Mae 92% o'n graddedigion mewn gwaith a / neu astudiaethau bellach o fewn chwe mis ar ôl graddio
(Data HESA 2009/2010)
Eich helpu i adeiladu'ch dyfodol
Mae'r profiad i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n cynnig ystod eang o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol trwy gymryd rhan mewn sawl agwedd o fywyd myfyriwr.
Gallwch ennill profiad gwerthfawr a sgiliau lefel uchel y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt trwy'n cyrsiau academaidd, a lle bynnag y bo'n bosib, mae cyrsiau'n cael eu hachredu gan gyrff proffesiynol; ewch i dudalennau gwe'r Colegau am ragor o wybodaeth.
Mae cyfleodd cyd-gwricwlar i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd yn cynnwys profiad gwaith cenedlaethol a rhyngwladol a rhaglenni astudio dramor a gwirfoddoli, ynghyd â chymdeithasau undeb y myfyrwyr a'r undeb athletau, gweithgareddau cymdeithasol a hamdden.
Enghreifftiau o fentrau Prifysgol Abertawe: