau Cyffredin

Myfyrwyr nad ydynt am gymryd benthyciad ffioedd dysgu neu sydd wedi cael gwybod nad ydynt yn gymwys i dderbyn un.

Mae angen i chi wneud trefniadau i dalu costau'r ffioedd dysgu yn uniongyrchol i'r Brifysgol.

A allaf dalu’r ffi lawn o flaen llaw?

Gallwch. Gellir talu’n llawn adeg cofrestru neu cyn hynny. Os ydych am dalu gyda siec, gwnewch eich siec yn daladwy i Brifysgol Abertawe ac ysgrifennwch eich rhif myfyriwr ar y cefn. Dylid anfon sieciau i Brifysgol Abertawe, yr Adran Gyllid, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP. Hefyd, gallwch dalu trwy gerdyn debyd/credyd trwy ffonio +44 (0)1792 295436, 295523, 295001 neu 295684. Os ydych yn penderfynu talu dros y ffôn cofiwch na allwch wneud hynny yn ystod yr wythnos yn dechrau dydd Llun 24ain Medi 2012. Y rheswm am hyn yw y bydd yr holl staff ar ddyletswydd yn y lleoliad cofrestru. Os ydych yn penderfynu talu’n llawn cyn cofrestru ar-lein, gadewch 5 diwrnod gwaith cyn defnyddio’r system gofrestru ar-lein. Mae’n annhebygol y bydd y taliad wedi’i gredydu i’ch cyfrif cyn yr amser hynny. Gallwch hefyd dalu yn llawn â cherdyn credyd/debyd wrth gofrestru ar-lein gan ddefnyddio ein system dalu ddiogel.

Ydych chi’n cynnig unrhyw ostyngiad o ran talu?

Os yw'r ffi bersonol y mae'n rhaid i chi ei thalu'n uniongyrchol i'r Brifysgol yn fwy na £8,000 a gwneir y taliad hwnnw'n llawn cyn Hydref 7fed 2012 yna bydd hawl gennych dderbyn gostyngiad o 2%. Dim ond i fyfyrwyr sy’n talu ffioedd yn bersonol y mae’r gostyngiad ar gael. Nid yw ar gael i noddwyr corfforaethol.

Ydych chi’n derbyn taliad dros y we?

Ar hyn o bryd dim ond gan fyfyrwyr sy’n cofrestru ar-lein y gallwn dderbyn taliadau dros y we. Mae’r system derbyn taliadau ar y we wedi’i chysylltu'n uniongyrchol â’r broses gofrestru. Mae’r system hon yn golygu y gallwch dalu’n llawn â cherdyn debyd/credyd neu greu/diwygio cyfarwyddiadau debyd uniongyrchol.

Pa delerau talu ydych chi’n eu cynnig?

Os dewiswch fanteisio ar yr opsiwn i dalu drwy randaliadau, byddem yn gofyn i chi gyflwyno mandad debyd uniongyrchol fel rhan o'r broses cofrestru ar-lein. Byddwn yna’n gwneud trefniadau i gasglu’r ffioedd ar 14eg Tachwedd 2012 a 13eg Chwefror 2013. Dim ond drwy ddebyd uniongyrchol yr ydym yn derbyn taliadau mewn rhandaliadau.

Enghraifft o dalu
Cyfraniad ffi personol = £3,465
Taliad i’w wneud ar 14eg Tachwedd, 2012 trwy ddebyd uniongyrchol = £1,732.50

Taliad i’w wneud ar 13eg Chwefror 2013 trwy ddebyd uniongyrchol = £1,732.50

Gwnewch yn siwr bod eich cyfrif banc yn caniatáu taliadau trwy ddebyd uniongyrchol cyn cwblhau’r mandad.

Rwyf wedi gwneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu ond yn pryderu nad ydyw wedi ei gadarnhau’n derfynol hyd yma.

Peidiwch â phoeni gan nad yw hyn yn anghyffredin a bydd llawer o fyfyrwyr yn yr un  sefyllfa. Yr hyn mae’n ei olygu yw y bydd y Brifysgol yn ystyried eich bod yn gyfrifol am dalu eich ffioedd eich hun hyd nes y cawn dystiolaeth bod y benthyciad ffioedd dysgu yn ei le. Os cewch eich hun yn y sefyllfa hon disgwylir i chi greu debyd uniongyrchol er mwyn cofrestru ond nid yw’r taliad cyntaf yn ddyledus tan 13 Tachwedd a dylai hyn roi digon o amser i gadarnhau eich benthyciad yn derfynol. Pan fydd eich benthyciad wedi’i gadarnhau yn derfynol ac y bydd y Brifysgol yn ymwybodol o hynny, yna bydd y debyd uniongyrchol yn cael ei ganslo ac ni fyddwch yn atebol am dalu’r ffioedd. Dull diogelu pellach i chi yw na allwn wneud cais am ddebyd uniongyrchol heb roi 10 diwrnod o rybudd.

Rydw i'n fyfyriwr sy'n byw yng Nghymru. Onid yw'r Grant Ffioedd yn cael ei ddyfarnu'n awtomatig?

Nac ydy. Mae'n rhaid i chi wneud cais am y grant drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru.

A fyddaf yn cael rhybudd ymlaen llaw o’r dyddiad pryd y mae rhandaliadau ffioedd dysgu yn ddyledus?

