Myfyrwyr israddedig newydd

Cyfarwyddiadau

Cyfarwyddiadau cofrestru a sefydlu swyddogol Prifysgol Abertawe.

Medi 2012 Cyfarwyddiadau cofrestru

Cyfarwyddiadau cofrestru i fyfyrwyr israddedig newydd

  • Cyn i chi gyrraedd, er mwyn i ni allu cynhyrchu eich Cerdyn Adnabod Prifysgol newydd, anfonwch lun pasbort lliw diweddar gyda’ch rhif myfyriwr a’ch enw wedi’i ysgrifennu ar y cefn a’i bostio’n ôl at: Swyddfa Cofnodion Myfyrwyr, Abaty Singleton, Parc Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP, Cymru, y DU.  
  • Mae'n bwysig iawn eich bod yn gwenud hyn os ydych wedi gweud cais am fenthyciad myfyriwr, gan fod casglu eich cerdyn adnabod yn sbarduno taliad cyntaf eich benthyciad/tal cynhaliaeth i'ch cyfrif banc.

Cofrestru

Mae PEDAIR elfen y mae'n rhaid i chi eu cwblhau:

1. Cofrestru ar eich rhaglen astudio gyda'r Brifysgol (Cofrestru Myfyrwyr) - dilynwch y cyswllt ar y dde i gofrestru ar-lein

Cyn i’r tymor dechrau, cofrestrwch ar eich cwrs ar-lein i gael eich cydnabod yn ffurfiol fel myfyriwr yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. I gael manylion, porwch gofrestru ar-lein.

Os nad ydych yn gallu cofrestru ar-lein am ryw reswm, peidiwch â phoeni! Yn ystod wythnos y glas bydd staff ar gael i gynorthwyo ac os oes angen cewch gyfle i gofrestru ar y campws.  I gael manylion porwch sut i gofrestru yn bersonol.

2. Sefydlu Myfyrwyr – Ewch i’ch adran ar ddydd Llun

Mae eich diwrnod cyntaf yn y Brifysgol yn dechrau pan fyddwch yn mynd i leoliad sefydlu eich adran i gasglu eich ffurflenni cofrestru a derbyn deunydd ar gyfer eich cwrs, er enghraifft, amserlen a llawlyfr adrannol.

Efallai y bydd eich adran hefyd yn rhoi sgwrs sefydlu ynglyn â’ch astudiaethau, tiwtoriaid, dewis modiwlau, iechyd a diogelwch, cyfleusterau TG a mynychu digwyddiadau eraill yn ystod yr wythnos. Ar ôl y sesiwn gyflwyno gychwynnol hon bydd disgwyl i chi ddewis modiwlau trwy lenwi ffurflen dethol Modiwlau M sydd i’w dychwelyd i’ch ysgol/adran.

3. Cofrestru ar fodiwlau gyda’ch adran. 

Ar ôl y sesiwn sefydlu bydd disgwyl i chi gofrestru ar fodiwlau a chadarnhau pa fodiwlau y byddwch chi’n eu dilyn. Yn gyntaf, gwnewch yn siwr bod y modiwlau gorfodol sydd wedi’u hargraffu ymlaen llaw ar eich ffurflen dethol modiwlau M yn gywir. Os oes rhaid i chi ddethol modiwlau dewisol darllenwch lawlyfr eich adran a gofynnwch i staff am gyngor cyn dewis eich modiwlau. I gofrestru ar gyfer modiwlau dewisol dylech gael eich ffurflen dethol modiwlau wedi’i llofnodi gan staff sydd ar gael yn y lleoliadau dethol modiwlau hyn. Erbyn diwedd y broses dylech fod wedi dewis modiwlau sy’n rhoi cyfanswm o 120 credyd ac wedi dychwelyd eich ffurflen dethol modiwlau i’ch adran gartref.

4. Eich Cerdyn Adnabod Prifysgol

Yn ystod wythnos y Glas casglwch eich cerdyn Adnabod Prifysgol newydd o Dy Fulton (llawr uchaf), sydd ar agor bob dydd. COFIWCH fod yn rhaid eich bod wedi cofrestru ac mae’n rhaid i chi ddangos prawf adnabod, er enghraifft, pasbort, cerdyn adnabod y DU neu dystiolaeth adnabod arall â llun, cyn y rhoddir y cerdyn i chi.

Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur

 

 DYDDIAD DIGWYDDIAD
17 Medi Cofrestru arlein yn agor
 21-23 Medi  Penwythnos cyrraedd a chroeso
24 Medi Sefydlu ar gyfer cyrsiau Academiadd
24-28 Medi Wythnos y Glas
1 Hydref Dechrau'r tymor Addysgu

Eich benthyciad a'ch Grant Myfyriwr

Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC) yn rhoi gwybodaeth yn uniongyrchol i’r Brifysgol ynglyn â benthyciadau a grantiau myfyrwyr. Mae hyn yn golygu nad oes angen i ni weld eich llythyrau SLC ynglyn â chymorth ariannol oni bai bod yna anghysondeb rhwng y ffigurau yn eich llythyr a’r rhai sy’n ymddangos pan fyddwch chi’n cofrestru ar-lein neu sydd ar eich ffurflen cofrestru myfyriwr.

PWYSIG Er mwyn derbyn eich taliad benthyciad/grant cynhaliaeth cyntaf mae'n rhaid i chi gasglu eich cerdyn adnabod Prifysgol. Gallwch gasglu eich cerdyn o'r babell groeso yn ystod y penwythnos croeso, o Dy Fulton yn ystod Wythnos y Glas ac o'r Llyfrgell yn ystod y tymor.

Ar ôl i chi gofrestru’n llwyddiannus a dod i gasglu eich cerdyn, bydd y Brifysgol yn cadarnhau eich presenoldeb i’r SLC sy’n sbarduno taliad cyntaf eich benthyciad/grant cynhaliaeth i’ch cyfrif banc o fewn 5-3 diwrnod gwaith.

 

Cofrestru rhyngwladol

Cofrestru rhyngwladol

Yr hyn sydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol ei wybod wrth gyrraedd a chofrestru fel myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe

Darllen mwy

Ffioedd

Ffioedd

Sut i dalu eich ffioedd

Darllen mwy