Byddwch, ar ôl cofrestru byddwch yn derbyn datganiad o gyfrif drwy eich cyfrif myfyrwyr e-bost cyn y rhandaliad nesaf. Bydd hwn yn amlinellu’n glir faint sy’n ddyledus i’w dalu gennych, faint rydych wedi’i dalu, y dyddiad pan fydd y taliad yn ddyledus a’r dull talu sy’n berthnasol yn eich achos chi. Dylech fod yn ymwybodol ein bod yn cyfyngu gohebiaeth â myfyrwyr i’r hyn sy’n cael ei anfon at eu cyfrifon e-bost myfyriwr. Yn unol â Rheoliadau’r Brifysgol disgwylir i’r holl fyfyrwyr cofrestredig edrych ar eu cyfrif e-bost myfyriwr yn rheolaidd.

Gwybodaeth Bellach

A fedraf dalu ag arian parod?

Er eich diogelwch personol cynghorir chi i beidio â thalu ffioedd ag arian parod. Y nod wrth gynnig nifer o ddulliau talu yw osgoi’r angen i gario symiau mawr o arian parod.

Sylwer:  Ni dderbynnir arian parod yn ystod y cyfnod cofrestru.

Beth os ydw i’n cael fy noddi?

Mae rhai myfyrwyr yn cael cymorth ar gyfer ffioedd o ffynonellau eraill megis cwmnïau, ysgoloriaethau, cronfeydd ymddiriedolaeth, a llywodraethau ac ati. Os mai dyma yw’r achos mae’n rhaid i’r Brifysgol weld tystiolaeth ddogfennol o ddyfarniad. Rhaid cyflwyno’r dystiolaeth hon adeg cofrestru neu cyn hynny a dylai gyfeirio’n benodol at ffioedd am y Flwyddyn Academaidd 2012-2013. Dylech ofyn i’ch noddwr lenwi Ffurflen Cadarnhau Nawdd y gellir ei hargraffu o’r ddolen ganlynol. https://intranet.swan.ac.uk/documents/sis/sponsorpg.doc

Ni chaiff myfyrwyr sy’n honni eu bod yn derbyn nawdd ganiatâd i gofrestru heb ddogfennaeth briodol. Disgwylir i noddwyr dalu anfonebau o fewn 30 diwrnod. Bydd y Brifysgol dim ond yn parhau i gydnabod sefydliad fel noddwr cyfreithlon os bydd taliadau yn cael eu derbyn yn brydlon. Nid ydym yn ystyried rhieni/teulu fel noddwyr at ddibenion y diffiniad hwn ac rydym yn cadw’r hawl i wrthod llythyrau cyflwyno nawdd dan rai amgylchiadau.

Beth os bydd fy noddwr yn methu â thalu?

Mae hyn yn anarferol iawn, ond petai noddwr yn methu â thalu’r cyfan neu ran o unrhyw ffi sy'n ddyledus, yna chi fydd yn gyfrifol am dalu unrhyw swm sy’n ddyledus.

Taliadau Cosb

Er mwyn talu am y costau gweinyddol ychwanegol o brosesu hawliau debyd uniongyrchol heb eu talu a sieciau a wrthodir, mae’r Brifysgol yn codi tâl o £25 am bob eitem na chaiff ei thalu.

Pwy all drafod fy sefyllfa talu ffioedd dysgu?

Mae Deddfwriaeth Diogelu Data yn golygu mai dim ond â chi y gallwn drafod sefyllfa ffioedd dysgu personol oni bai ein bod wedi cael eich caniatâd ysgrifenedig chi i drafod ag unigolyn a enwebir gennych. Mae’r cyfyngiadau hyn yn berthnasol hefyd os mai eich rhieni sy’n talu eich ffioedd.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n ei chael hi’n anodd talu fy ffioedd?

Cyhyd ag yr ydym yn cynnig yr hyn a gredwn sy’n gynllun teg iawn ar gyfer talu ffioedd mewn rhandaliadau rydym yn disgwyl i daliadau gael eu gwneud ar y dyddiadau dyledus a roddwyd. Os cewch eich hun mewn trafferthion ariannol fe'ch cynghorir yn gryf i gysylltu â’r Swyddfa Cyngor a Chymorth Ariannol yn yr Adran Gwasanaethau Myfyrwyr a fydd yn gallu eich helpu gyda chyngor a Chronfeydd Caledi.

Y senario waethaf o beidio â thalu ffioedd yw efallai y bydd gofyn i chi, yn unol â Rheoliadau'r Brifysgol, ohirio eich astudiaethau ac ailgofrestru ar gyfer y Flwyddyn Academaidd nesaf (ar ôl i’r holl ffioedd sy’n ddyledus gael eu talu). Felly, mae’n bwysig nad ydych yn anwybyddu unrhyw ohebiaeth y byddwch yn ei derbyn gan yr Adran Gyllid.

Gyda phwy y gallaf siarad ynghylch talu ffioedd dysgu?

Dylech gysylltu â’r Adran Incwm sydd wedi ei lleoli ar lawr gwaelod yr Adeilad Cyllid.  Gallwch ffonio 01792 295436/295523, ffacsio 01792 295771 neu e-bostio income@abertawe.ac.uk.

Sylwer:  Os oes arnoch unrhyw arian o unrhyw gyfnod blaenorol o astudio yn y Brifysgol hon, ni chewch ailgofrestru hyd nes bod y ddyled wedi ei thalu yn llawn